Datganiad hygyrchedd: cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://cofrestrwch.llifogydd.cyfoethnaturiol.cymru/ 

Sut gallwch chi ddefnyddio'r wefan hon

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i bawb allu defnyddio ein gwefannau, dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Gwnewch eich dyfais yn haws ei defnyddio

Mae gan AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:

  • nid yw meysydd sydd wedi'u grwpio'n weledol wedi'u cynnwys mewn set maes
  • nid yw elfennau cyswllt cysylltiedig wedi’u grwpio'n briodol
  • nid yw swyddogaeth awtolenwi ar gael ar feysydd mewnbwn disgwyliedig
  • nid oes dolen ‘neidio i’r prif gynnwys’ yn bresennol
  • nid yw'r dolenni o fewn paragraffau testun yn ddigon gweladwy
  • ni ddarperir disgrifiadau testun ar gyfer rhai gwallau ar feysydd mewnbwn a defnyddir lliw i gyfleu gwallau yn unig
  • nid yw'r testun yn bodloni gofynion cyferbyniad digonol
  • efallai na fydd trefn tabiau'r wefan bob amser yn rhesymegol
  • nid yw teitlau tudalennau yn ddigon disgrifiadol
  • nid yw meysydd gorfodol yn dangos gwall testun sy'n dangos bod gwall yn y maes

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch o unrhyw un o’n gwefannau mewn fformat gwahanol, megis:

  • PDFs hygyrch
  • print bras
  • hawdd ei ddarllen
  • recordiad sain
  • braille

Gallwch:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP 

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 5 diwrnod gwaith.    

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'n gwefannau

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein holl wefannau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw:

  • broblemau hygyrchedd heb eu rhestru ar y dudalen hon
  • neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd

anfonwch e-bost at y Tîm Digidol: digidol@cyfoethnaturiol.cymru.gov.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol (Rhif 2) 2018.

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) fersiwn 2.2, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid oes priodoledd awtolenwi dilys yn bresennol, ac ni ellir pennu meysydd yn rhaglennol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG 2.2, sef nodi pwrpas mewnbwn. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Mae gwallau ar feysydd mewnbwn yn cael eu cyfleu trwy liw yn unig. Gall hyn fod yn anodd ei ddeall i ddefnyddwyr ag amhariadau ar eu golwg neu ddallineb lliw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.1 WCAG 2.2, sef y defnydd o liw. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid yw dolenni o fewn paragraffau testun wedi'u gwahaniaethu'n ddigonol a gallant fod yn llai gweladwy i ddefnyddwyr ag amhariadau ar eu golwg. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.1 WCAG 2.2, sef y defnydd o liw. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid yw'r testun yn bodloni gofynion cyferbyniad digonol yn erbyn cefndir y dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.2, sef cyferbyniad (isafswm). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Mae problemau rendro yn bresennol gyda thestun wrth chwyddo testun yn unig i 200% gan ddefnyddio rheolyddion chwyddo porwr. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.4 WCAG 2.2, sef newid maint testun. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Mae diffyg cyferbyniad mewn rhai cynnwys nad yw'n destunol yn erbyn y dudalen gefndir. Mae hyn yn cynnwys yr elfennau llithrydd ar yr adran cwcis. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2, sef cyferbyniad di-destun. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid oes dolen ‘neidio i’r prif gynnwys’ neu rywbeth tebyg yn bresennol o fewn y wefan i ganiatáu i ddefnyddwyr bysellfwrdd a thechnoleg gynorthwyol osgoi cydrannau llywio a ailadroddir ar draws y wefan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.1 WCAG 2.2, sef osgoi rhwystrau. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid yw trefn ffocws y dudalen yn rhesymegol. Mae defnyddwyr sy'n dibynnu ar fynediad bysellfwrdd ar gyfer gweithredu tudalen yn elwa o drefn ffocws resymegol y gellir ei defnyddio. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.2, sef trefn ffocws. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid yw trefn ffocws y dudalen yn rhesymegol wrth ddefnyddio darllenydd sgrin symudol. Mae hyn yn golygu ffocysu dolenni neu destun sydd wedi'u lleoli ar ôl meysydd mewnbwn cyn y meysydd mewnbwn hynny. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.2, sef trefn ffocws. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid oes gwall testun yn y meysydd gofynnol sy'n dangos bod gwall yn y maes. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.1 WCAG 2.2, sef adnabod gwallau. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Nid yw teitlau tudalennau ar draws y broses o gofrestru/mewngofnodi yn ddigon disgrifiadol nac addysgiadol, a allai achosi problemau llywio rhwng tabiau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.2 WCAG 2.2, sef teitlau tudalennau. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Mae'r botwm cwcis yn anhygyrch gan ddefnyddio gorchmynion hysbys wrth lywio gyda Dragon Naturally Speaking (meddalwedd adnabod lleferydd). Gall hyn olygu na fydd rhai defnyddwyr yn gallu cael mynediad at y cynnwys hwn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2, sef enw, rôl, gwerth.Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

  • Mae elfennau pennawd yn cyhoeddi'n anghywir wrth lywio'r dudalen gan ddefnyddio iOS VoiceOver (darllenydd sgrin symudol). Gall hyn olygu na fydd rhai defnyddwyr yn gallu cael mynediad at y cynnwys hwn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2, sef enw, rôl, gwerth. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: Ionawr 2025.

Baich anghymesur

Nid yw unrhyw gynnwys yn cael ei ystyried yn faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae'r holl gynnwys o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu creu map ffordd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.

Byddwn yn parhau i adolygu hygyrchedd ac yn gobeithio datrys problemau sydd heb eu datrys erbyn Ionawr 2025.

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Mehefin 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 18 Mehefin 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18 Mehefin 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou.

Defnyddiodd Zoonou WCAG-EM i ddiffinio'r tudalennau a brofwyd a phrofi'r dull.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf