Gwnaeth Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 roi dyletswydd statudol ar bob awdurdod priffyrdd a Pharciau Cenedlaethol i sefydlu a chynnal fforwm mynediad lleol yn ei ardal. Mae rhyw bedwar ar hugain o Fforymau Mynediad Lleol (FfMLl) i’w cael yng Nghymru er mwyn rhoi cyngor ynghylch datblygiadau mewn mynediad i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru .

Materion rheoli tir

Wrth roi'r cyngor hwn, mae Fforymau Mynediad Lleol yn ystyried materion pwysig sy'n ymwneud â rheoli tir - yn ogystal â'r angen gwirioneddol i warchod harddwch naturiol yr ardal benodol.

O dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rhaid i fforwm gynnwys aelodau sy'n cynrychioli:

  • defnyddwyr tir mynediad lleol a hawliau tramwy lleol
  • perchnogion a meddianwyr tir mynediad a thir â hawliau tramwy
  • buddiannau eraill sy'n arbennig o berthnasol i'r ardal

Etholiadau a chynrychiolwyr

Mae'r Fforymau Mynediad Lleol yng Nghymru yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd drwy Gyfarfodydd chwemisol y Cadeiryddion (fel arfer ym mis Chwefror a mis Hydref), a'r Gynhadledd Flynyddol, a gynhelir ym mis Mehefin fel arfer. Maent hefyd yn ethol Cynrychiolydd Cenedlaethol a Dirprwy Gynrychiolydd Cenedlaethol a'u gwaith yw cynrychioli'r Fforymau Mynediad Lleol mewn digwyddiadau, fforymau a chyfarfodydd priodol, fel y Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu'r Cynrychiolydd Cenedlaethol i drefnu'r cyfarfodydd hyn ar lefel genedlaethol ac yn llunio nodiadau'r cyfarfodydd a'r gynhadledd.

Cyfarfodydd Cenedlaethol y Fforymau Mynediad Lleol

 

Diweddarwyd ddiwethaf