Gall datblygiadau morol y mae’n ofynnol cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol yn eu cylch fod yn amodol ar setiau lluosog o ddeddfwriaeth, polisïau a chynlluniau amgylcheddol, yn dibynnu ar y math o ddatblygiad, ei raddfa a’i leoliad.

Cyd-destun cyfreithiol

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol

Mae Atodlenni Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol 2020 yn amlinellu datblygiadau lle mae cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol yn orfodol (Atodlen 1) a datblygiadau sy'n amodol ar broses sgrinio i benderfynu a yw asesiad o'r effaith amgylcheddol yn angenrheidiol (Atodlen 2).

Mae gan y DU setiau gwahanol o reoliadau ar gyfer cymhwyso asesiad o’r effaith amgylcheddol i drefniadau rheoleiddiol penodol. Y rhai mwyaf cyffredin ar gyfer datblygiadau morol yw:

  • Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 (fel y'u diwygiwyd). Yr Arolygiaeth Gynllunio yw'r awdurdod priodol ar gyfer y broses o asesu'r effaith amgylcheddol.
  • Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (fel y'u diwygiwyd), sy'n gofyn am gydsyniad gan Wasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (Cymru) neu'r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) (Lloegr).
  • Rheoliadau Gwaith Trydan (Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2000 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Gwaith Harbwr (Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol) 1999 (fel y'u diwygiwyd), sy'n gofyn am gydsyniad gan Lywodraeth Cymru.
  • Rheoliadau Dŵr (Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003 (fel y'u diwygiwyd), sy'n gofyn am gydsyniad gan Wasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (fel y'u diwygiwyd), sy'n gofyn am gydsyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol.
  • Mae atodiadau'r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol yn amlinellu pa ddatblygiadau y mae'n ofyniad gorfodol cyflawni asesiad o'r effaith amgylcheddol arnynt (Atodiad I), a pha ddatblygiadau sy'n destun i ddisgresiwn aelod-wladwriaethau’r o safbwynt a fydd yn ofynnol cyflawni asesiad o'r effaith amgylcheddol arnynt (Atodiad II). Mae'r rhain wedi'u hamlinellu yn ôl atodlenni trefniadau rheoliadol penodol yn Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol y DU.

Lle mae Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol a chydsyniadau lluosog yn gymwys, arfer da yw darparu un datganiad amgylcheddol sy'n cynnwys gofynion pob cydsyniad perthnasol, a chyfeiriadau clir iddynt.

Deddfwriaeth allweddol arall

Lluniodd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 system newydd o reolaeth forol a datblygu cynaliadwy yn nyfroedd y DU, gan gynnwys pwerau ar gyfer cynllunio morol a thrwyddedu morol.

Mae Deddf Cynllunio 2008 yn amlinellu nifer o drothwyon yr ystyrir bod mathau penodol o brosiectau seilwaith mawr sydd y tu hwnt iddynt yn Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (Nhsips) sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). Mwy am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gan Gynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Deddfwriaeth yng Nghymru

Mae'r ddau ddarn o ddeddfwriaeth hyn, a'r dogfennau cysylltiedig, yn ddefnyddiol wrth lywio gwaith asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac yn helpu i osod y cynnig datblygu yn y cyd-destun priodol yng Nghymru.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 – sy'n amlinellu sut i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd sy'n fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae'n gosod yr angen am Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, Polisi Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – sy'n amlinellu sut y bydd Cymru'n gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy amlinellu saith nod llesiant. Fel corff cyhoeddus, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio tuag at y nodau. Rydym yn gwneud hyn drwy ystyried effeithiau hirdymor ein cyngor a'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud.

Cyd-destun polisi

Y polisïau cynllunio sy'n berthnasol i ddatblygiadau morol yng Nghymru yw'r canlynol:

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sy'n amlinellu sut y bydd Cymru'n datblygu'r moroedd mewn ffordd gynaliadwy trwy bolisïau cyffredinol a rhai sy'n benodol i sector. Mae'n rhaid i'r awdurdodau cyhoeddus perthnasol ystyried y cynllun wrth wneud penderfyniadau. Bydd angen i unrhyw asesiad ddangos sut y cydymffurfiwyd â pholisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae'r cynllun yn amlinellu'r hierarchaeth liniaru, sef osgoi, lleihau a lliniaru effeithiau.

Datganiad Polisi Morol y DU, sy'n amlinellu polisïau ar gyfer gwneud penderfyniadau yn yr amgylchedd morol a'r angen am ddull o ddatblygu cynlluniau morol sy'n rhoi sylw i ecosystemau.

Datganiadau Polisi Cenedlaethol, sy'n amlinellu amcanion y llywodraeth ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Defnyddir y rhain i lywio gwaith datblygu ac i helpu i wneud penderfyniadau.

Ar gyfer datblygiadau lle mae'n ofynnol asesu'r effaith amgylcheddol, dylech nodi'r polisïau sy'n berthnasol i'r prosiect datblygu, a sut y maent yn cefnogi'r prosiect, yn y datganiad amgylcheddol. Os yw'r prosiect yn gwyro o bolisïau, bydd angen i chi roi cyfiawnhad am hynny.

Ffynonellau tystiolaeth, gwybodaeth a chanllawiau

Ceir llawer o ffynonellau o wybodaeth, tystiolaeth a chanllawiau y gellir eu defnyddio i lywio asesiad o'r effaith amgylcheddol. Yma, rydym wedi rhestru rhai defnyddiol, ond mae llawer mwy ar gael:

Ceir data a gwybodaeth amgylcheddol y gellir eu lawrlwytho o'r Porth-Daear ar wefan Lle

Defnyddiwch Borthol Cynllunio Morol Cymru ar gyfer gwybodaeth ofodol o safbwynt y dystiolaeth sydd ar gael

Mwy o wybodaeth am yr Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer Ynni ar y Môr.

Gwybodaeth am gynlluniau prydlesu Ystad y Goron ar gyfer gweithgareddau morol ac ar wely'r môr.

Mae'r Gyfnewidfa Data Morol yn darparu mynediad i ddata ac adroddiadau a gesglir gan ddiwydiannau ynni adnewyddadwy ar y môr ac agregau morol.

Gwybodaeth am Gyd-raglen y Diwydiant Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORJIP) ar gyfer ynni cefnforol ac ynni gwynt ar y môr. Mae'r rhain yn gynlluniau ar y cyd sydd â'r nod o leihau'r risg sydd ynghlwm wrth roi caniatâd i brosiectau.

Ewch i'n tudalen canllawiau morol ac arfordirol am fwy o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf