Yr hyn y mae cynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol yn ei olygu
Cynnal ymarfer cwmpasu yw'r cam lle amlinellir yr hyn sydd angen rhoi sylw iddo ar gyfer asesu’r effaith amgylcheddol, er mwyn helpu i ddiffinio sut i feddwl am yr asesiad, a pha wybodaeth y gallai fod ei hangen er mwyn nodi effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad.
Gallwch wneud cais am farn gwmpasu gan benderfynwr y broses o asesu'r effaith amgylcheddol. Mae barn gwmpasu'n amlinellu'r hyn y mae'r penderfynwr yn disgwyl y bydd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, a'r hyn i'w eithrio ohono. Bydd penderfynwyr yn ymgynghori â chyrff ymgynghori, gan gynnwys Panel Cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn cyhoeddi eu barn gwmpasu.
I wneud cais am farn gwmpasu, bydd angen i chi gyflwyno adroddiad cwmpasu i'r penderfynwr.
Mae adroddiad cwmpasu yn amlinellu'r canlynol:
- Natur a diben y datblygiad
- Y materion ac effeithiau amgylcheddol sydd i'w hystyried wrth asesu'r effaith amgylcheddol
- Sut caiff yr effeithiau eu hasesu a'u dogfennu yn y datganiad amgylcheddol
- Pa wybodaeth a gaiff ei defnyddio, ac y bydd ei hangen, ar gyfer yr asesiad
- Unrhyw fylchau ac ansicrwydd hanfodol bwysig yn y wybodaeth, a sut y cânt eu hystyried
- Dulliau asesu ac arolygu
- Meini prawf a gaiff eu defnyddio i benderfynu pa mor sylweddol yw effeithiau
- Unrhyw effaith amgylcheddol na chaiff ei hystyried ymhellach o bosibl, a'r rhesymau dros hynny
Nid yw cael barn gwmpasu'n orfodol, ond fe'i hargymhellir yn gryf. Gall cynnal ymarfer cwmpasu da helpu o ran cyrraedd cytundeb yn gynnar o safbwynt materion allweddol a diystyru rhai materion, a gall byrhau terfynau amser caniatáu.