Gwarchodaeth Afon Dyfrdwy: Perfformiad yn erbyn y cynllun diogelwch ar gyfer gweithrediadau morol

Cyflwyniad

Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yw'r enw ffurfiol a roddir ar ardal harbwr ddiffiniedig y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn awdurdod gwarchodaeth, harbwr a goleudy lleol ar ei chyfer. Mae'r ardal harbwr hon yn cynnwys Afon Dyfrdwy a'i haber, yn ymestyn o Wilcox Point i lawr yr afon o'r gored yng Nghaer, tua'r môr at linell ddychmygol sy'n cysylltu'r Parlwr Du ar arfordir Cymru â Thrwyn Hilbre yng Nghilgwri.

Mae Cod Diogelwch Morol ar gyfer Porthladdoedd a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau porthladdoedd gyhoeddi cynllun diogelwch ar gyfer gweithrediadau morol. Cafodd System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ei datblygu i fodloni gofynion y Cod hwn.

Y cyfnod dan sylw yn adolygiad y deiliad dyletswydd yw 1 Hydref 2023 hyd at 30 Medi 2024.

Cynhaliwyd adolygiad ffurfiol o System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy gan y Deiliad Dyletswydd ar y cyd â'r Unigolyn Dynodedig a Harbwrfeistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ar 4 Hydref 2024. Mae'r Deiliad Dyletswydd yn derbyn canfyddiadau'r adolygiad ffurfiol, sy'n cael eu cyfleu yn Adroddiad yr Unigolyn Dynodedig.

Datganiad polisi

Mae CNC wedi ymrwymo i hyrwyddo rheolaeth dda o'r adnoddau sydd ar gael iddo, er mwyn:

  • Cynnal a rheoleiddio gweithrediadau morol mewn ffordd sy'n diogelu Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy, ei ddefnyddwyr, y cyhoedd a'r amgylchedd i gyflawni safon diogelwch morol sy’n ofynnol gan God Diogelwch Morol y Porthladd.
  • Hyrwyddo'r defnydd o Fwrdd Gwarchod Dyfrdwy a sicrhau bod ei ddatblygiad economaidd yn ystyried ac yn cydbwyso barn ac anghenion yr holl randdeiliaid o ran defnyddio adnoddau naturiol a gwarchod yr amgylchedd.

Amcanion y cynllun

Er mwyn bodloni gofynion y Cod a'n Datganiad Polisi, rydym yn adolygu'r cynnydd yn erbyn amcanion canlynol System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy:

Bydd y dyletswyddau a'r pwerau perthnasol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod CNC yn gallu rheoleiddio a gwarchod mordwyo diogel yn effeithiol o fewn ei ardal harbwr statudol a'i ddynesfeydd:

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Orchymyn Adolygu Harbwr Aber Dyfrdwy yn dangos bod yr Adran Drafnidiaeth yn gweithio gydag asiantiaid seneddol CNC i fwrw ymlaen ag arwyddo'r Gorchymyn Adolygu Harbwr. Mae’r cysylltiad rhwng CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a'i bartneriaid wedi cynyddu mewn ymateb i'r gwaith, i sicrhau dilyniant gwasanaethau Awdurdod Harbwr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy.

Bydd System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn cael ei chynnal yn seiliedig ar asesiad risg trylwyr:

Nid yw prif weithrediadau morol Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy wedi newid yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Mae System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn parhau i fod yn seiliedig ar asesiad risg ac yn cael ei chyfarwyddo ganddo. Mae'r pedwar asesiad risg ar wahân sy'n cwmpasu gweithrediadau morol o fewn y Bwrdd Gwarchod a'r dynesfeydd yn cael eu hadolygu unwaith bob tair blynedd, gyda gweithgareddau ad-hoc yn cael eu hasesu'n unigol. Cafodd adolygiad ffurfiol o System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2021, a chafodd adolygiad o'r asesiad ei gwblhau ym mis Ebrill 2022.

Cafodd methiannau a welwyd mewn Awdurdodau eraill eu cymharu yn erbyn System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy, yn dilyn cyhoeddi crynodeb Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau o wiriadau iechyd sy’n cydymffurfio â Chod Diogelwch Morol y Porthladd. Ar y cyfan, mae'r Bwrdd Gwarchod yn bodloni'r gofynion i safon uchel. Mae Grŵp Rheoli Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy wedi ei drefnu ac yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Yn unol â monitro System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy a Gweithdrefnau ar y Cyd, cynhaliwyd arolygiad a threfn archwilio llawn.

Bydd asesiadau risg ar gyfer gweithrediadau morol yn cael eu hadolygu'n gyson i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddilys a bod y rheolaethau a nodwyd i liniaru risgiau yn briodol ac yn effeithiol wrth leihau'r risgiau gymaint ag y bo'n rhesymol yn ymarferol:

Mae Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn monitro gweithrediadau morol newydd sy'n digwydd yn yr aber a phan fo hynny’n ymarferol mae’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhell cyn iddynt gychwyn i sicrhau bod mesurau rheoli priodol yn cael eu cyflwyno lle bo angen. Mae asesiadau risg ar gyfer gwaith morol bach yn cael eu cwblhau pan fo angen.

Bydd y gofynion monitro, archwilio ac adolygu, sydd wedi’u dogfennu o fewn y System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn cael eu gweithredu fel y bo'n briodol gan Harbwrfeistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy, dirprwy enwebedig, neu gontractwr awdurdodedig:

Mae'r broses archwilio eleni wedi cael ei chwblhau unwaith eto gan gyfeirio at adrannau perthnasol o Gymorth Cof Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau i Arolygwyr sy’n bresennol fel y gwelir yng nghanllawiau diweddaraf Cod Diogelwch Morol y Porthladd. Mae lefel gyffredinol y gydymffurfiaeth yn debyg i archwiliad y llynedd, gyda phob diffyg wedi’i weithredu a’i gwblhau.

Bydd CNC yn darparu cymhorthion mordwyo er mwyn gwella diogelwch mordwyo a bodloni gofynion yr Awdurdod Goleudai Cyffredinol (Trinity House):

Mae Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn parhau i ddarparu cymhorthion mordwyo sy'n caniatáu i longau deithio ar draws yr afon a’r aber yn ddiogel yn ystod cyfnodau dŵr uchel addas. Mae'r adolygiad parhaus o’r data arolygon sydd ar gael yn golygu y gall newidiadau i leoliadau’r sianel gael eu monitro ac y gellir defnyddio cymhorthion mordwyo neu gael gwared ohonynt yn ôl y galw.

Bydd CNC yn monitro ac yn cynnal ei gymhorthion mordwyo er mwyn sicrhau bod ei safonau perfformiad yn bodloni'r gofynion targed a osodwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol Cymhorthion Morol ar gyfer Awdurdodau Mordwyo a Goleudai:

Mae'r holl gymhorthion mordwyo yn cael eu harchwilio'n wythnosol ac yn destun amserlen gynnal a chadw sy’n cael ei chynllunio’n flynyddol. Mae'r adolygiad parhaus o ddata arolygon sydd ar gael wedi caniatáu i leoliadau’r sianel gael eu monitro a'u marcio'n gywir.

Mae CNC, fel awdurdod goleudy lleol yn parhau i ragori ar y meini prawf perfformiad a osodwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol Cymhorthion Morol ar gyfer Awdurdodau Mordwyo a Goleudai ar gyfer pawb ond y rhai ar Wal Hyfforddi'r Gogledd.

Dyddiad: 12 Tachwedd 2024

Llofnodwyd: Gareth O'Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gweithrediadau

Diweddarwyd ddiwethaf