Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a Chyllid

Beth yw Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy?

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Priffyrdd yng Nghymru a Lloegr i gyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

Cynlluniau 10 mlynedd a flaenoriaethir yw’r rhain ar gyfer gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy lleol, a bwriedir iddynt greu budd i’r cyhoedd, gan sicrhau rhwydwaith gwell ar gyfer cerddwyr, beicwyr, marchogion a defnyddwyr oddi ar y ffordd. Caiff pobl sydd â phroblemau gyda’u golwg neu symudedd eu crybwyll yn benodol yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ac mae gofynion ychwanegol Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gymwys hefyd. 

Mae’r cynlluniau’n amlinellu’r prif ddulliau y bydd awdurdodau priffyrdd lleol yn eu defnyddio i nodi, blaenoriaethu a chynllunio gwelliannau i’w rhwydwaith hawliau tramwy lleol.

Adolygu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy

Rhaid i awdurdodau lleol adolygu eu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy cyn pen 10 mlynedd ar ôl cynhyrchu eu cynllun diwethaf. Gan fod y cynlluniau cyntaf wedi’u cynhyrchu yn 2007/8, golyga hyn y dylai ail gyfres y Cynlluniau fod wedi’i hadolygu. 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar wneud hyn, a’r prif gamau o dan sylw. 

https://llyw.cymru/cynllun-gwella-hawliau-tramwy-canllawiau-i-awdurdodau-lleol?_ga=2.156486715.1282420051.1564991658-646784787.1556720241

Rhaid i awdurdodau:

  • - Gynllunio ar gyfer yr Adolygiad: amlinelliad ac amserlen; ac ymgynghoriad cychwynnol
  • - Cynnal asesiadau newydd
  • - Adolygu’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy blaenorol a phenderfynu a oes angen iddynt ei ddiwygio
  • - Cyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Drafft. Mae hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus sy’n para o leiaf 12 wythnos
  • - Adolygu’r Cynllun drafft
  • - Cyhoeddi ei Gynllun terfynol

Dylai’r Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy sydd wedi’u cyhoeddi gynnwys adrannau penodol sy’n nodi’r cyd-destun strategol ynghyd ag asesiad o hawliau tramwy lleol awdurdod. Bydd yr adrannau hyn yn arwain at Ddatganiad Gweithredu ynglŷn â rheoli a gwella hawliau tramwy lleol dros oes y Cynllun. Dylai’r Datganiad Gweithredu gynnwys nodau a blaenoriaethau allweddol, ymrwymiadau strategol hirdymor a manylion am yr hyn a fydd yn cael ei adael i Gynlluniau Cyflawni. 

At ddibenion y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy newydd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynlluniau Cyflawni. Cynlluniau gwaith 1-3 blynedd yw’r rhain i alluogi awdurdodau i fod yn fwy hyblyg ynglŷn â chyfleoedd ariannu a newidiadau i ddeddfwriaeth. 

Dweud eich dweud ar hawliau tramwy

Yn yr adolygiad o Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy mae cyfleoedd i’r cyhoedd a rhanddeiliaid sydd â buddiant helpu’r awdurdod i ddatblygu ei gynllun drwy ddarparu gwybodaeth am eu hanghenion a’u blaenoriaethau nhw. 

Mae gan Fforymau Mynediad Lleol ran allweddol i’w chwarae o ran helpu i ddatblygu’r Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy. Canfyddwch ragor am y Fforymau Mynediad Lleol, yma.

https://naturalresources.wales/days-out/recreation-and-access-policy-advice-and-guidance/networks-and-partnerships/local-access-forums/?lang=cy

Mae CNC yn ymgynghorai statudol ar gyfer pob Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac mae’n ystyried sut y gall tir a reolir gan CNC helpu i ddiwallu anghenion y cyhoedd.

Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy

Daeth y Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy 10 mlynedd i ben yn 2018. Rhoddodd Llywodraeth Cymru hwb enfawr i’r broses o weithredu’r Cynlluniau cyntaf drwy gyfrwng y Rhaglen Ariannu hon. Cyfoeth Naturiol Cymru fu’n ei gweinyddu a’i rheoli. Bu i Lywodraeth Cymru neilltuo ychydig o dan £12.86 miliwn dros oes y rhaglen. Mae gwybodaeth am y gwaith a wnaed i helpu gyda gweithredu’r cynlluniau cyntaf ar gael yma.

Ymchwil sy’n ymwneud â Chynlluniau Gwella Hawliau Tramwy

Nid oes dim gwaith ymchwil diweddar wedi’i gomisiynu ynglŷn â Chynlluniau Gwella Hawliau Tramwy. 

Comisiynwyd dau ddarn o waith ymchwil ar sail y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy cyntaf yng Nghymru:

Dolen i’r Adolygiad o Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy Cymru:

Adroddiad Llawn yr Adolygiad o Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy Cymru (Saesneg yn unig).PDF (1 MB)

Dogfennau Cysylltiedig

Archif Dogfennau

  • Adroddiad llawn or Adolygiad o Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Cymru.pdf(1 MB)
    Mae 23 o CGHT wedi’u cwblhau ar gyfer pob rhan o Gymru. Am y tro cyntaf, ceir cynlluniau strategol ar gyfer ardal pob awdurdod lle nodir anghenion, blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer gwella mynediad i gefn gwlad. Mae hyn wedi arwain at gyfle i ddwyn ynghyd yr wybodaeth a geir ym mhob CGHT er mwyn creu darlun cenedlaethol. Dyma adroddiad Adolygiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru, lle caiff gwybodaeth yn ymwneud â Chymru gyfan ei dwyn ynghyd
  • Nodyn Ymchwil or Adolygiad o Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Cymru.pdf(292 KB)
    Mae 23 o CGHT wedi’u cwblhau ar gyfer pob rhan o Gymru. Am y tro cyntaf, ceir cynlluniau strategol ar gyfer ardal pob awdurdod lle nodir anghenion, blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer gwella mynediad i gefn gwlad. Mae hyn wedi arwain at gyfle i ddwyn ynghyd yr wybodaeth a geir ym mhob CGHT er mwyn creu darlun cenedlaethol
  • Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy 2008-2012-Adroddiad Allbynnau.pdf (300 KB)
    Cynllun ariannu gan Lywodraeth Cymru yw Rhaglen Ariannu CGHT. Roedd i fod i gael ei weinyddu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru am gyfnod o 3 blynedd, ond mae'r cyfnod hwnnw wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall o 2008 i 2012. Dyrannwyd tua £6.5m ar sail fformiwla ariannu i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru a'r ddau Barc Cenedlaethol i weithredu eu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) (dyletswydd statudol dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000)
  • Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy-Enghreifftiau o waith ar gyfer 2013-2014.pdf (373 KB)
    Hon yw pedwaredd flwyddyn Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT). Mae’r cronfeydd gwerthfawr wedi cyfrannu tuag at nifer o brosiectau a gynlluniwyd er mwyn gweithredu holl Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Cymru ar lawr gwlad. Mae’r prosiectau o fudd i gerddwyr, marchogwyr, teuluoedd ifanc a chymunedau lleol a llawer mwy, ac maent wedi helpu i wella’r rhwydwaith hawliau tramwy ledled Cymru. Dyma rai ohonynt
  • Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy 2011-2012 Adroddiad Allbynnau Diwedd Blwyddyn.pdf (226 KB) 
    Mae'r papur hwn yn darparu'r wybodaeth a ddaeth i law gan bob un o'r 24 awdurdod1 (y 22 awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) am y gwaith a gyflawnwyd yn 2011-2012, pedwaredd flwyddyn Rhaglen Ariannu CGHT. Mae'r wybodaeth ariannol a'r wybodaeth am allbynnau a roddir yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i bob un o'r 24 awdurdod sy'n cael arian
  • Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy 2014-2015 Adroddiad Allbynnau Diwedd Blwyddyn.pdf (635 KB)
    Mae'r papur hwn yn darparu'r wybodaeth a ddaeth i law gan bob un o'r 24 awdurdod1 (y 22 awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) am y gwaith a gyflawnwyd yn 2014-2015, seithfed flwyddyn Rhaglen Ariannu CGHT. Mae'r wybodaeth ariannol a'r wybodaeth am allbynnau a roddir yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i bob un o'r 24 awdurdod sy'n cael arian
  • Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy Engreifftiau o waith 2014-2015.pdf (3.65 MB)
    Hon yw seithfed flwyddyn Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT). Mae’r cronfeydd gwerthfawr wedi cyfrannu tuag at nifer o brosiectau a gynlluniwyd er mwyn gweithredu holl Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Cymru ar lawr gwlad. Mae’r prosiectau o fudd i gerddwyr, marchogwyr, teuluoedd ifanc a chymunedau lleol a llawer mwy, ac maent wedi helpu i wella’r rhwydwaith hawliau tramwy ledled Cymru. Dyma rai ohonynt
Diweddarwyd ddiwethaf