Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau: Arweiniad ar gyfer Ffermio Dwys

Y Rhestr Allyriadau

Y Rhestr Llygredd oedd yr enw blaenorol ar y Rhestr Allyriadau. Mae'n cynnwys data ynglŷn ag allyriadau o weithgareddau diwydiannol, gan gynnwys ffermio dwys, a reoleiddir gennym yng Nghymru. Mae'r data a gasglwn yn cael ei adrodd i DEFRA ar gyfer y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol a'r Cofrestrau DU ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion.

Pwy ddylai gyflwyno data allyriadau

Bydd gweithredwyr ffermio dwys yn derbyn Hysbysiad Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol Rheoliad 61 pan roddir eu trwydded. Mae'r hysbysiad yn gofyn i chi, fel gweithredwr, roi adroddiad ar ddata allyriadau i'r Rhestr Allyriadau.

Pryd i adrodd ar ddata allyriadau ffermio dwys

Dylech ddarparu data allyriadau yn flynyddol.

Bydd y system adrodd ar-lein ar gael i chi o’r ail wythnos o Chwefror ymlaen bob blwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno data yw 31 Mawrth.

Mae’n rhaid i chi adrodd ar ddata allyriadau ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol.

Os nad ydych yn adrodd erbyn 31 Mawrth gallwn gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Sut i adrodd ar ddata allyriadau ffermio dwys

Dylech wneud eich datganiad blynyddol ar-lein yn https://prtr.defra.gov.uk/data-entry-system. Nid yw'n bosib cyflwyno datganiad ar bapur.

Hyd yn oed os yw eich gweithrediad wedi cau yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’n rhaid i chi gyflwyno data ar gyfer y cyfnod yr oeddech yn gweithredu.  Os nad ydych wedi gweithredu, ac nad oes gennych unrhyw allyriadau i'w hadrodd, dylech wirio, a diweddaru os yn briodol, manylion eich cyfleuster a gwneud datganiad ‘dim’. I wneud datganiad ‘dim’ dylech adael y manylion gollwng a throsglwyddo yn wag ond cyflwynwch y gollyngiad gwag yn ogystal â'r trosglwyddiad gwag. Mae'n ddefnyddiol os ydych yn cynnwys sylw yn un o'r blychau sylwadau i ddweud mai datganiad ‘dim’ ydyw.

Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa i gwblhau'r rhestr bob blwyddyn, felly rydym yn argymell eich bod yn diweddaru eich manylion gyda ni.

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau'r datganiad ar gael ar dudalen mewngofnodi'r system adrodd ar-lein.

Os ydych yn cael trafferthion yn defnyddio’r system neu'n cael mynediad ati, cysylltwch â ni ar PRTR.national.manager@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Pa ddata allyriadau ffermio dwys y dylwn ei adrodd?

Dylech adrodd ar ollyngiadau i aer, gollyngiadau i ddŵr rheoledig, trosglwyddiadau dŵr gwastraff a throsglwyddiadau gwastraff oddi ar y safle. Mae'r system ar-lein yn cynnwys rhestr o'r holl sylweddau yn y rhestr allyriadau, ond dim ond y rheini sy'n berthnasol i'ch gweithgareddau chi y mae’n  rhaid i chi eu hadrodd.

Rhowch adroddiad ar y swm o bob sylwedd a ollyngwyd yn y flwyddyn galendr flaenorol. Mae'r system adrodd ar-lein yn gofyn am y swm mewn cilogramau ar gyfer gollyngiadau i aer a dŵr, ac mewn tunelli ar gyfer trosglwyddiadau gwastraff.

Cyfrifwch eich gollyngiadau i aer gan ddefnyddio ffactorau allyrru

Dylech adrodd ar y gollyngiadau amonia i’r aer, a lle bo'n briodol, sylwedd gronynnol (PM10), methan, ac ocsidiau nitrogen. Adroddwch ar y swm, mewn cilogramau, o bob llygrwr a ollyngwyd yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Gwybod eich ffactorau allyrru

Cyfrifir y gollyngiad gan ddefnyddio ffactorau allyrru. Mae ffactorau allyrru ar gyfer dofednod a ffactorau allyrru ar gyfer magu moch. Mae'r rhain yn ffigurau sydd wedi'u pennu o fonitro allyriadau gwirioneddol o wahanol fathau o siediau a chyfrifo allyriad cyfartalog fesul safle anifail y flwyddyn. Nid ydym yn gofyn i chi fonitro'r allyriadau o'ch fferm oni bai ein bod wedi rhoi amodau penodol yn eich trwydded.

Os oes gennych gyfarpar atal allyriadau (e.e. sgwriwr) sy’n trin yr allyriadau o'ch siediau da byw, dylech gyfrifo swm yr allyriadau gan ddefnyddio'r ffactor allyrru a roddwyd yn eich trwydded.

Byddwch yn sicr o'ch safleoedd anifeiliaid

I gyfrifo allyriadau, bydd angen i chi wybod nifer y safleoedd  anifeiliaid a ddefnyddiwyd. Hwn yw nifer yr anifeiliaid a gedwir mewn siediau ar unrhyw bryd, nid y cyfanswm blynyddol. Gall fod yn llai na'r hyn y mae eich trwydded yn ei ganiatáu.

Ar gyfer brwyliaid, cymerwch yn ganiataol fod gan bob cylch cynyddol yr un nifer o adar. Nid oes yn rhaid i chi addasu eich cyfrifiad ar gyfer y cyfnod y mae'r siediau yn wag ar gyfer eu glanhau a'u diheintio oherwydd rhoddir cyfrif am hyn yn y ffactor allyrru.

Ar gyfer dofednod arall neu foch, cymerwch yn ganiataol fod y siediau yn cael eu defnyddio drwy'r flwyddyn. Os oes cyfnodau estynedig lle mae'r siediau'n wag, yna addaswch y cyfrifiad i roi cyfrif am hyn.

Gall nifer y da byw newid yn ystod y flwyddyn. Gall hyn fod oherwydd bod eich trwydded wedi’i hamrywio i gynyddu'r niferoedd. Dylech gyfrifo beth oedd yr allyriadau bob mis yn seiliedig ar nifer y da byw a fagwyd a'r ffactor allyrru perthnasol.

Gollyngiadau amonia

Lluoswch nifer y safleoedd anifeiliaid a ddefnyddiwyd gyda'r ffactor allyrru priodol. Ar gyfer siediau dofednod gyda chewyll wedi’u cyfoethogi dylech ddefnyddio'r ffactor allyrru sy'n cyfateb orau i’r system ymdrin â thail.

Os yw tail yn cael ei storio o fewn ffin y gosodiad wedi iddo gael ei dynnu o'r siediau, rhaid ychwanegu gollyngiadau amonia o hyn at y swm a adroddir.

Gollyngiadau methan

Dim ond os ydych yn storio tail y tu allan i'r siediau ac o fewn ffin y gosodiad y mae angen i chi adrodd ar ollyngiadau methan ar gyfer dofednod.

Ar gyfer moch, bydd  angen i chi adrodd ar y methan o'r moch eu hunain (eplesu enterig) ac o’r storfa tail.

Gollyngiadau ocsidiau nitrogen

Mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i fathau penodol o osodiadau magu moch yn unig.

Gollyngiadau sylwedd gronynnol (llwch)

Mae hyn yn berthnasol i ddofednod yn unig.

I gyfrifo'r gollyngiad PM10, lluoswch nifer y lleoedd adar a ddefnyddiwyd gyda'r ffactor allyrru perthnasol, a’i rannu â 3.

Gallwch ddarllen mwy ynglŷn â dulliau cyfrifo allyriadau moch ac allyriadau dofednod, a gweld esiamplau o gyfrifiadau allyrru.

Gollyngiadau ffermio dwys i ddyfroedd rheoledig

Os oes gennych amodau yn eich trwydded sy'n caniatáu gollwng sylweddau penodol i ddŵr daear, afon neu'r môr, cwblhewch y rhan berthnasol o'r datganiad ar-lein. Caiff y swm ei gyfrifo o grynodiad gwirioneddol a data llif mesuredig.

Gweler y Canllaw Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau cyffredinol am fwy o wybodaeth am sut i gyfrifo'r gollyngiadau hyn.

Trosglwyddiadau oddi ar y safle i ddŵr gwastraff

Os oes gennych ganiatâd elifion masnach gan gwmni dŵr i ollwng o'r gosodiad i garthffos, mae’n rhaid i chi adrodd ar y swm o bob sylwedd penodol.

Trosglwyddiadau gwastraff oddi ar y safle

Mae’n rhaid i chi adrodd ar gyfanswm y gwastraff peryglus a gwastraff nad yw'n beryglus y gwnaethoch ei anfon oddi ar y safle yn ystod y flwyddyn ar gyfer ei waredu neu ei adfer. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dail neu slyri a anfonwyd i’w waredu neu ei adfer (megis i orsaf bŵer). Nid yw’n cynnwys tail neu slyri a anfonwyd oddi ar y safle ar gyfer ei daenu ar dir.

Mae gwastraff arall y dylid adrodd arno yn cynnwys deunydd lapio plastig, cardfwrdd, bylbiau golau, paledi pren a dillad diogelu.

Nid oes angen i chi adrodd ar garcasau anifeiliaid llawn ond dylech gynnwys gwastraff meinwe anifeiliaid arall.

Dylech wneud cofnodion ar wahân ar y system adrodd ar gyfer gwastraff nad yw’n beryglus a anfonwyd i’w waredu a’i adfer. Os yw cyfanswm tunelledd y gwastraff nad yw’n beryglus yn llai na 2000 tunnell nid oes angen i chi adrodd ar y trosglwyddiad gwastraff nad yw’n  beryglus.

Os yw cyfanswm y gwastraff peryglus a anfonwyd oddi ar y safle yn y flwyddyn yn fwy na 2 dunnell bydd angen i chi adrodd ar y swm a anfonwyd i'w waredu a’i adfer.

Cadwch y nodiadau trosglwyddo gwastraff a dderbyniwch gan y cludydd gwastraff sy'n symud eich gwastraff. Bydd hyn yn eich galluogi i gadw cofnod o gyfanswm y gwastraff peryglus a’r gwastraff nad yw’n beryglus a symudwyd yn ystod y flwyddyn.

Adrodd ar allyriadau o weithgareddau eraill

Os oes gennych weithgareddau eraill wedi'u rhestru ar eich trwydded, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau cyffredinol yn Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau: canllawiau.

Diweddarwyd ddiwethaf