Cysylltu Ein Tirweddau
Nod thema Cysylltu ein Tirweddau yw nodi cyfleoedd...
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cwmpasu awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Wrth siarad am Ddatganiad Ardal y De-ddwyrain, rydym weithiau yn cyfeirio at Went hefyd. At ddibenion y Datganiad Ardal, rydym wedi defnyddio'r termau hyn yn gyfnewidiol.
Yn y De-ddwyrain, rydym wedi defnyddio dull graddfa tirwedd i greu Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ystyried ble a pham rydym am adeiladu gwydnwch ecosystemau yn nhermau ardaloedd arbennig a nodedig ein bro. Bydd gweithio yn y ffordd hon yn ein galluogi i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, cymdeithasol a gwleidyddol sy'n gynyddol gymhleth ac eang eu gwasgariad ac sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau rheoli traddodiadol. Bydd yr heriau hyn, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn gofyn i ni i gyd weithio mewn ffordd wahanol. I wneud hyn, rhaid i ni wir ddeall y bobl, y lle, a'r ffyrdd rydym yn rhyngweithio â'r amgylchedd.
I wireddu'r buddion y gall natur eu darparu, rhaid i’n hardaloedd naturiol fod yn iach ac yn wydn i fygythiadau ac amhariadau. Enw gallu adnoddau naturiol i gyflenwi'r swyddogaeth hon yw gwydnwch ecosystemau. Gellir ystyried gwydnwch ecosystemau yn fesur iechyd: po fwyaf iach (neu po fwyaf gwydn) yw'r ecosystem, y fwyaf tebygol ydyw i oroesi a ffynnu a bod o fudd i bobl a chymunedau.
Yn Ne-ddwyrain Cymru, ein nod yw cyflwyno Datganiad Ardal sy'n llywio gwaith cynllunio, o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a chan sefydliadau eraill, ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd gwahanol o gydweithio. Bydd proses y Datganiad Ardal yn helpu i archwilio a llywio ffyrdd dyheadol o weithio.
Mae'r camau cydweithredol a nodwyd o dan bob thema wedi’u tanategu gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, gwybodaeth leol, a dealltwriaeth a gasglwyd drwy gydol y broses. Mae'r wybodaeth hon wedi deillio o ffynonellau niferus a thrwy edrych ar yr holl dystiolaeth gallwn greu darlun ystyrlon o Went a chyrraedd consensws ar gyfer gweithredu. Mae hyn yn helpu i roi'r pethau rydym eisiau eu gwneud o fewn cyd-destun.
Mae'r canlyniadau o dan bob thema strategol yn perthyn yn benodol i ddealltwriaeth, gallu, a gwydnwch ecosystemau a/neu gymunedol drwy lens y thema honna. Mae'r holl ganlyniadau (a chamau) hefyd wedi eu nodi i weithio ar y cyd fel fframwaith ar gyfer adeiladu gwydnwch ecosystemau a chydweithio'n wahanol.
Bydd y canlyniadau o dan bob un o’r pedair thema strategol yn cyflenwi gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer De-ddwyrain Cymru. Mae'r weledigaeth hon wedi ei datblygu ar y cyd yn ystod proses y Datganiad Ardal ac mae wedi ei thanategu gan yr hyn y mae arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach am weld yng Ngwent.
Yn ogystal ag ymfalchïo mewn nifer o safleoedd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, mae De-ddwyrain Cymru yn cynnwys nifer o ardaloedd tirwedd nodedig, sydd oll yn cyfrannu at amgylchedd eiconig naturiol Gwent. Caiff y tirweddau nodedig hyn eu disgrifio yma:
Mae Gwastadeddau Gwent yn ffurfio tirwedd adferedig helaeth ac isel ar hyd arfordir aber afon Hafren. Mae hon yn ardal o bwysigrwydd hanesyddol ac archeolegol rhyngwladol; tirwedd amaethyddol adferedig lle mae parseli o dir pori ffrwythlon a thir âr wedi eu fframio gan rwydwaith o ffosydd draenio a elwir yn ‘reens’ yn y dafodiaith Saesneg leol. Mae'r cynefinoedd nodedig hyn yn creu patrwm i'r dirwedd ac yn darparu amgylchedd cyfoethog a bioamrywiol ar gyfer planhigion, mamaliaid ac infertebratau. Caiff y dirwedd ei hamddiffyn rhag aber afon Hafren, gyda'i wastadeddau llaid a morfeydd heli, gan forglawdd ac mae afon Gwy yn ffin iddi.
Llun gan Fen Turner
Mae'r dirwedd dawel, gysgodol hon, gyda'i bryniau tonnog ysgafn a’i chymoedd rhyngddynt, yn rhoi golygfeydd nodedig tuag at yr ucheldiroedd. Mae afon Wysg yn llifo i’r de o’r Fenni, ac mae afon Mynwy ac afon Troddi yn llifo i’r dwyrain i gwrdd ag afon Gwy. Mae iseldiroedd tonnog Sir Fynwy yn cynnwys tir pori cyfoethog gyda gwrychoedd a thir âr ar y gorlifdir ffrwythlon, parseli bach arunig o goetir, a phlanhigfeydd llydanddail a chymysg ar fryniau a llethrau.
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Y mwyaf trefol o'r holl dirweddau yn Ne-ddwyrain Cymru yw Dinas Casnewydd a'i chraidd hanesyddol. Mae'r M4, priffyrdd a rheilffyrdd yn elfen amlwg yn y dirwedd. Mae afon Wysg - afon lanwol yn y man hwn - yn llifo trwy'r ddinas gyda'i phont gludo eiconig a'i phorth diwydiannol. Lleolir mannau gwyrdd trefol ym Mryngaer y Gaer, Ridgeway a Pharc Tredegar, ac mae rhai rhannau o goridorau iseldir afon Ebwy, afon Lwyd ac afon Wysg yn darparu adrannau tawel a bioamrywiol. Saif tref Rufeinig Caerllion i ddwyrain y ddinas ac ychydig i'r gogledd ohoni ceir hen drefi diwydiannol Cwmbrân a Phont-y-pŵl.
Llun gan John Briggs
Mae ardal Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru yn cynnwys rhan fach o Fannau Brycheiniog, sef ardal sy'n nodweddiadol ar gyfer ei hansawdd golygfaol ac sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n cynnwys Cwm Euas ac ucheldir cyfagos ar y Mynydd Du a chopaon nodedig Ysgyryd Fawr a Phen y Fâl, sy’n fframio Dyffryn Wysg yn y Fenni.
Rhostir ucheldir agored gyda golygfeydd eang, mae'r dirwedd hon wedi'i nodi am ei llonyddwch, awyr dywyll a datblygiad cyfyngedig. Mae coetir conwydd a llydanddail yn bresennol. Mae porfeydd yn aml wedi'u cwmpasu gan wrychoedd trwchus, a llonydd cul yn aml. Ceir treflannau gwasgaredig bach yn y cymoedd gydag archaeoleg cyn-hanesyddol a safleoedd canoloesol, gan gynnwys Priordy Llanddewi Nant Hodni a pharcdir hanesyddol.
Llun gan John Briggs
Mae'r dirwedd brydferth hon yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy. Mae'r dirwedd yn wledig ac yn dawel ei chymeriad, ar wahân i ar hyd coridorau'r A40, yr A48 a'r M4. Mae'n cynnwys y ceunant afon mwyaf a hiraf yng Nghymru, gyda chreigiau calchfaen dramatig uwchben Cas-gwent a golygfa anhygoel o'r ceunant ac Afon Gwy yn ymdroelli. Mae'r dirwedd yn adlewyrchu treftadaeth archeolegol, ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog, ac mae nifer o'i chyrchfannau eiconig fel Abaty Tyndyrn yn boblogaidd gydag ymwelwyr.
Mae'r amgylchedd hwn, sy'n goediog ac afonol yn bennaf, yn enwog fel lloches i rywogaethau prin ac mae'n ffurfio un o'r ardaloedd mwyaf sy’n weddill o goetir llydanddail lled-naturiol hynafol yn y wlad. Mae Coed Gwent, a all ymddangos i fod yn goed conwydd yn bennaf, yn rhan o'r bloc mwyaf o goetir hynafol yng Nghymru.
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Llwyfandir gwyllt a gwyntog helaeth gyda chymoedd dwfn rhyngddynt sy’n nodweddu’r dirwedd hon. Mae Cymoedd y Dwyrain, sef Cwm Ebwy, Cwm Sirhywi, Cwm Rhymni a Chwm Llwyd, a'r ucheldiroedd cyfagos, yn ffurfio rhan o dirwedd ehangach Cymoedd y De.
Mae'r dirwedd hon yn adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol helaeth ym meysydd glo a gwaith haearn. Mae’r dirwedd yn cynnwys rhostir ucheldirol gyda grug, gwair, rhedyn a waliau cerrig, y mae llawer ohono'n dir comin. Mae rhostir, mawnogydd, ffridd a phorfeydd rhos yn nodweddiadol.
Ein fideo yn egluro proffil y dirwedd ar Dde Ddwyrain Cymru
Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.
Cynefinoedd eang – De Ddwyrain Cymru (PDF)
Ardaloedd gwarchodedig – De Ddwyrain(PDF)
Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng De Ddwyrain Cymru: