Cyfrifoldebau am afonydd, ffrydiau, cwlfertau a chamlesi

Mae hon yn dudalen newydd. Bydd eich adborth yn ein helpu i'w gwella.  

Pwy sy'n gyfrifol am 'gyrsiau dŵr'?

Bydd y dudalen hon yn dweud pwy i gysylltu ag e os ydych eisiau rhoi gwybod am broblem ar gwrs dŵr, neu waith o fewn neu'n agos i gwrs dŵr. 

Gall 'cwrs dŵr' fod yn:

  • afon
  • ffrwd
  • nant
  • ffos
  • ffrwd melin
  • cwlfert (strwythur dan ddaear i ddŵr lifo drwyddo)

Llygredd a difrod amgylcheddol

Cysylltwch â ni am lygredd neu ddifrod amylcheddol ar bob cwrs dŵr. 

Ffoniwch ein llinell digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu roi gwybod ar-lein am:

  • lygredd
  • newidiadau anarferol mewn llif dŵr
  • newidiadau neu ddifrod answyddogol i gyrsiau dŵr (er enghraifft, sythu sianeli, cloddio gwelyau, newidiadau i wely'r afon neu'i glennydd)

Rhoi gwybod am lifogydd neu rwystrau ar brif afonydd 

Cysylltwch â ni am ddigwyddiadau ar 'brif afonydd'. Mae prif afonydd fel arfer yn afonydd neu ffrydiau mwy. 

Gwelwch ein map o brif afonydd isod i wirio'r afon dan sylw. 

Ffoniwch ein llinell digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu roi gwybod ar-lein am:

  • lifogydd ar brif afon
  • rhwystrau all achosi llifogydd i brif afonydd
  • llifogydd o'r môr

(Mae'r map yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar gael fersiwn Gymraeg)

Rhoi gwybod i'ch awdurdod lleol

Cysylltwch â'ch awdurdol lleol i roi gwybod am ddigwyddiadau sy' ddim yn gysylltiedig â phrif afonydd: 

  • difrod i bontydd ffyrdd neu gylfertau ffyrdd
  • rhwystrau mewn pontydd neu gylfertau ar 'gyrsiau dŵr bach cyffredinol' (unrhyw afon sy' ddim yn brif afon) 
  • problemau gyda llwybrau cyhoeddus ar hyd afon

Cysylltwch â ni am lygredd, pysgod marw, unrhyw waith fel cloddio neu symud graean a cherrig, neu unrhyw faterion amylcheddol eraill ar gyrsiau dŵr. 

Os ydych yn berchen ar gwrs dŵr

Chi sy'n gyfrifol am unrhyw gwrs dŵr sydd ar eich eiddo. Dysgwch fwy am eich hawliau a chyfrifoldebau fel perchennog afonydd yng Nghymru

Camlesi a llwybrau camlesi

Os ydych yn gweld problem gyda'r rhwydwaith camlesi, fel gwaith cynnal a chadw ar lwybrau camlesi neu rwystrau, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd

Rhowch wybod am lygredd i ni. 

Rhwystrau mewn draenau ar y ffordd 

Os ydych yn dod o hyd i rwystr mewn draen neu ddŵr yn gollwng yn yr heol neu lwybr, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Torri pibell dŵr 

Cysylltwch â'ch cwmni dŵr

Llifogydd

Gallwch edrych ar ein gwefan ar gyfer y risg presennol a mwy tymor hir o lifogydd

Gallwch hefyd gofrestru am rybuddion llifogydd drwy ffôn neu neges destun os oes risg o lifogydd i'ch eiddo.  

Gweithio ar gwrs dŵr (trwydded gweithgarwch perygl llifogydd)

Os ydych chi am weithio oddi mewn neu'n agos i: 
  • brif afonydd
  • amddiffynfeydd rhag llifogydd
  • amddiffynfeydd rhag y môr 
  • gorlifdiroedd

posibl bod rhaid meddu ar drwydded gweithrediad risg llifogydd.

Os ydych am weithio oddi mewn neu'n agos i 'gwrs dŵr cyfredinol', posbl bod rhaid derbyn caniatâd gan eich awdurdod lleol (neu oddi wrthon ni os ydy'r safle o fewn Ardal Draenio Fewnol). 

Cysylltwch â ni am gyngor cyn gwneud newidiadau i unrhyw gwrs dŵr, gan y gall y rhain peri niwed i'r amgylchfyd. 

Gollwng dŵr neu elifion carthion

Rhaid i chi ymdeisio am drwydded gollwng dŵr i ollwng dŵr brwnt neu elifion carthion i mewn i: 

  • unrhyw gwrs dŵr
  • rhai llynnoedd a phyllau 
  • camlesi
  • cronfeydd

I ollwng i ddŵr daear, rhaid i chi ymgeisio am drwydded dŵr daear.

Tynnu neu gronni dŵr

Rhaid i chi ymgeisio am drwydded i dynnu neu gronni dŵr o: 

  • afon neu ffrwd
  • cronfa, llyn neu bwll
  • camlas
  • ffynnon
  • doc, siannel, cornant, bai, ystrad neu gainc o'r môr

Fodd bynnag, mae rhai eithriadau. Gweld os oes rhaid i chi gael trwydded.

Pysgota

Bydd angen trwydded pysgota â gwialen ddilys arnoch chi os ydych yn 13 oed neu’n hŷn, ac yn pysgota eog, brithyll, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf