Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn datblygu sefydliad lle mae ein holl ymwelwyr, holl ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’n gweithwyr yn cael eu trin yn deg, gyda pharch, a lle na chânt eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol o ganlyniad i unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig canlynol:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhyw
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Statws priodasol neu bartneriaeth sifil
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
Darllenwch ein hamcanion cydraddoldeb strategol
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb
Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn dangos y gwaith rydym wedi'i wneud i fwrw ymlaen â'r agenda cydraddoldeb. Mae'r adroddiad yn amlinellu ein gweithgaredd ar gyfer y flwyddyn flaenorol, ein camau nesaf a chrynodeb o'n proffil gweithlu.
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2025 - 2026
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2024 - 2025
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2023 - 2024
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2022 - 2023
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2021 - 2022
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2020 - 2021
Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae ein hsesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cyflwyno ein hamcanion a'n gwerthoedd ac sail tystiolaeth o sut y gall ein gwaith effeithio ar wahanol grwpiau, cymunedau a'r iaith Gymraeg.
Drwy'r asesiadau effaith hyn, gallwn rhagweld a chryfhau unrhyw effeithiau cadarnhaol rydym yn eu rhagweld tra gallwn weithio i liniaru effeithiau all fod yn adwynol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwilio am adborth oddi wrth ymwelwyr â'n prif safleoedd i ymwelwyr fel rhan o'i Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb y mae ganddo ddyletswydd i'w gyflawni o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Datganiad Polisi Cyflog Mawrth 2022
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog sy'n gyfartal i bawb, yn briodol a thryloyw, yn cynnig gwerth am arian, ac yn gwobrwyo staff mewn modd teg ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud. Mae'r datganiad polisi hwn yn amlinellu dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cyflogau a'r berthynas rhwng cyflog gweithwyr a chyflog uwch-reolwyr.
Datganiad Polisi Cyflog Mawrth 2022
Dadansoddiad o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn mesur y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (canolrifol) dynion a menywod fesul awr, a ddangosir fel arfer gan y ganran mae dynion yn ei hennill yn fwy na menywod.
Mae ein gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei chasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn ac yn cael ei hadrodd ar y Gwasanaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar .Gov i gydymffurfio â methodoleg Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017.
Crynodeb o ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn CNC yn 2025
|
31 Mawrth |
Y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau |
Gwahaniaeth |
|---|---|---|
|
2016 |
7.8% |
- |
|
2017 |
5.5% |
i lawr 2.3% |
|
2018 |
4.8% |
i lawr 0.7% |
|
2019 |
5.3% |
i fyny 0.5% |
|
2020 |
2.5% |
i lawr 2.8% |
|
2021 |
2.0% |
i lawr 0.5% |
|
2022 |
2.3% |
i fyny 0.3% |
|
2023 |
2.0% |
i lawr 0.3% |
|
2024 |
1.6% |
i iawr 0.4% |
|
2025 |
1.7% |
i fyny 0.1% |
O’r ffigurau a gasglwyd ym mis Mawrth 2025, mae dadansoddiad o 2,320 o gydweithwyr yn dangos bod y bwlch cyflog rhywedd cymedrig wedi cynyddu 0.1% eleni i 1.7%. Mae hyn yn golygu bod merched yn ennill 98.3c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.
Mae ein bwlch cyflog rhywedd canolrifol wedi gostwng 0.2% o'r flwyddyn diwethaf, i 2.9%. Mae hyn yn dangos bod merched yn ennill 97.1c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.
Nid yw’r bwlch hwn yn golygu bod dynion yn cael mwy o dâl na merched am gyflawni’r un math o rôl, ond mae’r dadansoddiad yn dangos bod gweithwyr benywaidd sy’n gweithio’n rhan-amser yn cael y cyflog fesul awr isaf ar gyfartaledd.
Er bod y bwlch cyflog canolrifol yn dangos gwahaniaeth o 97.1c i bob £1, mae’r cyfartaledd yn dangos, ar y cyfan, nad yw’r cyflogau fesul awr yn rhy bell oddi wrth ei gilydd (98.3c i bob £1). Mae sawl ffactor sy’n effeithio ar y bwlch cyflog – er enghraifft:
- Mae 53% (1,240) o’n gweithlu yn ddynion
- Mae 47% (1,080) o’n gweithlu yn fenywod
- Mae 92% (1,138) o’n gweithlu gwrywaidd yn gweithio’n amser llawn gyda 8% (102) yn gweithio'n rhan amser
- Mae 75% (814) o’n gweithlu benywaidd yn gweithio’n amser llawn gyda 25% (266) yn gweithio'n rhan amser
- Mae 60% o’n cyflogau fesul awr chwartel uchaf yn ddynion
- Mae'r chwartel uchaf wedi'i sgiwio 60/40 i weithwyr gwrywaidd
- Mae mwyafrif o dîm arwain CNC yn cynnwys gweithwyr benywaidd yn bennaf
- Mae mwy o wrywod na benywod yn ein holl chwartelau
Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein data ar borth adrodd GOV.UK.
Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Sefydlwyd y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i gefnogi cyflawni, adrodd a monitro’r amcanion cydraddoldeb strategol ar draws y sefydliad. Mae’n cynnwys cynrychiolaeth o bob cwr o CNC, gan gynnwys y bwrdd, y tîm gweithredol, pob un o’n cyfarwyddiaethau, cydweithwyr o bob cwr o’r sefydliad, undebau llafur, a’r grwpiau adnoddau gweithwyr. Mae’r fforwm yn cyfarfod bob chwarter.
Ein rhwydweithiau staff
Mae gennym nifer o Grwpiau Adnoddau Gweithwyr (ERG), sy’n cael eu galw hefyd yn rhwydweithiau staff. Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr yn lle cefnogol i'n cydweithwyr ddod at ei gilydd i greu newid yn y gweithle.
Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr yn aml yn canolbwyntio ar nodwedd warchodedig yn y gweithle. Mae'r rhwydweithiau'n rhoi cyfle i'n cydweithwyr gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydweithio. Mae'r rhwydweithiau hefyd yn cyfrannu at bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â phobl.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cydraddoldeb, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn: equalities@naturalresourceswales.gov.uk