Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru
Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cwmpasu awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Nod thema Cysylltu ein Tirweddau yw nodi cyfleoedd lleol ar ein safleoedd gwarchodedig a’n hamgylcheddau naturiol ac adeiledig er mwyn cyfrannu at wydnwch y rhwydweithiau ehangach o gynefinoedd blaenoriaethol yn y rhanbarth. Dylai'r cyfleoedd hyn ar gyfer gwella gwydnwch ecosystemau hybu'r cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd, ar draws ffiniau ac ar raddfa tirwedd
Mae'r thema Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd am nodi cyfleoedd graddfa dirwedd a rhanbarthol ac ymyriadau ar y cyd ar gyfer ymaddasu a lliniaru'r hinsawdd a fydd yn gwella gwydnwch ecosystem a chymuned leol.
Mae'r thema Iach, Heini, Cysylltiedig yn ymwneud â nodi cyfleoedd ac ymyriadau cydweithredol sy'n amddiffyn a gwella iechyd a llesiant, gan gysylltu pobl, cymunedau, a chyflenwi gwasanaethau â natur er budd y bobl a'r amgylchedd.
Nod y thema Ffyrdd o Weithio yw nodi manteision cydweithio rhanbarthol strategol a nodi'r hyn mae angen i ni ei wneud ar unwaith, ac yn dda, ar raddfa ranbarthol i fwyafu cyflawniad lleol. Mae'r thema strategol Ffyrdd o Weithio'n ychwanegu gwerth at y ffyrdd y mae ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli ar y cyd, gan fwyafu'r manteision maent yn eu darparu.