Argyfwng y newid yn yr hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Visit Wales photo hub
Mae’r adnoddau hyn a’r syniadau am weithgareddau yn rhannu gwybodaeth am sut a pham y daeth y Cod Cefn Gwlad i fodolaeth ac maent yn esbonio sut mae wedi esblygu dros amser.
Dysgwch beth yw hanes y Cod Cefn Gwlad a sut mae wedi datblygu dros amser. Gwyliwch ein fideo ‘Pam fod gyda ni God Cefn Gwlad?’.
Mae’r adnodd hwn yn rhannu nifer o syniadau i annog eich dysgwyr i ystyried diben y Cod Cefn Gwlad, ynghyd â’u barn eu hunain am gefn gwlad a thrafod sut gallai’r Cod Cefn Gwlad edrych yn y dyfodol.
Yn y fideo hwn, mae plant o ysgol yng Nghaerdydd yn rhannu eu barn am anturiaethau Shaun the Sheep gyda’r Cod Cefn Gwlad ac yn dweud pam y mae’n bwysig parchu, diogelu a mwynhau cefn gwlad mewn modd cyfrifol.
Adnodd gwych i gynorthwyo dadl, mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn rhannu gwybodaeth am sut i ofalu am gŵn wrth fynd â nhw am dro yng nghefn gwlad a sut i barchu defnyddwyr eraill a’r tir maen nhw’n cerdded arno.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein cefn gwlad a'n mannau agored ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae cyngor ar gael i ymwelwyr, rheolwyr tir a defnyddwyr llwybrau ar wefan Teulu’r cod cefn gwlad.
Neu efallai hoffech chi a’ch dysgwyr edrych ar y fideos sydd wedi’u rhannu ar ein Rhestr Chwarae Cod Cefn Gwlad ar YouTube.
Archwiliwch ein coetiroedd, gwarchodfeydd natur, llwybrau a thir mynediad agored. Mae ein tudalennau gwe lleoedd i ymweld â hwy yn caniatáu i chi chwilio yn ôl mannau i fynd iddynt neu weithgareddau i'w gwneud.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn:
E-bost: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000