Cynlluniau Rheoli Basn Afon 2015 - 2021
Cafodd Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru ei gymeradwyo gan Weinidog Cyfoeth Naturiol a’i gyhoeddi ar ein gwefan. Cynhaliwyd yr Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd a ddaeth i’r casgliad na fyddai unrhyw effaith sylweddol debygol. Hefyd mae’r ddau asesiad wedi'u cyhoeddi
Mae’r cynlluniau’n trafod y pwysau sydd ar amgylchedd dŵr Cymru. Mae ein hafonydd, llynnoedd, gwlypdiroedd, dyfroedd daear, aberoedd a’n dyfroedd arfordirol, yn cynnwys y rhai mewn ardaloedd gwarchodedig i gyd yn dod o dan y cynlluniau hyn. Caiff y rhain eu diweddaru bob chwe blynedd a’u paratoi mewn ymgynghoriad ag ystod eang o sefydliadau ac unigolion.
Mae cynlluniau cymeradwy a’r dogfennau ategol i’w gweld ar ein gwefan.
1) Dogfen Cyfeirio Cynllun Rheoli Basn Afon
2) Crynodeb o Gynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru
3) Crynodeb o Gynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy
4) Adroddiad Cynnydd Cymru 2009-2015
5) Atodiad Trosolwg Cynllunio Rheoli Basn Afon
6) Crynodeb o Atodiad Trosolwg Cynllunio Rheoli Basn Afon
7) Datganiad o Fanylion ar gyfer Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru
8) Datganiad o Fanylion ar gyfer Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy
9) Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd o Gynlluniau Rheoli Basn Afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru – am gopi o’r atodiadau cysylltwch â wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
10) Cofrestr Ardaloedd Gwarchodedig
11) Rhestr Allyriadau
12) Cefndir y Cyfarwyddyd Fframwaith Ddŵr
Rydym wedi datblygu Ffeithlun - 'Caru dŵr Cymru' - er mwyn hyrwyddo’r cynllun rheoli basn afon. Os hoffech gael fersiwn poster A4, anfonwch e-bost atom wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Rydym hefyd wedi datblygu ffeithlun ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy.
Mae’r crynodebau dalgylchoedd wedi’u diweddaru
Diben y crynodebau yw bod yn ganllaw ymarferol i gynorthwyo gyda chyflawni’r camau gweithredu a phartneriaethau lleol penodol.
Crynodeb dalgylch Caerfyrddin
Crynodeb dalgylch Clwyd
Crynodeb dalgylch Conwy
Crynodeb dalgylch Lleyn ac Eryri
Crynodeb dalgylch Meirionydd
Crynodeb dalgylch Sir Benfro
Crynodeb dalgylch Tawe
Crynodeb dalgylch Chymoedd y De-ddwyrain
Crynodeb dalgylch Teifi
Crynodeb dalgylch Wysg
Crynodeb dalgylch Ynys Mon
Mae Arsylwi Dyfroedd Cymru yn rhoi gwybodaeth leol am ddosbarthiad, prosiectau a mesurau.
Arweinir Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren gan yr Environment Agency ac fe’i cyhoeddir ar ei gwefan.
Mae Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn fesur cyfredol o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol sy’n cyfrannu at wella cyflwr amgylcheddau morol ac arfordirol y DU. Nod y Gyfarwyddeb yw sicrhau bod gan ddyfroedd y DU Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020. Mae Rhaglen lawn y Mesurau sy’n ffurfio Rhan Tair Strategaeth Forol y DU wedi’i chyhoeddi ac ar wefan Llywodraeth Cymru .
Dosbarthiad Interim Cylch 2 y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr 2018 ar gyfer Dŵr Croyw
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi dosbarthiad interim cylch 2 ar statws cyrff dŵr croyw’r Gyfarwyddiaeth Fframwaith Ddŵr yng Nghymru.
Mae hwn yn ddiweddariad o ddosbarthiad 2015 ail gylch y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Ddŵr, ac fe’i gelwir yn Ddosbarthiad Interim Cylch 2 y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Ddŵr 2018. Mae’n galluogi CNC i adolygu cynnydd hanner ffordd yng nghylch y Gyfarwyddeb Fframwaith Ddŵr ac mae’r data ar gael ar Arsylwi Dyfroedd Cymru.
Disgwylir i ddosbarthiad morol interim cylch 2 gael ei ryddhau yn y gaeaf a byddwn yn eich hysbysu pan gaiff ei gyhoeddi. Bob chwe blynedd yn unig y caiff y dosbarthiad ar gyfer dŵr daear ei ddiweddaru, felly ni chaiff hwn ei gynnwys yn y dosbarthiad interim.
Bydd y dosbarthiad yn cael ei ddiweddaru bob tair blynedd a bydd yn cael ei gyhoeddi nesaf yn 2021. Ynghlwm gwelir dogfen ‘cwestiynau cyffredin’. Yn y cyfamser, gellir anfon ymholiadau trwy e-bost at wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae’r data a gyhoeddir ar hyn o bryd ar gyfer dŵr croyw yn unig gyda’r asesiadau morol yn debygol yn y gaeaf.