Cyngor i awdurdodau cynllunio sy'n ystyried cynigion sy'n effeithio ar goetir hynafol
Mae’r dudalen hon yn amlinellu ein cyngor safonol i’r holl geisiadau cynllunio a allai effeithio ar goetir hynafol (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol).
Os bydd rhywun yn cysylltu â ni i drafod ceisiadau lle bo coetir hynafol yn cyfyngu ar ddatblygiad, ni fyddwn yn darparu cyngor penodol, heblaw mewn achosion lle mae’r coetir hynafol yn rhan o safle ddynodedig.
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio at ddefnydd awdurdodau cynllunio wrth wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau datblygu sy’n effeithio ar goetir hynafol.
Bydd hefyd yn ddefnyddiol i wneuthurwyr penderfyniadau sy’n gyfrifol am brosiectau seilwaith mawr, megis cynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd.
Cyngor CNC ar ddatblygiadau sy’n effeithio ar goetir hynafol
Mae Polisi Cynllunio Cymru’n cydnabod gwerth sylweddol coetiroedd hynafol ac yn gweithio er mwyn eu diogelu rhag cael eu difrodi neu eu colli.
Rydym ni’n cynghori y dylid gwrthod caniatâd cynllunio os bydd datblygiad yn arwain at golled neu ddirywiad coetir hynafol, gan fod coetir hynafol yn unigryw, heblaw bod rhesymau cwbl eithriadol dros ei ganiatáu.
Pan fo’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau’n fodlon bod rheswm cwbl eithriadol dros ddatblygu, dylid gwneud pob ymdrech i achosi cyn lleied o golledion â phosibl a gwneud iawn amdanynt. Er nad oes modd i strategaeth adfer wneud iawn yn gyfan gwbl am golli coetir hynafol, dylai gynnwys:
- plannu coetir brodorol neu borfa goediog i wella cydnerthedd coetir hynafol;
- adfer neu reoli coetir hynafol arall, gan gynnwys planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, a choetir pori;
- cynigion sy’n cysylltu coetir gyda choed hynafol a choed hynod sydd wedi eu gwahanu gan ddatblygiad gyda seilwaith gwyrdd;
- cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer coetir newydd a choetir hynafol;
- plannu coed unigol a allai ddatblygu i fod yn goed hynod a choed hynafol yn y dyfodol;
- monitro ecoleg y safle dros gyfnod y cytunir arno.
Sut a phryd y dylid ystyried effeithiau posibl ar goetiroedd hynafol?
Mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol yn rhestru coetiroedd lle bu gorchudd coetir am gyfnod di-dor o ganrifoedd. Mae astudiaethau’n dangos fod y coetiroedd hyn fel arfer yn fwy amrywiol yn ecolegol ac o werth cadwraeth uwch na’r rhai a ddatblygwyd yn ddiweddar neu’r rheiny lle bu’r gorchudd coetir ar y safle yn ysbeidiol. Gallant hefyd fod yn bwysig o safbwynt diwylliannol.
Gallwch ddod o hyd i’r holl ardaloedd sydd wedi’u dynodi’n goetir hynafol yng Nghymru ar wefan Lle.
Mae’r map yn dangos ffiniau coetiroedd hynafol ledled Cymru.
Gellir defnyddio’r rhestr o goetiroedd hynafol i helpu i benderfynu a oes angen parth clustogi i ddiogelu’r coetir hynafol rhag effeithiau posibl y datblygiad arfaethedig. Dylai’r parth clustogi neu ddiogelu fod yn seiliedig ar arolwg ac asesiad gyda thystiolaeth.
Osgoi effeithiau, lleihau (lliniaru) effeithiau, a gwneud iawn fel opsiwn olaf
Dylai ymgeiswyr/datblygwyr ganfod ffyrdd i osgoi effeithiau negyddol ar goetiroedd hynafol neu goed hynafol a hynod. Gallai hyn gynnwys dewis safle arall i’w ddatblygu neu ail ddylunio’r cynllun.
Darllenwch ein cyngor i ddatblygwyr ar sut i osgoi neu liniaru effeithiau ar goetir hynafol
Dylai awdurdodau cynllunio lleol ofyn i ddatblygwyr am arolwg coed ac arolwg ecolegol, lle bo hynny’n briodol.
Dylai’r arolwg coed ddilyn y canllawiau a geir yma: British Standard BS 5837 ‘Trees in relation to demolition, design and development’.
Asesiadau ecolegol
Asesiadau Ecolegol Cychwynnol (PEA)
Asesiad Ecolegol Cychwynnol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio asesiad cyflym o’r nodweddion ecolegol sy’n bresennol, neu a allai fod yn bresennol, ar safle a’r ardal gyfagos (parth(au) dylanwad mewn perthynas â phrosiect penodol).
Mae Asesiad Ecolegol Cychwynnol fel arfer yn cynnwys astudiaeth desg ac arolwg ar droed, ac mae’r dulliau ar gyfer y rhain yn cael eu diffinio ymhellach yn Adran 2 o’r canllawiau.
Prif amcanion Asesiad Ecolegol Cychwynnol yw:
- canfod y cyfyngiadau ecolegol tebygol sy’n gysylltiedig â phrosiect;
- nodi unrhyw fesurau lliniaru sy’n debygol o fod yn angenrheidiol, gan ddilyn yr ‘Hierarchaeth Lliniaru’;
- nodi unrhyw arolygon ychwanegol a allai fod yn ofynnol er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EclA); a
- nodi’r cyfleoedd a gynigir gan brosiect i ddarparu gwelliant ecolegol.
Mae’r Canllawiau ar gyfer Asesiad Ecolegol Cychwynnol | CIEEM yn amlinellu sut i gwblhau Asesiadau Ecolegol Cychwynnol a’r defnydd priodol o asesiadau o fewn y broses gynllunio.
Os bydd Asesiad Ecolegol Cychwynnol yn canfod bod effeithiau sylweddol yn debygol ar goetir hynafol, mae’n bosibl y bydd angen EclA llawn.
Mae’n bosibl cwblhau asesiad ecolegol gan gynnwys ar gyfer coetir hynafol yn seiliedig ar Asesiad Ecolegol Cychwynnol yn unig, ar yr amod bod yr hierarchaeth lliniaru’n cael ei ddefnyddio a’i egluro’n glir (h.y. gallem dderbyn datganiad dull sy’n dangos y byddai effeithiau gwaith adeiladu’n cael eu hosgoi a byddai hynny’n osgoi’r gost y byddai angen i’r datblygwr ei dalu am EclA.).
Asesiadau o’r Effaith Ecolegol (EclA)
Dylai ecolegwyr sy’n cwblhau Asesiad o’r Effaith Ecolegol ddilyn y Canllawiau ar gyfer Asesiad o’r Effaith Ecolegol (EclA) | CIEEM.
Mae’r canllawiau hefyd yn rhoi syniad i’r rhai sy’n gyfrifol am benderfyniadau a’r rhai sy’n cyflwyno ceisiadau o’r wybodaeth angenrheidiol i allu rhoi ystyried briodol i brosiectau o ystyried deddfwriaeth a pholisi bioamrywiaeth.
Cod ymarfer ar gyfer cynllunio a datblygu - BS 42020:2013 Bioamrywiaeth (bsigroup.com)
Mae’r dogfennau canllaw uchod yn cynnwys popeth y byddai angen i ymgeisydd a/neu eich ymgynghorydd roi sylw iddo i asesu’r canlynol:
- Parth dylanwad
- Arolwg a thystiolaeth gwaelodlin;
- Pennu sensitifrwydd/gwerth y derbynnydd;
- Arwyddocâd yr effaith;
- Lliniaru/gwneud iawn;
- Beth yw’r llwybrau ar gyfer yr effeithiau;
- Sut y dylid ystyried effeithiau.
Cyflwr presennol coetir hynafol
Mae safleoedd coetir hynafol yn werthfawr oherwydd yr hanes ecolegol hirfaith sy’n arwain at rywogaethau a chynefinoedd amrywiol a phriddoedd coetir nodweddiadol. Mae coetir sydd mewn cyflwr gwael yn debygol o gynnwys nodweddion gweddilliol, a gellir ei wella gydag arferion rheoli da. Dylai ceisiadau datblygu wella cyflwr y coetir hynafol presennol lle bo hynny’n bosibl. Ni ddylid ystyried cyflwr gwael y coetir hynafol fel rheswm dros ganiatáu datblygiad a fyddai’n achosi colledion, dirywiad pellach neu’n rhwystro gwelliannau yn y dyfodol.
Defnyddio parthau clustogi neu ddiogelu
Bwriad parth clustogi neu ddiogelu yw gwarchod coetir hynafol, Dylai maint a math y parth clustogi neu ddiogelu amrywio yn ôl graddfa, math ac effaith y datblygiad.
Dylid defnyddio’r Arolwg Coed BS 5837, yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol a/neu Asesiad o’r Effaith Ecolegol fel sylfaen ar gyfer y parth clustogi neu ddiogelu ar gyfer pob coetir unigol, a choed hynod a hynafol. Mae’n bosibl mai dim ond ardal i ddiogelu’r gwreiddiau fyddai angen mewn rhai ardaloedd i atal effaith negyddol ar goed unigol neu grwpiau o goed, ac mae eraill yn debygol o ymestyn ymhellach. Er enghraifft, effaith llygredd aer yn deillio o ddatblygiad sy’n arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig neu darddle llygredd penodol. Mae arweiniad ar gael ar ein tudalennau Asesu Amonia ynghylch y pellter gofynnol ar gyfer sgrinio am effeithiau posibl amonia.
Lle bo’n bosibl, dylai parth clustogi neu barth diogelu:
- gyfrannu at rwydweithiau ecolegol ehangach;
- bod yn rhan o seilwaith gwyrdd yr ardal.
Dylai gynnwys cynefinoedd lled-naturiol sydd wedi’u cadw, megis coetir a/neu gymysgedd o brysgwydd, glaswelltir, rhostir a gwlypdir.
Dylai datblygwyr ystyried a yw mynediad cyhoeddus yn briodol, a dylid caniatáu mynediad ar droed yn unig i barthau clustogi neu barthau diogelwch os na chaiff y cynefin ei ddifrodi trwy sathru.
Dylai datblygwyr osgoi cynnwys gerddi mewn parthau clustogi neu barthau diogelwch.