Unedau rheoli mamaliaid morol mewn asesiadau rheoliadau cynefinoedd
Mae'r ddogfen hon yn bennaf ar gyfer:
- Awdurdodau cymwys sy'n cynnal asesiadau rheoliadau cynefinoedd (HRAs), gan gynnwys y rheiny sy'n cynnal ymgynghoriad trawsffiniol
- Datblygwyr ac ymgynghorwyr sy'n cyflwyno gwybodaeth i ganiatáu i awdurdod cymwys gynnal HRA
Mae'n nodi cyngor CNC ar y raddfa ofodol y dylid ei defnyddio i bennu Effeithiau Arwyddocaol Tebygol cynllun neu brosiect ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sydd â nodweddion mamaliaid morol (proses a elwir yn 'sgrinio').
Bydd dilyn y cyngor hwn yn sicrhau bod y safleoedd, y cynlluniau a'r prosiectau cywir yn cael eu hystyried yn y cam asesu priodol o’r Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd.
Diweddarwyd ddiwethaf