Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer

Mae twyni tywod yn un o’r cynefinoedd sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn Ewrop. Yn aml mae yna rywogaethau prin yn byw ar y twyni, felly mae’n bwysig eu bod nhw’n cael eu rheoli mewn ffordd sy’n sicrhau fod y rhywogaethau hyn ddim yn diflannu’n llwyr. Ar y dudalen hon, fe gewch gynlluniau gweithgaredd yn ymdrin â phob math o bethau, o pam mae twyni tywod yn bwysig i weithgareddau yn esbonio sut i wneud gwaith samplu ar dwyni tywod.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi’ch dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd sy’n cael eu disgrifio ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae dolenni i’r Cwricwlwm wedi’u cynnwys yn y dogfennau a bydd yr holl weithgareddau’n eich helpu i gyflwyno nifer o agweddau o’r fframweithiau trawsgwricwlaidd, Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Canllaw i dwyni tywod

Eisiau dysgu am dwyni tywod? Sut maen nhw’n ffurfio, where they can be found in Wales and what is being done to restore them? Cymrwch gip ar ein nodyn gwybodaeth.

Nodyn gwybodaeth – Twyni tywod arfordirol yng Nghymru

Pam mae twyni tywod yn bwysig?

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn amlygu pwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy, ac mae’n canolbwyntio ar dwyni tywod a’r buddion amrywiol maent yn eu cynnig.

Cynllun gweithgaredd - Pam mae twyni tywod yn bwysig?
Cardiau adnoddau - Pam mae twyni tywod yn bwysig?

Sut mae twyni tywod yn ffurfio?

Bwriad y gweithgaredd yma yw egluro’r broses o ffurfio twyni tywod mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Cynllun gweithgaredd - Sut mae twyni tywod yn ffurfio?
Cardiau adnoddau - Sut mae twyni tywod yn ffurfio - Setiau A a B
Diagram A3 - Sut mae twyni tywod yn ffurfio - I'w ddefnyddio gyda chardiau adnoddau Set A
Diagram A3 - Sut mae twyni tywod yn ffurfio - I'w ddefnyddio gyda chardiau adnoddau Set B
Cardiau adnoddau - Tag y twyni

Rhywogaethau rhagorol y twyni tywod

Mae ein ‘Cynllun gweithgaredd – Darganfod nodweddion a dosbarthu’ yn annog eich dysgwyr i archwilio nodweddion gwahanol rywogaethau sy’n byw ymysg twyni tywod ac ystyried sut gellir eu dosbarthu.

Mae’r gweithgareddau a gemau yn ein ‘Cynllun gweithgaredd – Gweoedd bwyd a chadwyni ynni’ yn annog eich dysgwyr i archwilio nodweddion gwahanol rywogaethau sy’n byw ymysg twyni tywod ac ystyried sut gellir eu dosbarthu. Nod y gweithgareddau a’r gemau hyn yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr am gadwyni bwyd, trosglwyddiad egni a pherthnasoedd o fewn ecosystem twyni tywod.

Cynllun gweithgaredd – Darganfod nodweddion a dosbarthu
Cynllun gweithgaredd – Gweoedd bwyd a chadwyni ynni 

Cardiau adnoddau - Defnyddir y ddwy set i gwblhau sawl gweithgaredd.

Cardiau adnoddau (set A) – Rhywogaethau rhagorol y twyni tywod
Cardiau adnoddau (set B) – Rhywogaethau rhagorol y twyni tywod

Samplu llystyfiant twyni tywod

Nod y gweithgaredd hwn yw rhoi cyfle i ddysgwyr wneud archwiliad safle i olyniaeth planhigion ar system twyni tywod a phrofi neu wrthbrofi rhagdybiaeth. Gwneir awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau cyn ac ar ôl ymweld â’r safle, er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd dysgu y mae ymweliad maes â system twyni tywod yn eu cynnig. 

Cynllun gweithgaredd – Samplu llystyfiant twyni tywod
Taflen waith - Samplu llystyfiant twyni tywod

Mawredd moresg

Mae’r gweithgareddau hyn yn galluogi dysgwyr i ddeall sut mae systemau gwreiddiau moresg yn hybu datblygiad twyni tywod a sut mae’r rhywogaeth wedi addasu i amodau cras systemau twyni tywod.

Nodyn gwybodaeth - Moresg
Cynllun gweithgaredd – Mawredd moresg
Cynllun gweithgaredd - Sut mae twyni tywod yn ffurfio?
Cardiau adnoddau (set A) – Rhywogaethau rhagorol y twyni tywod
Cardiau adnoddau (set B) – Rhywogaethau rhagorol y twyni tywod

Geirfa prosesau arfordirol a thwyni tywod 

Ydy cymunedau uchafbwynt ac uchafbwynt llystyfiant yn gwneud i’ch pen droi? Dim ‘haloffyt’ am beth rydyn ni’n sôn? Mae ein rhestr termau’n egluro pob dim – gallwch ddefnyddio’r rhestr hon fel canllaw cyfeirio neu i’ch dysgwyr adolygu.

Geirfa – Prosesau arfordirol a thwyni tywod

Twyni tywod dros amser – Cwningar Niwbwrch 

Mae’r gweithgaredd hwn yn archwilio perthynas pobl â thwyni tywod a sut mae’r adnoddau naturiol maen nhw’n eu cynnig wedi’u defnyddio dros amser.

Cynllun gweithgaredd – Twyni tywod dros amser – Cwningar Niwbwrch
Cardiau adnoddau – Twyni tywod dros amser – Cwningar Niwbwrch

Astudiaeth achos - Twyni Pen-bre

Cyflwyniad i reolaeth twyni Pen-bre.

Astudiaeth achos – Twyni Pen-bre

Ymgyrchu dros natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol 

Yn y cynllun gweithgaredd hwn mae’r dysgwyr yn chwarae rôl arbenigwyr y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnir iddyn nhw gynllunio, paratoi ac o bosib cynnal ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth am y materion sy’n effeithio ar system benodol o dwyni tywod. O amlygu sut mae’r system yn cael ei rheoli i annog ymwelwyr i helpu i warchod a pharchu’r adnodd naturiol gwerthfawr hwn, mae’r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i roi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am dwyni tywod ar waith drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu safle. 

Cynllun gweithgaredd – Ymgyrchu dros natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Taflen waith – Ymgyrchu dros natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad PowerPoint - ­Ymgyrchu dros fyd natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

Twyni Byw

Dysgwch fwy am brosiect cadwraeth Twyni Byw, sydd â’r nod o adfywio twyni tywod ledled Cymru. Ewch i wefan prosiect Twyni Byw. Bydd y prosiect yn adfer dros 2400 hectar o dwyni tywod ar ddeg safle yng Nghymru.

Cysylltwch â ni

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn:

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf