Ymwadiad ar gyfer ein gwasanaeth mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwadu pob atebolrwydd mewn perthynas â'r camau a gymerir neu nas cymerir yn seiliedig ar unrhyw ran neu'r cyfan o gynnwys ein tudalenau gwefan mewn perthynas â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wybodaeth mapio llifogydd ac erydu arfordirol a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol, i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.

Darperir y deunydd a ddangosir ar ein tudalennau gwe, gan gynnwys ein gwybodaeth mapio llifogydd ac erydu arfordirol a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol, heb unrhyw warantau nac amodau o ran ei gywirdeb. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni a thrydydd partïon sy'n gysylltiedig â ni drwy hyn yn eithrio'n benodol yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fel arall fod yn ymhlyg drwy statud, cyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwadu unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir i unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â'n tudalennau gwe perygl llifogydd a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol a grybwyllwyd neu mewn cysylltiad â defnyddio, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwefan a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau neu ddeunyddiau a bostiwyd arni neu a hepgorwyd ohoni, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd am y canlynol:

  • colli incwm neu refeniw
  • colli busnes
  • colli gwerthiant
  • colli elw neu gontractau
  • colli arbedion disgwyliedig
  • colli data
  • colli ewyllys da
  • amser rheoli neu amser swyddfa a wastraffwyd
  • cynnydd mewn gorbenion neu dreuliau gweinyddol

ac

  • am unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag y bo'n codi a ph’un a yw’n ganlyniad camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall, hyd yn oed os gellir ei ragweld, cyn belled na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golled neu ddifrod i’ch eiddo diriaethol nac unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol nad ydynt wedi'u heithrio gan unrhyw un o'r categorïau a nodir uchod.

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn eithrio ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu yn ôl y gyfraith.

Mae'r wybodaeth yn ein mapiau llifogydd ac erydu arfordirol a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol yn cael ei darparu at ddibenion gwybodaeth yn unig ac ni ddylid ei dehongli fel cyngor a/neu wybodaeth bendant ar unrhyw fater. Ni ddylech ddibynnu ar y wybodaeth a ddarperir gan gynnwys gwybodaeth mapio llifogydd ac erydu arfordirol cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol. Nid yw'r wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth mapio llifogydd ac erydu arfordirol a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol, yn ystyried amgylchiadau unigol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dir penodol.

Peidiwch â gweithredu neu ymatal rhag gweithredu’n seiliedig ar y wybodaeth ar ein tudalennau perygl llifogydd gan gynnwys gwybodaeth mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol a'n cynhyrchion mapio risg llifogydd ac erydu arfordirol heb geisio cyngor proffesiynol annibynnol: fe'ch cynghorir yn gryf i gael cyngor proffesiynol penodol am eich sefyllfa o ran perygl llifogydd ac erydu arfordirol a pheidio â dibynnu ar y wybodaeth gan gynnwys gwybodaeth am berygl llifogydd ac erydu arfordirol a geir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i gadw ein gwybodaeth yn gywir, nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ei chywirdeb, nac am unrhyw ganlyniadau yn sgil dibynnu arni, sut bynnag y bo’r canlyniadau hyn yn codi.

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymo i unrhyw amodau, gwarantau, telerau na sylwadau datganedig neu ymhlyg ynghylch ansawdd, cywirdeb na chyflawnrwydd y wybodaeth.

Mae Cynhyrchion Mapio Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn golygu cynhyrchion o’r fath sy’n ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 
  • Map Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol neu'r hyn sy'n cyfateb
  • Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio neu'r hyn sy'n cyfateb
  • Mapiau Perygl Llifogydd a Risg Llifogydd Cenedlaethol neu'r hyn sy'n cyfateb
  • Gwybodaeth sy'n deillio o'r 3 map a enwir uchod, neu'r hyn sy'n cyfateb gan gynnwys Gwirio Eich Risg Llifogydd yn ôl Côd Post neu'r hyn sy'n cyfateb
  • Gwasanaethau ar-lein pwrpasol, gan gynnwys gwybodaeth sy’n deillio o wasanaethau o’r fath, a grëwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid i rannu gwybodaeth mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol neu'r hyn sy'n cyfateb at ddibenion ymgynghori a gwybodaeth
Mae cyfeiriadau at “Cyfoeth Naturiol Cymru” yn golygu Corff Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydlwyd gan Erthygl 3 o Orchymyn Corff Cyfoeth Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Mae cyfeiriadau at “ni” ac “ein” yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf