Bioddiogelwch ym moryd yr Afon Ddyfrdwy
Rhywogaethau neu isrywogaethau sydd i’w cael y tu hwnt i’w cynefin naturiol ac a gyflwynir i ddyfroedd newydd yn sgil gweithredoedd pobl yw rhywogaethau estron goresgynnol – y’u gelwir hefyd yn rhywogaethau anfrodorol neu egsotig.
Ceir oddeutu 2000 o rywogaethau estron ym Mhrydain Fawr, ac mae rhyw 300 o’r rhain yn rhywogaethau estron. Tra bod y rhan fwyaf o rywogaethau estron goresgynnol yn gwbl, neu’n weddol, ddiniwed, mae rhai yn cael effaith sylweddol ar ein bioamrywiaeth frodorol yn sgil cystadleuaeth a chlefydau, a hefyd ar ein heconomi gan fod y dasg o’u rheoli neu eu difa yn ddrud yn aml.
Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â rhywogaethau goresgynnol yng Nghymru a Lloegr ac rydym yn gweithio gyda phawb sy’n defnyddio’r môr er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch y rhywogaethau hyn. Trwy weithio gyda’n gilydd a thrwy fod yn wyliadwrus, gallwn ymdrin â rhywogaethau goresgynnol newydd yn ddi-oed, a thrwy hynny eu rhwystro rhag ymsefydlu, a lleihau unrhyw effeithiau tebygol.
Ystyrir bod llunio a gweithredu cynlluniau bioddiogelwch sy’n ymwneud â digwyddiadau neu weithrediadau penodol yn arfer da. Gall cynlluniau gyfrannu mewn modd cadarnhaol at reoli cyflwyniad ac ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol yn ein dyfroedd.
Gellir cael cyngor diweddaraf ar gyfer defnyddwyr masnachol a hamdden y warchodaeth.