Datganiad cenhadaeth caffael a chontractau

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd cyfunol, ein harweinyddiaeth strategol, a'n dylanwad masnachol ar draws caffael, rheoli contractau, a grantiau a chytundebau er mwyn helpu CNC i gyflawni ei nodau llesiant.

Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaethau cydymffurfiol sy'n cael eu hysgogi gan werth, a thrwy feithrin ymgysylltiad a chydweithrediad cryf â rhanddeiliaid ar draws y sefydliad.

Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad effeithiol i gefnogi gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion llesiant corfforaethol CNC

Byddwn yn gweithio'n agos ac ar y cyd â phob rhan o CNC i sicrhau bod penderfyniadau masnachol yn strategol gyson â nodau cyffredinol y sefydliad, p’un a yw’r rheiny’n ymwneud â chaffael, contractau neu gytundebau ariannu.

Defnyddio grym caffael yn ddoeth ac yn strategol, gan ddarparu gwasanaeth effeithlon o'r dechrau i'r diwedd

Byddwn yn ymdrechu i ddefnyddio ein dylanwad a’n grym masnachol i sicrhau bod CNC yn cael y gwerth gorau posibl am arian gan ei gyflenwyr, ei gontractau a'i gytundebau ariannu.

Drwy’r swyddogaeth gaffael, y Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau (CMSS), a’r tîm Grantiau a Chytundebau, byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon a chydymffurfiol, gan roi cyngor a sicrwydd amserol ar faterion cytundebol a chyllido.

Mae ein cydymdrechion yn cefnogi CNC i sicrhau gwerth am arian wrth gynnal safonau uchel o ran llywodraethu ac atebolrwydd.

Cael ein cydnabod fel sefydliad dibynadwy sy’n galluogi cytundebau contract cynaliadwy, arloesol a modern

Byddwn yn croesawu technolegau newydd ac ymagweddau modern at wasanaethau caffael a masnachol, gan sicrhau bod ein gweithgareddau’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Drwy fynd ati’n rhagweithiol i ymgysylltu â staff CNC, bydd y tîm Caffael, y Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau a’r tîm Grantiau a Chytundebau yn cydweithio i hyrwyddo defnydd cyson o fecanweithiau cyllido a phrosesau masnachol ar draws y sefydliad, a chydymffurfiaeth o ran hynny.

Mae hyn yn cefnogi ymrwymiad CNC i wella’n barhaus, i arloesi, ac i ofalu’n gyfrifol am adnoddau cyhoeddus.

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid sy'n addas i’r diben ac yn cydymffurfio ag arfer da

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi’r prif sylw i’r cwsmer ar draws caffael, rheoli contractau a grantiau a chytundebau.

Mae ein prosesau wedi'u cynllunio i fod yn deg, yn dryloyw, ac i gydymffurfio'n llawn â'r holl reoliadau perthnasol.

Drwy ymgysylltu’n barhaus â chwsmeriaid mewnol, byddwn yn gwella ein darpariaeth gwasanaeth yn barhaus, gan sicrhau bod ein timau wedi’u cymhwyso’n addas ac yn gweithredu’n unol â’r safonau arfer gorau.

Mae'r dull hwn yn cynorthwyo CNC i gyflawni ei amcanion gan gynnal ymddiriedaeth ac atebolrwydd a sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel.

Diweddarwyd ddiwethaf