Iach Heini Cysylltiedig
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Pam y thema hon?
Mae amrywiaeth o ffactorau yn llywio ein hiechyd a'n llesiant. Mae'r lleoedd a'r mannau o'n cwmpas (ein hamgylchedd) yn dylanwadu ar ein hymddygiad, y ffordd rydym yn byw, a'n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae amgylchoedd gwahanol yn ffactor sy'n effeithio ar ganlyniadau iechyd i unigolion ac yn bytholi anghydraddoldebau iechyd ar draws cymunedau.
Mae amgylchoedd o ansawdd da yn galluogi pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, i deimlo'n ddiogel, i ddefnyddio cyfleusterau a gwasanaethau, ac i gymdeithasu a chwarae. Mae'r ffactorau hyn yn cefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol da. I'r gwrthwyneb, mae'n bosib y bydd gan amgylcheddau o ansawdd gwaeth ddiffyg mynediad i fannau gwyrdd, darpariaeth tai annigonol, mwy o broblemau o ran traffig a llygredd aer, a diffyg mynediad i wasanaethau. Nid yw amgylcheddau o'r fath yn annog ymddygiadau iach a gallent hyd yn oed effeithio'n uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol.
Mae mannau gwyrdd yn dod â phobl a chymunedau ynghyd ac yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â phroblemau o ran allgau cymdeithasol ac unigrwydd. Mae gweithgarwch yn yr awyr agored ar y cyd yn meithrin synnwyr cyffredin o bwrpas ac yn magu hunaniaeth leol a theimlad o falchder mewn lle.
Mae rhagor o dystiolaeth i ddangos y gallai datguddiad i leoliadau naturiol fod yn effeithiol o ran trin rhai cyflyrau iechyd, yn enwedig salwch meddyliol, a bod ymgysylltu â natur o fudd i'r rheini sy'n byw ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, iselder a dementia drwy wella gweithredu gwybyddol a lleihau gorbryder.
Llun gan Prosiect Dewch Allan
Sut olwg fyddai ar lwyddiant?
Sut mae llwyddiant yn edrych | Y weledigaeth ar gyfer y De-ddwyrain |
---|---|
Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws pedair nodwedd gwydnwch ecosystemau yn cael ei beryglu ac mae’n cael ei wella lle y bo angen |
Mae partneriaid yng Ngwent yn cydweithio i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant drwy gysylltu pobl, cymunedau a chyflenwi gwasanaethau â natur er bydd pobl a'r amgylchedd. Gyda'n gilydd, rydym yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a rhyngweithio parhaus â natur ac yn gwireddu’r manteision lluosog y gall natur eu darparu. Adlewyrchir gwerth natur ar gyfer cymdeithas a'r economi ym mhenderfyniadau a gwariant cyhoeddus. |
Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn cael ei hybu ar gyfer llesiant |
Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang Pan fo pobl ifanc yn cael eu cysylltu â natur, mae'n effeithio'n gadarnhaol ar eu haddysg, iechyd corfforol, llesiant emosiynol, a sgiliau personol a chymdeithasol. Mae dysgu am natur yn helpu i ddatblygu dinasyddion gweithgar, cyfrifol a moesegol. Cymru lewyrchus Mae mannau gwyrdd digonol sy'n gweithio'n dda ac o ansawdd uchel yn llywio buddsoddiad mewnol ac yn cynyddu gwydnwch economaidd lleol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch a theithio llesol yn bosib. Mae gan bobl wybodaeth dda am eu hamgylchedd lleol, mae cysylltiadau cyhoeddus yn uchel, ac mae asedau gwyrdd cyhoeddus/cymunedol yn cael eu rhannu. Mae mannau naturiol bywiog yn cynyddu'r galw am sgiliau gwyrdd, yn cyflenwi cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes a gwirfoddoli, ac yn hyrwyddo mentrau economaidd cynaliadwy, gan hybu a chefnogi'r economi werdd leol. Cymru iachach Mae ein mannau gwyrdd lleol a dulliau o’u rheoli ac ymyriadau iechyd yn cyfuno i sicrhau bod Gwent yn iachach. Mae byd natur a mannau awyr agored yn rhan o brif ffrwd bywydau pobl a'r 'system' (gofal iechyd, cynllunio, addysg ac ati). Mae atebion seiliedig ar natur yn dod yn ddull arferol. Mae sefydliadau yn cydweithio i weithredu hyn (e.e. y System Iechyd Naturiol). Mae gan bobl fynediad i fannau naturiol diogel lle gallant wneud ymarfer corff, chwarae, tyfu bwyd ac ymlacio. Mae llwybrau gwyrdd ar gyfer teithio llesol ar gael i bawb o oedran cynnar ac ymddygiadau iach yw'r peth normal. Mae llai o geir ac aer glanach. Mae plant yn teimlo’n ysbrydoledig, yn ddiogel, ac wedi’u hannog i chwarae yn yr awyr agored. Mae cymunedau yn elwa ar fwy o weithgarwch corfforol, gwell iechyd meddwl, ac atal cyflyrau iechyd cronig (e.e. gordewdra, diabetes Math 2). Mae hyn yn golygu bod llai o salwch a llai o wahaniaeth mewn disgwyliad oes iach ar draws Gwent. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu Mae mannau gwyrdd bywiog lleol yn llawn mynegiant a hwyl ac yn greadigol. Maent wedi cael eu cynllunio ar gyfer preswylwyr a chanddynt ac yn adlewyrchu diwylliant a hunaniaeth Cymru, gan gyflenwi cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden, gan hybu cyfleoedd o ran twristiaeth. Mae ein tirweddau yn gysylltiedig ac yn iach ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at ein treftadaeth naturiol. Cymru o gymunedau cydlynus People feel more connected to the environment and to each other, have access to quality local green spaces and know where they can go and what they can do there. Traffic accidents are reduced. Communities are involved in local green space design and maintenance, creating desirable places to socialise with each other, instilling local pride, safety and community identity. |
Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau nawr nac yn yr hirdymor |
Cymru sy'n fwy cyfartal Mae mannau gwyrdd lleol yn fforddiadwy a hygyrch i'n cymunedau mwyaf difreintiedig, sydd hefyd dan berygl mwy o brofi effeithiau gan beryglon amgylcheddol ac allgáu cymdeithasol. Mae mannau gwyrdd lleol yn ddiogel, yn cysylltu pobl, yn mynd i'r afael ag allgáu, ac yn hybu sgiliau a hyder. |
Llun gan Pete Frost
Beth yw'r camau nesaf?
CANLYNIAD: Cyflawnir atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd ar draws Gwent
Camau gweithredu:
- Datblygu Cynllun Mynediad Strategol i Went, gan nodi cysylltiadau coll ac ardaloedd y mae angen gwelliannau ynddynt
- Cydlynu 'cynnig hamdden gwyrdd' Gwent i bobl leol ac er mwyn cynyddu teithiau dydd a thwristiaeth, gan gynnwys cysylltu â Phyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd (e.e. Coedwig Cwm-carn)
- Sicrhau hyrwyddo mannau gwyrdd mewn ffordd gydlynol a'r 'cynnig gweithgarwch awyr agored' gyda ffocws ar gynllunio cyfathrebu i atgyfnerthu a chefnogi newid ymddygiad cynaliadwy
- Cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd aer, gyda ffocws penodol ar hyd coridor yr M4 a mannau llygredd aer gwael
- Gweithio gyda Rhwydweithiau Llesiant Integredig i gyflawni rhaglen beilot o ragnodi gwyrdd
- Cynyddu mynediad i fannau tyfu bwyd mewn cymunedau fel gerddi, mannau dynodedig ger adeiladau cymunedol a rhandiroedd; rhannu arfer da o fentrau presennol a galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn tyfu bwyd yn lleol
- Gweithio gyda pherchnogion a rheolwyr tir yng Ngwent i nodi lle mae modd rheoli tir yn wahanol i gyflawni manteision iechyd a llesiant i gymunedau
- Gweithio gyda pherchnogion a rheolwyr tir i dreialu dulliau gwahanol o ddyrannu cyfrifoldebau risg ac atebolrwydd wrth weithio gyda chymunedau
- Diogelu a gwella’r cynnig mannau gwyrdd lleol ar gyfer datblygiadau newydd a phresennol, gan weithio gyda chynllunwyr trefol
- Gwella seilwaith teithiol llesol
- Cyflawni cyfleoedd a nodir yn siarter teithio iach staff Gwent ar draws amrywiaeth mor eang â phosib o sefydliadau
- Datblygu a chefnogi rhaglen o ymyriadau sy'n seiliedig ar natur ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol drwy wneud y canlynol:
-
- Adolygu darpariaeth bresennol, gan gynnwys ariannu, a chwmpasu cyfleoedd i weithio ar raddfa;
- Nodi ffyrdd ymarferol o alluogi gwaith i gomisiynu a chyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur a;
- Sefydlu dealltwriaeth a rennir o sut gall natur wneud cyfraniad sylweddol at ymyriadau ataliol a therapiwtig ar gyfer iechyd corfforol a meddwl
- Adolygu darpariaeth bresennol, gan gynnwys ariannu, a chwmpasu cyfleoedd i weithio ar raddfa;
-
- Annog, cefnogi a chyflawni mentrau sy'n gwella ansawdd amgylcheddau lleol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu nifer y mannau gwyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd sy’n cyflawni statws y Faner Werdd a’r Faner Werdd Gymunedol
- Pennu dealltwriaeth a rennir o'r rhesymau nad yw pobl yn ymwneud â'r amgylchedd naturiol fel mecanwaith ar gyfer ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd
- Cefnogi cyfleoedd ar gyfer dysgu a chwarae yn yr awyr agored, gan edrych ar gynnwys targedau chwarae yn yr awyr agored mewn cyd-destun polisi lleol/rhanbarthol
CANLYNIAD: Mwy o ddealltwriaeth o sut y gall atebion sy'n seiliedig ar natur gyflawni canlyniadau iechyd a llesiant gwell ar draws Gwent
Camau gweithredu:
- Datblygu rhwydwaith thematig o ymarferwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau perthnasol (a chymunedau lle y bo'n briodol) i ddatblygu dealltwriaeth a rannir o atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Archwilio dulliau o gynnwys cymunedau a/neu sectorau a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan newid yn y dyfodol yn y rhanbarth yn y gwaith o ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer atebion sy’n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Galluogi cyfleoedd i ddinasyddion herio a chraffu ar gynnydd camau gweithredu
- Darparu'r lefel angenrheidiol o’r ymrwymiad, uchelgais ac arweinyddiaeth mae eu hangen i sbarduno camau gweithredu ar atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Gweithio gyda'n gilydd i nodi cynlluniau, strategaethau a dulliau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau y bydd angen eu newid er mwyn sbarduno ac ymwreiddio atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu, poblogi a defnyddio setiau data cyffredin a fydd yn galluogi sefydliadau i greu gwaelodlin tystiolaeth sy'n ymwneud ag ansawdd a hygyrchedd ein mannau gwyrdd lleol a'u gallu i gyflawni manteision llesiant
- Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu fframweithiau monitro a gwerthuso cyson sy'n mesur y newidiadau i bolisi ac ymarfer ynghylch atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Datblygu methodoleg gyffredin ar gyfer nodi cyfleoedd ac asesu lle mae modd rheoli ystad y sector cyhoeddus mewn ffordd sy'n caniatáu cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Datblygu methodoleg gyffredin ar gyfer nodi sut gall gwell arferion caffael ar y cyd yn y sector cyhoeddus gefnogi’r economi sylfaenol
- Datblygu methodoleg ar gyfer y sector iechyd i ystyried effeithiau tymor hir y newid yn yr hinsawdd ar wasanaethau a ddarperir (fel a nodwyd gan fodelu rhagfynegi’r hinsawdd yn dilyn y senario allyriadau uchel)
- Datblygu iaith gyffredin sy’n helpu partneriaid i sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r hyn y gall natur ei wneud ar gyfer iechyd
CANLYNIAD: Mwy o allu o fewn sefydliadau a chan unigolion, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer iechyd a llesiant i bobl ar draws Gwent
Camau gweithredu:
- Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu pecyn cymorth a chrynhoi arfer gorau, cyngor ac arweiniad ar gyfer dulliau o reoli a thalu costau cynnal a chadw mannau gwyrdd lleol ar draws sefydliadau mewn modd sy'n mwyafu'r manteision iechyd maent yn eu darparu i gymunedau, a'u rhannu ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat fel y bo'n briodol
- Datblygu a chyflawni hyfforddiant sgiliau 'iechyd er natur' ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat lle y bo'n briodol, gan ystyried y cyfle am brentisiaethau amgylcheddol
- Datblygu a chyflawni cynnig cydlynol ar gyfer gwirfoddoli amgylcheddol ar draws Gwent
- Gweithio gyda'n gilydd i nodi ffrydiau ariannu sy'n gallu caniatáu gwaith sy'n seiliedig ar leoedd i gyflawni allbynnau sy'n gwella iechyd ein hardaloedd naturiol a'r manteision iechyd maent yn eu darparu
- Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu cynllun gweithredu aml-sector a thraws-sefydliadol i gyflawni seilwaith gwyrdd gwell ar gyfer cyfleoedd iechyd yng Ngwent. Defnyddir y cynllun gweithredu hwn i gyflawni'r camau gweithredu penodol i’r thema a nodir uchod ac, wrth wneud hynny, bydd yn:
-
- Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu'n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau llywodraethu ac atebolrwydd cryf ar waith
- Sicrhau bod methodolegau cyffredin cytunedig yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ystyried anghenion ychwanegol cymunedau dan anfantais a bregus
- Nodi ble a sut y gall cydweithredu rhanbarthol feithrin gwydnwch
- Cyfrannu at ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd
- Nodi mecanweithiau ar gyfer trefniadau gwaith partneriaeth effeithiol ar raddfa fwy lle y bo angen (e.e. polisi a strategaeth genedlaethol)
- Llywio arferion rheoli asedau, caffael a chynllunio ariannol yn y sector cyhoeddus
- Archwilio ffyrdd newydd o weithio ac atgynhyrchu llwyddiant ar raddfa fwy
- Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu'n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau llywodraethu ac atebolrwydd cryf ar waith
-
- Gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb mewn rheoli tir a'r sector iechyd a phrofiad yn y meysydd hyn i ddatblygu cynllun lle mae ganddynt yr adnoddau i gynghori ar benderfyniadau rheoli tir sy’n deillio o gymunedau, gan gynnwys nodi cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dir a reolir yn gyhoeddus ar y raddfa leol gyda chynghorau cymuned a thref
Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?
Datblygwyd ymagwedd thematig ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yng Ngwent er mwyn bod mor ddefnyddiol a hygyrch â phosib o ran cynnwys ac integreiddio ac mae’n adlewyrchu trefniadau gwaith y lle. Gwnaeth yr ymagwedd rhwydwaith thematig ddarparu mecanwaith yn gynnar ym mhroses y Datganiad Ardal i ymgymryd â gweithgarwch drwy lens benodol. Roedd hyn yn ddefnyddiol wrth ganiatáu i randdeiliaid ddatblygu llinynnau gwaith heb rwystrau posib o gwmpas mawr neu aneglur.
Mae enghreifftiau nodedig o bartneriaethau strategol yn gweithio yn y thema Iach, Heini, Cysylltiedig yn cynnwys mwy ystyrlon gyda'n partneriaid sector cyhoeddus, fel Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, Rhwydweithiau Llesiant Integredig yng Ngwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a phrosiectau partneriaethau rhanbarthol, gan gynnwys Grid Gwyrdd Gwent a phartneriaeth Gwent Fwyaf Gydnerth. Rydym hefyd wedi gweithio i integreiddio'r ffrwd waith hon â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o’i broses ymgysylltu Meithrin Gwent Iachach. Mae'r ddau sefydliad yn cydnabod bod cyfle sylweddol am synergedd rhwng Strategaeth Meithrin Gwent Iachach a Datganiad Ardal y De-ddwyrain.
Llun gan Prosiect Dewch Allan
Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?
Bydd y canlyniadau dan bob un o'r pedair thema strategol yn cyflawni gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer y De-ddwyrain. Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer y De-ddwyrain, mae pob un yn rhan o'r un dull gweithredu trosfwaol ar gyfer cyflawni Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn y lle.
Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd mwy cydweithredol, integredig a chynhwysol o weithio; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym wedi'i wneud yng Ngwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn wahanol, yn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.
Yn y De-ddwyrain, aethom ati i lunio Datganiad Ardal sy'n llywio cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd o weithio gyda'i gilydd wrth wneud hynny. Mae proses y Datganiad Ardal yn ymaddasol a bydd yn helpu i archwilio a llunio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.
Bydd rhwydweithiau thematig yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd yn wahanol i feithrin gwydnwch ecosystemau. Bydd pob rhwydwaith yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin, yn ogystal â hwyluso ymyriadau ataliol dros y tymor hwy.
Sut all pobl gymryd rhan?
Os hoffech gymryd rhan mewn cyflwyno'r camau gweithredu a restrwyd yma, cyfrannu at ddatblygu’r rhwydwaith thematig, neu rannu eich delweddau a'ch straeon eich hun o sut mae natur wedi effeithio ar eich iechyd a'ch llesiant eich hunain, cysylltwch â ni.