Ein rôl wrth gynllunio a datblygu
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyflenwi datblygiad cynaliadwy trwy weithio'n agos ac yn rhagweithiol gyda'n partneriaid a'n cwsmeriaid i helpu i gyfeirio datblygiad i'r lleoliadau mwyaf priodol.
Mae awdurdodau cynllunio a datblygwyr yn ymgynghori â ni i gael ein cyngor arbenigol ar effeithiau amgylcheddol tebygol o gynigion datblygu. Rydym hefyd yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol sy'n paratoi cynlluniau datblygu.
Rydym yn ceisio sicrhau bod ein cyngor wedi'i seilio ar dystiolaeth, yn glir, ac yn gyson i helpu cyrff sy'n penderfynu a datblygwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn amgylcheddol.
Mae ein pynciau ymgynhori yn amlinellu pryd yr ydym eisiau i awdurdodau cynllunio ac ymgeiswyr ymgynghori â ni.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i ymgeiswyr ar gael trwy ymweld ag adran Ein gwasanaeth i ddatblygwyr.
Gwiriwch y cyfyngiadau amgylcheddol sy’n berthnasol i’ch datblygiad
Gallwch ddefnyddio data gofodol ‘Lle’ i wirio rhai o’r cyfyngiadau amgylcheddol ar ein rhestr wirio sy’n berthnasol i’ch datblygiad.
Mae ‘Lle’ yn ganolbwynt ar gyfer data a gwybodaeth a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gweler y rhestr isod o gyfyngiadau amgylcheddol sydd ar ein rhestr wirio cynllunio datblygu a geir ar Borth Lle. Pan na fyddant ar gael ar Lle, rydym wedi cynnwys dolen sy’n arwain at ffynonellau ychwanegol lle y gallwch gael gafael ar ddata a gwybodaeth.
Haenau Data Gofodol | Lleoliad y Data |
---|---|
Safleoedd tirlenwi hanesyddol |
Porth Lle |
Prif afonydd |
Porth Lle |
Parthau gwarchod tarddiad |
Porth Lle |
Parthau perygl nitradau |
Porth Lle |
Safle Adolygu Cadwraeth Ddaearegol |
Porth Lle |
Safleoedd gwarchodedig Ramsar, ACA (gan gynnwys rhai morol), AGA (gan gynnwys rhai morol), SoDdGA, GNC, PCM, AHNE |
Porth Lle |
Parciau cenedlaethol |
Porth Lle |
Parth llifogydd 2 |
Porth Lle |
Parth llifogydd 3 |
Porth Lle |
Amddiffynfeydd rhag llifogydd |
Porth Lle |
Parth C1 MCD |
|
Parth C2 MCD |
|
Dynodi dyfrhaenau Cymru: daeareg creigwely a dyddodion arwynebol |
http://mapapps2.bgs.ac.uk/geoindex/home.html?topic=Hydrogeology%20Wales
|
Perygl i ddŵr daear Cymru: daeareg creigwely a dyddodion arwynebol |
http://mapapps2.bgs.ac.uk/geoindex/home.html?topic=Hydrogeology%20Wales
|
Prif garthffosydd |
Ar gael ar gais trwy gysylltu â Dŵr Cymru
|
Rhywogaethau a warchodir gan Ewrop |
Cyflwyno'ch ymgynghoriadau i ni
Gallwch gyflwyno eich hymgynghoriadau cynllunio i un o'n timau cyngor cynllunio datblygiad. Mae eu manylion cyswllt i'w cael yma.
Ein hymatebion i ymgynghoriadau
Gallwch weld copïau o'n hymatebion i ymgynghoriadau llywodraeth a rhai cyhoeddus eraill yn ein hymatebion i ymgynghoriadau.
Gweler hefyd:
- Ein gwasanaeth i ddatblygwyr
Dysgwch fwy am y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yng nghyfnod cyn ymgeisio eich datblygiad. Mae'r adran hon hefyd yn cynnig mynediad at ganllaw manylach ar nifer o destunau amgylcheddol - Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
Dysgwch fwy am ein rôl yn y drefn ganiatáu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol - Cynllunio Morol Dysgwch fwy ynglŷn â'n rôl o fewn cynllunio morol a diogelu'r amgylchedd morol
- Adrodd Dysgwch fwy am sut yr ydym yn adrodd ar ein rôl o fewn y system cynllunio