Sut i baratoi fferm neu dir amaethyddol ar gyfer llifogydd

Nodwch ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd

Dewch o hyd i ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ar eich tir:

Lluniwch gynllun llifogydd ar gyfer eich fferm 

Lluniwch gynllun llifogydd fel bod pawb yn gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd a chan bwy mewn argyfwng. Efallai fod gennych eisoes gynllun damweiniau neu argyfwng y gellid ei addasu.

Rhannwch eich cynllun llifogydd gyda'r holl staff fel eu bod yn gyfarwydd ag ef. Cadwch eich cynllun mewn lle diogel a hawdd ei gyrraedd.

Dylai eich cynllun gynnwys y canlynol:

  • Trothwyon priodol ar gyfer camau gweithredu penodol fel symud da byw, offer neu symud personél o’r safle. Gallai hyn fod yn neges Llifogydd: Byddwch yn barod, rhybudd llifogydd neu amodau lleol.
  • Nodwch a oes unrhyw beth ar eich fferm a allai achosi niwed. Cynhwyswch sylweddau a allai fod yn beryglus fel plaladdwyr, cemegau, tanwydd, olew a sylweddau a allai halogi llifddwr, gan gynnwys porthiant anifeiliaid, gwrtaith, tail organig, silwair a llaeth.
  • Ystyriwch sut y byddwch yn symud unrhyw dda byw, peiriannau neu ddeunyddiau sydd wedi'u storio
  • Ystyriwch unrhyw offer amddiffyn rhag llifogydd.
  • Lleoliadau a manylion cyswllt ar gyfer offer brys.
  • Nodwch gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau parhad busnes, er enghraifft cyflenwad pŵer amgen.

Lleihewch berygl neu effaith llifogydd

Eich cyfrifoldeb chi yw rheoli’r perygl llifogydd ar dir yr ydych yn berchen arno ger cwrs dŵr.

Dysgwch fwy am hawliau a chyfrifoldebau perchnogion eiddo ar lannau afonydd.

Gall camau syml amddiffyn eich tir a'r rhai sydd ymhellach i lawr rhag effeithiau llifogydd.

Y cam cyntaf yw deall sut mae dŵr yn symud ar eich tir a’r ffactorau a all gynyddu perygl llifogydd.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yng Nghod Ymarfer Amaethyddol Da Llywodraeth Cymru.

Casglwch neu ddaliwch ddŵr sy'n llifo

Mae llifogydd yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan fydd dŵr ffo yn llifo’n gyflym. Gall arafu llif y dŵr helpu i leihau’r perygl o lifogydd. Fe allech chi wneud y canlynol:

  • Casglu dŵr glaw i'w ailddefnyddio trwy ddefnyddio casgenni dŵr
  • Arllwys dŵr o’r toeon i bantiau neu suddfannau dŵr o amgylch y fferm
  • Creu pyllau dŵr ffo, i storio dŵr dros dro
  • Torri lleiniau i mewn i lethrau i atal dŵr ffo
  • Plannu coed, gwrychoedd a chnydau gorchudd i ddal dŵr glaw, sefydlogi'r tir a chynyddu faint o ddŵr a amsugnir

Lleihewch faint mae pridd yn cael ei gywasgu

Mae cywasgu yn lleihau gallu pridd i amsugno dŵr glaw, sy'n achosi i'r dŵr lifo dros y tir. Gall cyflymder dŵr ffo sy’n llifo dros y tir gynyddu’n gyflym pan fydd glaw yn cyrraedd cwrs dŵr, gan gynyddu’r tebygolrwydd o lifogydd. Gall hefyd erydu a chludo pridd ymaith.

Er mwyn lleihau faint mae pridd yn cael ei gywasgu, gallech: 

  • Symud da byw yn rheolaidd ac osgoi defnyddio'r un ardaloedd bwydo am gyfnodau estynedig
  • Plannu glaswelltir amrywiol gyda rhywogaethau â gwreiddiau dwfn
  • Ceisio osgoi defnyddio peiriannau ar briddoedd gwlyb
  • Cyfyngu neu reoli llwybrau traffig ar y safle
  • Cymryd camau i wella strwythur y pridd pan fydd y tir yn sychach
  • Defnyddio cnydau gorchudd ar ôl y cynhaeaf i sefydlogi'r pridd
  • Defnyddio teiars isel eu pwysau ar y ddaear
  • Chwalu pridd ar ôl cynaeafu i adael arwyneb garw i ganiatáu i fwy o ddŵr suddo i’r tir

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd pridd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Lleihewch y risg o lygredd amaethyddol

Gallai sylweddau peryglus, gan gynnwys plaladdwyr, cemegau, tanwydd ac olew halogi dŵr llifogydd. Gall porthiant anifeiliaid, gwrtaith, tail organig, silwair a llaeth hefyd halogi dŵr.

Ni ddylid rhoi tomenni tail ar dir sy'n agored i lifogydd.

Dargyfeiriwch ddŵr glân i ffwrdd o storfeydd slyri, porthiant da byw ac iardiau gorffwys, ac unrhyw le arall a allai gael ei halogi. Gallwch wneud hyn drwy:

  • selio draeniau eich buarthau
  • cynnal a chadw cafnau a pheipiau glaw
  • defnyddio concrit wedi'i godi neu sianeli uwch i ddargyfeirio dŵr glân i ffwrdd o fuarthau budr
  • rhoi toeon dros fuarthau budr
  • lleihau nifer y buarthau sydd wedi'u halogi â thail da byw neu slyri
  • trwsio tapiau a chafnau yfed sy’n gollwng

Ni ddylid gollwng dŵr budr a halogedig na chaniatáu iddo fynd i mewn i gyrsiau dŵr, tarddellau neu ffynhonnau.

Gallai dŵr budr a halogedig fod yn slyri (deunydd hylifol neu led-hylifol sy’n cynnwys carthion) neu gymysgedd y mae’r cyfan neu’r rhan fwyaf ohono wedi’i wneud o garthion da byw, deunydd gorwedd da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw o dewychedd sy’n caniatáu iddo gael ei bwmpio.

Gallai dŵr lled-fudr fod yn wrin neu ysgarthion da byw sy’n halogi dŵr ffo o ddŵr glaw sy’n lân fel arall ond sydd â lefel isel o faethynnau, e.e. o fuarth sy’n cael ei ddefnyddio gan dda byw ac sy’n cael ei sgwrio neu ei lanhau'n rheolaidd.

Ar gyfer rhai o’r mesurau hyn, efallai y bydd angen caniatâd gan eich awdurdod lleol neu CNC. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â ni ar ymholiadau@cyfoethnaturiol.cymru.

Gwiriwch rybuddion llifogydd

Rydym yn defnyddio tri math o rybudd llifogydd ar gyfer llifogydd o afonydd neu o'r môr.

Gallai'r rhain roi amser i chi amddiffyn eich cartref a symud da byw neu beiriannau.

Rydym yn cyhoeddi neges 'Llifogydd: Byddwch yn barod' (y lefel isaf o risg) pan fyddwn yn disgwyl llifogydd ar dir fferm.

Rydym yn cyhoeddi ‘Rhybudd Llifogydd’ pan rydym yn disgwyl llifogydd mewn cartrefi a busnesau.

Rydym yn cyhoeddi ‘Rhybudd Llifogydd Difrifol’ pan rydym yn disgwyl perygl i fywyd.

Dylech ystyried hyn pan fyddwch yn creu eich cynllun llifogydd, er mwyn sicrhau fod gennych ddigon o amser i weithredu.

Gwiriwch ein map rhybuddion llifogydd byw i weld yr holl rybuddion byw ledled Cymru.

Gallwch hefyd wirio a allwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd i dderbyn negeseuon uniongyrchol am ddim trwy e-bost, ffôn neu neges destun.

Ffynonellau eraill o wybodaeth fyw

Edrychwch ar ein perygl llifogydd 5 diwrnod ar gyfer rhagolwg dyddiol o lifogydd yn ardal eich awdurdod lleol.

Edrychwch ar eich lefelau afonydd, glawiad a data môr lleol fel arwydd o amodau lleol.

Astudiaeth achos rheoli llifogydd yn naturiol

Darllenwch am sut y defnyddiwyd prosesau naturiol i leihau’r perygl o lifogydd ar afon Tregatwg a gwyliwch y weminar rheoli llifogydd yn naturiol ar gyfer tirfeddianwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf