Cynllun gwerthu a marchnata pren 2021- 2026

Crynodeb gweithredol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r mwyaf o’r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n dwyn ynghyd ac yn gweithredu llawer o'r offer a'r mecanweithiau sydd eu hangen i reoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gydlynol ac integredig.

Mae ein staff o 2,000 yn ymgymryd â llu o gyfrifoldebau, gan gynnwys bod yn rheoleiddwyr a chynghorwyr, tirfeddiannwyr a gweithredwyr ac ymatebwyr brys.  Rydym hefyd yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae cynhyrchu pren yn cyfrannu at sector coedwigaeth a phrosesu pren ffyniannus ac fe'i cydnabyddir yn gyfrannwr allweddol at economi wledig iach ac at reoli coedwigoedd ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Mae rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn cyfrannu at well bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol, yn gwella ansawdd dŵr dalgylchoedd coediog, ac yn darparu mannau deniadol ar gyfer hamdden a chynnwys y gymuned. Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y broses o leihau allyriadau net oherwydd, pan gaiff y goeden ei chynaeafu, mae'r carbon yn dal i gael ei storio yn y pren tan ddiwedd ei hoes ffisegol.

CNC yw cyflenwr mwyaf pren ardystiedig yng Nghymru, ac felly mae ei weithrediadau cynaeafu a marchnata pren yn dylanwadu ar ei allu i gyfrannu at y nodau ehangach hyn a'u cyflawni.

Mae'r tir sy'n cael ei reoli gan CNC yn cynnwys 7% o'r holl ddaliadau tir yng Nghymru ac mae gwerthu pren o YGLlC yn ein galluogi i gynhyrchu elw economaidd y gallwn ei ailfuddsoddi yn yr ystad goedwig i gefnogi ein gwaith yn y dyfodol.

Yn y cynllun gwerthu a marchnata pren hwn, cyflëir ein dull o gynaeafu a marchnata pren o YGLlC ar gyfer y cyfnod 2021-26. Fe'i hysgrifennwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 1 Medi 2020 a 3 Tachwedd 2020. Mae'r ymatebion a gyflwynwyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw wedi helpu a llywio'r cyfeiriad a'r camau gweithredu a bennir yn y cynllun hwn.

Mae CNC yn gweithredu o fewn deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â rheoli YGLlC. Mae'r math o weithgarwch sy'n digwydd ar yr ystad, yn fasnachol neu fel arall, yn cael ei ddylanwadu gan y ddeddfwriaeth hon, gan gynnwys sut y caiff y gweithgarwch hwnnw ei weithredu.

Rhaid i holl weithgareddau masnachol CNC gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol Cymru a'r DU gan gynnwys Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, polisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru a CNC a, lle y bo'n briodol, rheoleiddio gwirfoddol megis ardystio YGLlC yn annibynnol.

Mae'r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru a Rôl a Phwrpas YGLlC hefyd yn dylanwadu ar y cynllun gwerthu a marchnata pren hwn.

Bydd ein hamcanion marchnata ar gyfer y cyfnod hwn yn seiliedig ar ein hymrwymiad i gynnig pren ar werth o YGLlC mewn ffordd agored a thryloyw sy'n dangos y gwerth gorau am arian ar gyfer pwrs y wlad.

Mae ein dull o reoli YGLlC yn destun archwiliad allanol bob blwyddyn i safonau rhyngwladol ardystio coedwigoedd, fel y’u nodir yn Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS).  Mae ardystio yn erbyn UKWAS yn wiriad o'n rheolaeth gynaliadwy ar YGLlC, gan gyrraedd safonau rhyngwladol y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC). Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gallu ardystio ein cynnyrch coedwig i FSC® ac i PEFC.

Cod trwyddedu Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® FSC® yw FSC-C115912 a chod trwyddedu PEFC yw PEFC/16-40-1003.

Byddwn yn parhau i ddarparu datganiad blynyddol o ymrwymiadau cyflenwi pren yn y mis Hydref cyn blwyddyn werthu benodol ac yn rheoli a chyfleu unrhyw newidiadau i'r cyflenwad gyda 12 mis o rybudd lle bynnag y bo modd.

Byddwn yn chwarae ein rhan i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau yn yr hinsawdd a natur, wrth gyflawni ein cyfrifoldebau fel tirfeddiannwr, a lle bo'n briodol Rheolwr Gwaith Coedwigoedd, a byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid gyflawni eu cyfrifoldebau fel y’u nodir yng nghanllaw’r diwydiant, Rheoli Iechyd a Diogelwch mewn Coedwigaeth.

Bydd ein hymgysylltiad gweithredol â'r sector prosesu pren a choedwigoedd hefyd yn parhau. Mae hyn yn cynnwys ein cydweithio parhaus â FISA (Cytundeb Diogelwch y Diwydiant Coedwigoedd), Confor (Cydffederasiwn y Diwydiannau Coedwigoedd) a'n gwaith gyda chwsmeriaid a chontractwyr pren i helpu i’w diogelu hwy a'u bywoliaeth yn ogystal â cheisio datblygu cyfleoedd ehangach i ymgysylltu â'r gymuned.

Drwy gydol y cynllun byddwn yn ceisio gwella diogelwch a pherfformiad amgylcheddol gweithgareddau gwerthu pren ar YGLlC.

Byddwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i reoli coedwigoedd mewn modd sy'n amgylcheddol gyfrifol, sy'n fuddiol yn gymdeithasol ac sy'n hyfyw yn economaidd drwy gyflwyno'r hyn a elwir yn hanesyddol yn ddull sylfaen driphlyg wrth ddyfarnu contractau gwerthu pren. Cyflawnir hyn o dan deitl allweddol Pobl, Planed a Ffyniant.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cynnig cyflenwad pren cyson a chynaliadwy i'r farchnad sy'n ategu rheolaeth gynaliadwy ar YGLlC ac fel dyletswydd gyffredinol i goedwigo, cynhyrchu a chyflenwi pren.  Byddwn yn cynnig 735,000m3 i 835,000m3 o bren i’r farchnad bob blwyddyn. Bydd maint y pren a gynigir ar werth yn cael ei nodi ym mis Hydref y flwyddyn flaenorol.

Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd ehangach o bren lle nodir y’i 'Gwnaed yng Nghymru' yn y sector datblygu tai, ac yn annog mwy o fynediad at bren ar gyfer marchnadoedd arbenigol, cymunedau a mentrau arloesol.

Byddwn yn parhau i werthu o leiaf 70% o'n pren ar y farchnad agored ac yn archwilio rôl modelau gwerthu amgen i ddatblygu ymhellach sut mae ein pren yn cefnogi datblygu menter a rheoli'r adnoddau naturiol yn ein gofal yn gynaliadwy.

Mae'r cyfleoedd presennol a nodwyd ar YGLlC yn canolbwyntio ar annog buddsoddi mewn offer cynaeafu pren i reoli gwaith ar dir serth, gwaith teneuo a gwaith ar ddatblygiadau ffermydd gwynt ar yr ystad. Yn y meysydd hyn, byddwn yn adolygu dull o ddatblygu contractau hirdymor neu dymor canolig, er mwyn hwyluso gofynion buddsoddi o'r fath – yn enwedig lle mae cadwyn gyflenwi yn wannach.  Efallai y byddwn hefyd yn archwilio modelau eraill.

Gall dulliau gwerthu amgen o'r fath gyfrif am hyd at 30% o gynllun gwerthu pren unrhyw flwyddyn benodol.

Bydd hwn yn gynllun trosiannol a fydd yn arwain at newid ar gyfer y dyfodol. Y tu hwnt i 2026, mae'r rhagolwg cynhyrchu pum mlynedd yn lleihau o ran faint sydd ar gael. Bydd maint y pren a gyflenwir i'r farchnad yn y cyfnod pum mlynedd presennol hwn yn helpu i lyfnhau darpariaeth pren yn y dyfodol ac yn cynnig sicrwydd cyflenwad tymor hwy i'r diwydiant.

Bydd ein digwyddiad cyswllt cwsmeriaid blynyddol yn parhau a bydd yn rhoi manylion am y flwyddyn ariannol sydd i ddod a'r rhaglen gwerthu pren fesul rhanbarth, maint a math o werthiant. Darparwn hefyd ffigurau perfformiad o ran gweithgareddau gwerthu pren a fydd yn cynnwys meintiau gwerthiant, meintiau cynhyrchu a thargedau ailblannu a gyflawnwyd. Byddwn yn darparu ffigurau diwedd blwyddyn ar gyfer gwerthu pren ar ochr y ffordd a choed sy’n sefyll, gan ystyried unrhyw effaith y bydd grymoedd y farchnad a chapasiti adnoddau yn ei chael ar feintiau pob math ac i sicrhau gwerth am arian.

Cyflwyniad

Mae adnoddau naturiol Cymru yn helaeth ac amrywiol. O'n hucheldiroedd i'n coetiroedd, ein harfordiroedd i'n mynyddoedd, mae ein tirweddau yn sail i bob agwedd ar ein bywyd modern. Darparant y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnom i fyw, a chefnogant ein hiechyd a'n lles, ein cyflenwadau bwyd a dŵr a hefyd swyddi i filoedd o bobl yn y sectorau ffermio, coedwigaeth a hamdden. 

Diben craidd CNC yw Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chymhwyso'r egwyddorion fel y'u nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein polisïau a'n harferion coedwigaeth fel y gallwn wireddu potensial llawn ein coetiroedd yn adnoddau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn falch bod Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn rhan o'r coedwigoedd gwladol cynharaf sydd wedi'u hardystio'n barhaus yn y byd. Pan gafodd ei hardystio gyntaf yn 2001, cafodd anrhydedd "Rhodd i'r Ddaear" gan WWF (y Gronfa Natur Fyd-eang).

Mae'r cynllun gwerthu a marchnata pren hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2026 ac mae'n disodli Cynllun Marchnata Pren 2017-2022.

Canolbwyntia ar gyfnod trosiannol a fydd yn gosod y cyflymder a'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, gan ystyried unrhyw effeithiau posibl ar sefyllfaoedd a chyfleoedd masnachu yn y dyfodol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a pharhau’n hyblyg i’r sefyllfaoedd a’r cyfleoedd hyn.

Ystyria hefyd ragolwg cynhyrchu YGLlC (gweler y ffigurau yn Atodiad A) y disgwylir iddi ostwng o 2027, ac wrth i CNC weithredu uchelgeisiau deddfwriaeth newydd a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Rydym yn gweithredu'r cynllun newydd hwn er mwyn amlinellu newid yn ein dull o werthu a marchnata pren ac amlinellu sut mae gweithgareddau cyfredol wedi esblygu y tu hwnt i'r ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun blaenorol. Mae hyn yn cynnwys dod â'n contractau hirdymor presennol a chontractau ‘gwerthu sefydlog a mwy’ i ben. Mae hefyd yn cynnwys y newid o ran ymrwymiad rhwng y cynnig gwerthu sefydlog a'r cynnig gwerthu ymyl y ffordd sydd wedi digwydd dros oes y cynllun blaenorol.

Rydym yn cydnabod bod dull marchnata a gwerthu pren blaenorol yr holl bren a gynigir ar lwyfan marchnad agored yn ddull llafurus sy’n llyncu cryn amser ac adnoddau i CNC a'n cwsmeriaid. Mae hefyd yn atal unrhyw gyfle posibl i gyflawni uchelgeisiau ehangach ac i'r diwydiant geisio sicrwydd o ran maint cyflenwad i hwyluso buddsoddiad. Ceisia'r cynllun hwn fynd i'r afael â hyn.

Mae’n egluro ein dull o werthu a marchnata cronfa bren YGLlC, sy'n cynrychioli 38% o adnodd coedwigoedd Cymru ac ar hyn o bryd 60% o'r pren a gynaeafir.

Fel eraill, bu'n rhaid i ni ymateb i'r her o weithio a darparu ein gwasanaethau allweddol yn ystod pandemig byd-eang. Drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae'r angen am goedwigaeth wedi parhau ac, mewn sawl ffordd, wedi cael ei ddwysáu gyda'r sector yn parhau i chwarae rhan hollbwysig i gyflenwi deunyddiau sy'n hanfodol i'n hymateb i’r coronafeirws.

Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae yn adferiad economaidd gwyrdd Cymru o Covid-19 a chredwn fod datblygu cynaliadwy a chefnogi economi gylchol yn allweddol i adferiad Cymru a’i ffyniant yn y dyfodol.

Mae gadael yr UE yn debygol o gyflwyno heriau a chyfleoedd i'r sector masnachol ehangach yng Nghymru ac, adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, nid yw'n glir o hyd sut y bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu. Ochr yn ochr ag effeithio ar ein gwaith ein hunain, rydym yn cydnabod y gallai newidiadau posibl effeithio ar sut mae eraill yn gweithredu. Credwn mai'r ymateb gorau i ymadael â'r UE yw parhau â'n busnes craidd a pheidio â rhwystro datblygiadau neu bartneriaethau newydd. Cred CNC fod hon yn neges gadarnhaol i Gymru a'i busnesau, a llawer ohonynt mewn rhai diwydiannau yn dibynnu'n drwm ar y gadwyn gyflenwi leol. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a byddwn yn parhau i gymryd arweiniad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater.

Ein gweledigaeth a'n gwerthoedd

Mae ein gweledigaeth a'n gwerthoedd wrth wraidd ein sefydliad ni a’r ffordd y byddwn yn cyflawni ein hamcanion. Amlinellant yr hyn sy'n bwysig i ni a'r safonau yr ydym yn eu dilyn.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol.

Dyma ein gwerthoedd fel #TîmCyfoeth:

  • Rydym yn angerddol am amgylchedd naturiol Cymru
  • Rydym yn gofalu am ein gilydd a'r bobl sy’n gweithio gyda ni
  • Rydym yn gweithredu ag unplygrwydd
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn awr ac ar gyfer y dyfodol
  • Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru

Ein hamcanion marchnata

Wrth gyflawni'r cynllun hwn, byddwn yn canolbwyntio ar yr amcanion marchnata canlynol:

  • Sicrhau Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol (SMNR) sy'n cefnogi pobl Cymru (drwy'r amcanion Llesiant) 
  • Mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r argyfyngau hinsawdd a natur
  • Sicrhau'r gwerth gorau o werthu pren drwy ei gynnig ar werth mewn ffordd deg, agored a thryloyw
  • Sicrhau bod pob cwsmer sy'n masnachu ar YGLlC yn dangos cymhwysedd a chyfraniad sicr at amgylchedd gwaith diogel, safonau amgylcheddol da, cydymffurfiaeth a llywodraethu
  • Cynnig pren i'r farchnad mewn ffyrdd sy'n caniatáu i'r nifer fwyaf ymarferol o gwsmeriaid gystadlu amdano ac sy'n cydnabod, lle bo modd, anghenion busnes ein cwsmeriaid
  • Cynnig pren mewn ffyrdd sy'n cefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan, ac sy’n canolbwyntio ar feysydd lle mae'r gadwyn gyflenwi'n wannach
  • Gweithio gydag eraill i hyrwyddo prosesu a defnyddio pren mewn ffyrdd sy'n cyfrannu at uchelgais Cymru i leihau ei hôl troed carbon
  • Defnyddio dull Pobl, Planed, Ffyniant i wella gwerthoedd pren wrth ystyried manteision cymdeithasol ac amgylcheddol
  • Gwerthu pren mewn ffordd sy'n hyblyg ac yn ymatebol i'r farchnad ac amodau economaidd drwy gydol y cynllun hwn
  • Bod yn dryloyw o ran sut mae YGLlC yn perfformio mewn perthynas â chynaeafu a marchnata'r gronfa bren a'r manteision sy'n cael eu cyflawni

Marchnata pren

Mae'r cynllun gwerthu a marchnata pren yn cael ei ddylanwadu gan bolisi cyffredinol Llywodraeth Cymru fel yr amlygir yn strategaeth Coetiroedd i Gymru ac fe'i cefnogir drwy gyflawni cynlluniau adnoddau coedwig a chynlluniau corfforaethol a busnes CNC. Gall hefyd, yn y dyfodol, gael ei ddylanwadu gan gynlluniau llesiant lleol fel y'u pennir gan Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn rhanbarthau fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Cyflawnir yr amcanion marchnata drwy gynnal a chyflwyno'r dulliau canlynol drwy gydol y cynllun hwn.

  • Un o’r prif weithgareddau gwerthu fydd tendrau marchnad agored gan ddefnyddio'r platfform gwerthu electronig, sy'n agored i gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd. Cynigir o leiaf 70% o'r rhaglen pum mlynedd i'r farchnad agored drwy'r platfform hwn.
  • Gan weithio gyda rhanddeiliaid a chwsmeriaid, byddwn yn ymgorffori’n agored a theg ddull Pobl, Planed a Ffyniant o ymdrin â gweithgareddau gwerthu pren ar YGLlC. Bydd y dull hwn yn dwyn ynghyd y gymeradwyaeth cyn-gymhwyso gwerthu pren a chymeradwyaeth yr Holiadur Cyn-gymhwyso iechyd a diogelwch i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ymgorffori safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yn eu gweithgareddau busnes. Anelwn at ddatblygu'r dull hwn yn 2021, cyflwyno cynllun peilot a cheisio ei weithredu ar gyfer pob trafodyn gwerthu pren erbyn 2023/2024.
  • Byddwn yn ystyried manteision modelau eraill. Ffocws y cyfleoedd presennol a nodwyd ar YGLlC yw annog buddsoddiad mewn offer cynaeafu pren i reoli gwaith ar dir serth, gwaith teneuo a gwaith ar ddatblygiadau ffermydd gwynt ar yr ystad. Yn y meysydd hyn, byddwn yn adolygu dull o ddatblygu contractau hirdymor neu dymor canolig, er mwyn hwyluso gofynion buddsoddi o'r fath – yn enwedig lle mae cadwyn gyflenwi yn wannach.
  • Byddwn yn datblygu ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru, Woodknowledge Wales, Cymdeithasau Tai a phartneriaid yn y diwydiant i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu cadwyn gyflenwi a chadwyn o gystodaeth o bren Cymru ar gyfer cartrefi Cymru.
  • Byddwn yn cyflwyno ffigurau perfformiad blynyddol y rhaglen gwerthu a chynaeafu pren mewn digwyddiadau cyswllt masnach, gan gynnwys perfformiad yn ystod y flwyddyn a pherfformiad cronnol dros y cyfnod.
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg newydd a chyfleoedd i wella cywirdeb data mesur pren ar gyfer pwyntiau gwerthu.

Gweithredu

Lefelau cynhyrchu pren

Nodir amseru a math bras y cynaeafu y bwriadwn ei wneud mewn Cynlluniau Adnoddau Coedwig (CAC).  Datblygir y rhain drwy ymgynghori â rhanddeiliaid ac maent yn disgrifio'r weledigaeth a'r cynlluniau rheoli coetiroedd dros 50 mlynedd, gyda chymeradwyaeth reoleiddiol am 10 mlynedd. 

Mae adio’r holl gynaeafu arfaethedig ym mhob Cynllun Adnoddau Coedwig yn rhoi’r "rhagolwg cynhyrchu" inni a hynny ar sail pum mlynedd. Y rhagolwg cynhyrchu yw mwyafswm y pren a fyddai'n cael ei gynhyrchu pe byddem yn gwneud yr holl gwympo ym mhob CAC i'r maint a ragwelir.

Mae'r rhagolwg cynhyrchu ar gyfer YGLlC yn dangos gostyngiad cyson ym maint y pren sydd ar gael dros yr 20 mlynedd nesaf (Atodiad A). 

Er mwyn llyfnhau'r cyflenwad yn y tymor hir ac adlewyrchu cywirdeb rhagfynegiadau maint, rydym yn cynllunio i ddod â mwyafswm i'r farchnad sydd tua 15% yn is na'r rhagolwg cynhyrchu.

Yn ystod cyfnod y cynllun pum mlynedd hwn, mae'r rhagolwg cynhyrchu ar gyfer cyfartaledd o 982,473m3 o bren y flwyddyn, sy'n golygu dod â mwyafswm o 835,000m3 i’r farchnad bob blwyddyn.

Bydd union faint y pren y bwriadwn ddod ag ef i'r farchnad bob blwyddyn yn seiliedig ar gyfuniad o newidynnau:

  • ein gallu ein hunain, a gallu ein cwsmeriaid i gyflawni i'r safonau uchaf o ran iechyd a diogelwch a’r amgylchedd
  • gofynion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
  • y strategaeth hirdymor i hwyluso'r cyflenwad
  • amodau'r farchnad

Byddwn yn cyfleu cynllun gwerthu’r flwyddyn ariannol nesaf ym mis Hydref y flwyddyn flaenorol.

Yn ystod y cynllun pum mlynedd hwn, bwriadwn gyflenwi rhwng 735,000m3 ac 835,000m3 y flwyddyn i’r farchnad. Brig yr ystod yw’r rhagolwg cynhyrchu wedi’i gostwng 15% fel y nodir uchod. Pennir gwaelod yr ystod gan yr hyblygrwydd y mae angen i ni ei reoli o fewn y newidynnau uchod wrth ddarparu cyflenwad rhagweladwy a gweddol sefydlog i ddiwydiant pren Cymru o hyd. Yn benodol, mae 735,000m3 y flwyddyn yn cynrychioli'r hyn y byddem yn mynd ag ef i'r farchnad pe byddai ein rhaglen deneuo’n cynhyrchu cymaint â phosibl a phe byddem yn cwtogi rhywfaint ar gyfradd y llwyrgwympo.

Rhagwelwn fod yn agos at ben uchaf yr ystod am flynyddoedd cynnar cyfnod y cynllun o leiaf. O ran ein hymrwymiadau yn y Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren hwn, mae maint arfaethedig pob blwyddyn yn annibynnol ar y nesaf. Ni fyddwn yn cario rhywfaint drosodd o un flwyddyn ac nid ydym wedi gosod targed maint pum mlynedd. Yn 2021/22 bwriadwn ddod ag 830,000m3 i’r farchnad.

Gall maint y pren rydym yn ei gynnig i'r farchnad amrywio o fewn y flwyddyn gan ddibynnu ar berfformiad y diwydiant. Rydym yn monitro'r sefyllfa gwerthiannau pren a werthwyd ymlaen mewn contract, a lle mae niferoedd o'r fath yn fwy na blwyddyn o gyflenwad, efallai y byddwn yn ystyried lleihau maint y cynnig i'r farchnad hyd nes y bydd perfformiad y diwydiant yn gwella. Nod y dull hwn fydd osgoi amrywiadau mawr yng ngwerthoedd y farchnad sy'n effeithio ar y sector prosesu pren a sector ehangach tyfwyr coedwigoedd. Yn ogystal, bydd y dull hwn o fudd i argaeledd pren tymor canolig i hirdymor.

Rheoli newid

Heb effeithiau unrhyw ddigwyddiadau trychinebus neu amodau marchnad anffafriol, byddwn yn anelu at roi 12 mis o rybudd i gwsmeriaid o newid rhaglen yn ystod cyfnod y cynllun hwn. Er enghraifft, os oes angen symud y tu allan i'r ystod o feintiau blynyddol a nodir uchod.

Lle rydym yn ystyried newidiadau i raglenni gwerthu pren neu’n ystyried mabwysiadu dulliau newydd fel dull Pobl, Planed a Ffyniant, bydd CNC yn ceisio ymgysylltu â'n grwpiau rhanddeiliaid allweddol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod unrhyw effeithiau a risgiau posibl yn cael eu hystyried yn llawn. Byddem wedyn yn rhagweld cynlluniau treialu a gwerthuso eu llwyddiant cyn ystyried cyflwyno unrhyw newidiadau i fodel gwerthu neu weithgarwch busnes.

Dull gwerthu pren cyffredinol

CNC sy'n rheoli YGLlC ar ran Llywodraeth Cymru ac felly mae wedi'i rwymo gan ddeddfwriaeth Cymru a'r DU gan gynnwys Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

Bydd gwerthiant pren ar YGLlC yn cael ei gynnig mewn ffordd deg, agored a thryloyw sy'n bodloni gofynion gwerth am arian. 

Dyfernir contractau gwerthu pren ar ôl craffu ac ystyried prisiad cyn gwerthu, a hynny gan ddilyn polisi prisio a gosod prisiau cadw cytunedig. Mae'r tîm gwerthu a marchnata yn ystyried gwybodaeth am y farchnad yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys prisiau pren a fewnforiwyd, gwerthoedd cyfredol y farchnad agored, ac amrywiadau lleol yn seiliedig ar leoliad, cyfraddau cludo, rhywogaethau coed, argaeledd contractwyr a gofynion uniongyrchol y farchnad.

Nid yw'r cynnig pren i'r farchnad yn gwarantu y bydd yr holl bren yn cael ei werthu. Fodd bynnag, os gellir cael gwerth presennol y farchnad, bydd argymhelliad yn cael ei wneud yn amodol ar graffu ychwanegol fesul achos.

Math o werthiant

Bydd ein gweithrediadau cynaeafu coed a'n math o werthiant pren bob amser yn cael eu hystyried o fewn cyd-destun ein diben ehangach o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ein dyletswyddau cyffredinol o ran coedwigo a chyflenwi pren, ac arddangos gwerth am arian.

Er mwyn bod yn gymwys i gynnig a chael dyfarniad o werthiannau pren a gynigir ar ein platfform tendro marchnad agored, bydd pob cwsmer wedi cael cyn-gymhwyster gwerthu pren cymeradwy. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt gwblhau holiadur cyn-gymhwyso iechyd a diogelwch i roi sicrwydd eu bod yn weithredwyr cymwys.

Mae'r dull a'r gofyniad hwn ar waith ers 2019. Bydd unrhyw newidiadau i'r gofyniad hwn yn cael eu cyfleu i'r sector prosesu pren a choedwigoedd cyn gynted â phosibl.

Ar hyn o bryd, mae dau ddull o werthu coed ar waith, sef naill ai gwerthu coed sy’n sefyll neu werthu ar ochr y ffordd.

  • Wrth werthu coed sy’n sefyll, mae pren yn cael ei werthu fel amcangyfrif o bwysau, a'r cwsmer sy’n ysgwyddo'r gwaith o drosglwyddo risg a chynaeafu. Gall hyn hefyd fod o fudd i'r masnachwr pren, a all fod yn fwy ymatebol i'r farchnad uniongyrchol.
  • Fel gwerthiant ar ochr y ffordd, mae CNC yn cynaeafu pren drwy ddarparwr contract gwasanaeth neu ei fflyd ei hun, a bydd yn cynnig amcangyfrif o bwysau cynhyrchion penodol, i fanyleb a bennwyd ymlaen llaw, sydd ar gael o safle contract penodol.

Gwerthir y rhan fwyaf o'r pren yn ôl pwysau wrth i bren gael ei godi gan y cwsmer, er bod CNC yn cadw'r hawl i gynnig dulliau gwerthu amgen yn dibynnu ar raddfa a gwerth cynnyrch penodol. Bydd unrhyw amrywiant ar ddull gwerthu yn cael ei nodi'n glir mewn manylion gwerthu. Mae’n debygol mai un dull gwerthu amgen yw drwy faint mewn mesuriadau metrau ciwbig neu droedfeddi Hoppus ar gyfer gwerthiannau pren caled gwerth uchel pan gânt eu cynnig.

Bydd y rhan fwyaf o'r pren yn cael ei werthu drwy werthiannau coed sy’n sefyll. Bydd gwerthiannau ar ochr y ffordd yn parhau lle nad yw'r sector preifat yn gallu cyflawni gofynion y gweithgareddau gweithredu pren sydd eu hangen i reoli YGLlC ac i gadw achrediad UKWAS.

Cynhelir gwerthiannau ar ochr y ffordd yn y rhanbarthau hynny lle mae angen adenillion pren negyddol o weithgaredd unigol er budd a gwerth hirdymor yr ystad. Bydd gwerthiannau pren negyddol o'r fath yn cael eu gwneud fel contract gwasanaeth sy'n cael pren ar ochr y ffordd i gynhyrchu incwm i wrthbwyso, yn rhannol, gost y gwasanaeth a ddarperir. Mae'r dull hwn yn caniatáu gwaith mewn ffordd gynaliadwy ac yn sicrhau cydymffurfio â'r trefniadau llywodraethu sy'n ofynnol gan gorff cyhoeddus.

Efallai y byddwn yn ystyried dulliau amgen drwy gydol y cynllun pum mlynedd, gan ymgysylltu â'r fasnach wrth i'r rhain gael eu hystyried.

Bydd dulliau gwerthu eraill yn gofyn am ddulliau cymhwyso ac asesu sydd yr un mor gadarn.

Rydym yn ystyried y manteision y gall mynediad at gontractau cyflenwi pren hirdymor ar YGLlC eu dwyn i’r sector prosesu pren ehangach, a'r cyfraniad y gall ei wneud at ddyfodol cynaliadwy a ffyniannus i'r diwydiant. Bydd angen i unrhyw gyfleoedd felly hefyd ddangos yr ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o dan y dull Pobl, Planed a Ffyniant. Bydd gofyn i ni ddangos y gwerth gorau am arian, a gyflenwir ar faes cystadlu tryloyw a theg.

Byddwn yn ystyried mathau eraill o werthiannau na fyddant yn fwy na 30% o gynllun gwerthu pren unrhyw flwyddyn benodol.

Digwyddiadau gwerthu

Drwy werthu coed o YGLlC, gallwn gynhyrchu elw economaidd y gallwn ei ailfuddsoddi i gefnogi ein gwaith ar yr ystad ac mae’n helpu i dalu am y buddion amgylcheddol, y cyfleusterau a’r defnydd cyhoeddus o'n coetir.

Mae gwybodaeth i gwsmeriaid am sut i brynu pren gan CNC i'w gweld ar y wefan.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi datganiad blynyddol o'r cynllun gwerthu pren, a dyddiadau'r digwyddiadau gwerthu arfaethedig, ym mis Hydref cyn y flwyddyn werthu 12 mis nesaf (1 Ebrill – 31 Mawrth). Bydd hyn yn cyd-fynd â Chynlluniau Stiwardiaeth Tir a Gwasanaeth Masnachol CNC. Cyflwynwn yr wybodaeth hon yn ffurfiol yn ein Cyfarfod Cyswllt Cwsmeriaid blynyddol a gynhelir fel arfer ym mis Ionawr cyn dechrau'r flwyddyn werthu newydd o 1 Ebrill.

Bydd gwerthiannau pren ar gyfer pob un o'r digwyddiadau gwerthu a drefnwyd yn parhau i gael eu cynnig drwy'r platfform gwerthu pren electronig a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2017. Cyflwynir y gwasanaeth hwn mewn cydweithrediad â Forestry and Land Scotland a Forestry England.

Mae'r cynnig e-werthiant hefyd yn rhoi mwy o gyfle a mwy o hyblygrwydd o ran sut rydym yn gwerthu ac yn cynnig pren i'r farchnad bob blwyddyn.

Byddwn yn cynnig pedwar pwynt gwerthu o leiaf bob blwyddyn drwy'r dull marchnad agored. Efallai y byddwn yn cynyddu'r cynnig hwnnw drwy werthiannau dros dro lle mae'r cyfleoedd neu'r galw'n codi er budd YGLlC, a lle gallwn gynnal cydymffurfiaeth gweithgareddau gwerthu pren.

Bydd unrhyw ddull gweithredu neu gynnig i’r farchnad yn y dyfodol a all fod o fudd i gyfleoedd arloesol neu arbenigol yn y farchnad a chontractau hirdymor yn uchafswm o 30% o’n holl gynnig, felly bydd y brif raglen werthu o leiaf 70% o'n cynnig maint bob blwyddyn.

Ardystio, arferion da a safonau iechyd a diogelwch

Mae ein dull o reoli YGLlC yn destun archwiliad allanol bob blwyddyn i safonau rhyngwladol ardystio coedwigoedd, fel y’u nodir yn Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS). 

Dengys ein hardystiad yn erbyn UKWAS ein bod yn rheoli YGLlC yn gynaliadwy gan gyrraedd safonau rhyngwladol y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) ac y gallwn ardystio ein cynnyrch coedwig i FSC® a PEFC. 

Bydd CNC yn bodloni ei ddyletswyddau fel tirfeddiannwr, ac fel Rheolwr Gwaith Coedwigoedd lle bo'n briodol, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid gyflawni eu cyfrifoldebau fel y’u nodir yng nghanllaw’r diwydiant ar Reoli Iechyd a Diogelwch mewn Coedwigaeth.

CNC yw un o lofnodwyr Cytundeb Diogelwch y Diwydiant Coedwigaeth (FISA) ac rydym yn parhau’n ymroddedig i chwarae ein rhan wrth helpu i wella safonau diogelwch mewn gweithrediadau coedwigoedd. Byddwn hefyd yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi mentrau FISA i wella perfformiad diogelwch a byddwn yn disgwyl i gwsmeriaid a chontractwyr gymryd agwedd gadarnhaol tuag at gefnogi gwelliannau mewn diwylliant a pherfformiad diogelwch.

Bydd cymeradwyaeth yr holiadur Cyn-gymhwyso Gwerthiannau Pren a’r Holiadur Iechyd a Diogelwch yn parhau ymhlith y rhagofynion i gwsmeriaid wrth ystyried unrhyw gynigion am weithgareddau gwerthu coed ar YGLlC.

Ni fydd cyfaddawd ar berfformiad diogelwch na safonau coedwrol, amgylcheddol neu iechyd a diogelwch cadarn ar unrhyw fathau o gontract, gan gynnwys cytundebau menter gymdeithasol neu gymunedol.

Arloesi a chymorth cymunedol

Bydd CNC yn cyfrannu at ddatblygiad lleol a chymunedol cynaliadwy drwy arddangos defnydd amlbwrpas o'n coetir. Byddwn yn rheoli'r gweithgareddau masnachol hyn yng nghyd-destun Amcanion Llesiant CNC ac o fewn y cylch gwaith i gyflawni yn erbyn egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol.

Byddwn yn datblygu ffyrdd o ddefnyddio ein pren i gefnogi gweithgareddau cymunedol a gweithgareddau mentrau cymdeithasol eraill yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi ar gyfer gweithgarwch buddiol, fel pren yn y maes adeiladu. Ar gyfer hyn a'r modelau cyflenwi amgen a drafodwyd yn gynharach, byddwn yn defnyddio hyd at 30% o’r pren a gynhyrchwn ar gyfer cyfleoedd marchnad arloesol felly a marchnadoedd newydd sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, a hynny i gyd wrth gynnal yr ymrwymiad i gyflenwi pren i'r sector prosesu pren a choedwigoedd mewn modd sy’n cydymffurfio.

Gweithiwn ochr yn ochr â'n partneriaid yn y sector prosesu pren a choedwigoedd a Llywodraeth Cymru i nodi cyfleoedd a risgiau i greu darpariaeth alluogi i weithio gydag eraill.

Cymunedau a mentrau cymdeithasol

Ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2013, mae'r holl gynlluniau gwerthu a marchnata pren a ddatblygwyd gan CNC wedi cynnwys ymrwymiad i ddarparu mynediad at goetir a phren er budd mentrau cymunedol a mentrau cymdeithasol eraill. 

Yn ystod cyfnod y cynllun hwn, ein nod yw sefydlu mecanwaith sy'n ein galluogi i weithio gyda chymunedau a'r trydydd sector i ddarparu mynediad at bren ar YGLlC. 

Bydd y gwaith hwn yn cael ei gryfhau drwy gydweithio, bod yn agored ac ymgynghori â'n partneriaid. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod allbynnau allweddol yn cyd-fynd â pholisi ac uchelgais ehangach y llywodraeth.

Byddai angen cyflawni ymagwedd felly gyda diwydrwydd dyladwy a chraffu i ddangos gwerth ychwanegol y tu hwnt i werthoedd ariannol. 

Ein cyfraniad at economi gylchol

Mae gan bren, fel deunydd naturiol ac adnewyddadwy, fanteision enfawr o ran cynaliadwyedd, ac mae angen meddwl mwyfwy y tu hwnt i'w ddefnydd cyntaf. Yn ogystal â gofalu am y ffordd y caiff ein pren ei dyfu a'i reoli, mae angen i ni ystyried camau nesaf ei daith.

Os defnyddir coedwigoedd a reolir yn gywir, gall pren gyfrannu’n sylweddol at economi gylchol Cymru a chreu diwydiant adeiladu mwy cynaliadwy drwy gloi carbon mewn pren a ddefnyddir mewn datblygiadau tai.

Un o brif uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a'n cwsmeriaid yw gweld mwy o'r pren a dyfir ar YGLlC yn cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu tai yng Nghymru.

Gellir galluogi a chefnogi hyn drwy ddarparu cadwyn o gystodaeth o’r felin lifio i'r defnyddiwr terfynol a fydd yn darparu data i feincnodi faint o bren sy'n dod i farchnad dai Cymru o’r naill flwyddyn i’r llall.

Mae rhywfaint o'r gadwyn gyflenwi bresennol ar gyfer pren Cymru yn cyrraedd marchnadoedd y tu hwnt i lannau Cymru. Bydd sicrhau bod mwy o bren â’r nod 'Gwnaed yng Nghymru' yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau neu gynhyrchion adeiladu pren yng Nghymru yn gwella economi gylchol y genedl a bydd, ymhen amser, yn cynnig y potensial i gynyddu gwerth pren. 

Byddwn yn cydweithio â'r sector prosesu pren a choedwigoedd a hefyd Llywodraeth Cymru i nodi unrhyw gyfleoedd i gyfrannu mwy at sector tai Cymru ac, yn y pen draw, cefnogi economi gylchol gynyddol i'r genedl.

Pobl, Planed a Ffyniant

Er mwyn bod yn gynaliadwy, bydd penderfyniadau sy'n effeithio ar goetiroedd yn fesuradwy gydag ystyriaethau economaidd ac amgylcheddol, ac yn ystyried anghenion y presennol a'r dyfodol.

Pan ystyrir y tair colofn yn effeithiol, mae penderfyniadau’n fwy tebygol o sicrhau cynaliadwyedd.

Yn rhan o uchelgeisiau ehangach CNC i ymgorffori trefniadau llywodraethu da, i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016), byddwn yn anelu at gymhwyso dull mesuradwy Planed, Pobl a Ffyniant (PPFf) i'r ffordd rydym yn gwerthu pren. 

Wrth wneud hynny, ein nod yw rhoi sicrwydd i'n partneriaid, ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid ehangach y byddwn yn dangos safon uchel o lywodraethu corfforaethol ac ymrwymiad i reoli coedwigoedd mewn modd sy'n briodol yn amgylcheddol, sy'n fuddiol yn gymdeithasol ac sy'n hyfyw yn economaidd.

Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn arwydd o ddull gweithredu newydd i lawer yn sector coedwigaeth Cymru. Fel y cyfryw, byddwn yn ceisio darparu cynllun peilot ar y cyd â chynrychiolwyr y diwydiant i wella cyfleoedd marchnata a hyrwyddo pren Cymru.

Bydd CNC:

  • Yn nodi mecanwaith mesuradwy i wella'r modd y cyflawnir PPFf ymhellach drwy’r modd y byddwn yn gwerthu ein pren a'r ffordd y defnyddir ein pren.
  • Yn gweithio gyda Chymdeithasau Tai a Woodknowledge Wales i nodi diffygion yn y gadwyn gyflenwi a chyfleoedd i hyrwyddo defnyddio mwy o bren o Gymru yng nghartrefi Cymru.
  • Yn archwilio’r cyfle i greu cadwyn o gystodaeth ar gyfer pren Cymru y tu hwnt i glwydi'r goedwig.
  • Yn datblygu dull porth i gwsmeriaid sy'n dangos eu cyfraniadau at nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu i brynu pren.

Rheoli perfformiad

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau blynyddol yn erbyn perfformiad o ran cyflawni'r gweithgareddau gwerthu a chynaeafu pren ar YGLlC fel ffigurau gwerthu ôl-weithredol drwy ddarparu:

  • Ffigurau blynyddol Forest Research ar gyfer mynegai gwerthiannau coed sy’n sefyll Prydain Fawr.
  • Perfformiad ffigurau diwedd blwyddyn ar gyfer gwerthiannau pren ar ochr y ffordd a choed sy’n sefyll.
  • Safonau diogelwch ac amgylcheddol a pherfformiad cynaeafu pren ar YGLlC.
  • Cyflawni targedau ar gyfer ailblannu.


Mae perfformiad allweddol gwerthiannau pren yn cynnwys:

  • Digwyddiadau gwerthu cyhoeddedig.
  • Rhaglen flynyddol a gyflenwir mewn incwm a maint.
  • Cyhoeddi'r cynllun gwerthu blynyddol sydd ar ddod yn y mis Hydref cyn blwyddyn y cynllun gwerthu.
  • Cyhoeddi'r cyfrifon ariannol ar gyfer coedwigaeth a reolir ar YGLlC drwy adroddiad blynyddol a chyfrifon blynyddol CNC.

Safonau gofal cwsmeriaid

Mae CNC wedi ymrwymo i ddyfnhau ein perthynas â'n cwsmeriaid a'n partneriaid i gefnogi eu hanghenion sy'n esblygu, yn ogystal ag anghenion y cwsmeriaid y maent yn eu gwasanaethu.

Rydym yn gweithio i'n safon gwasanaeth a gofal cwsmeriaid sy'n berthnasol i'n holl feysydd gwaith ac sy’n egluro'n glir yr hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Glynu wrth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
  • Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
  • Darparu gwasanaeth proffesiynol ac effeithlon drwy ein canolfan gofal cwsmeriaid.

Cludo pren

Mae cludo pren yn rhan bwysig o'r cylch bywyd coedwigaeth yng Nghymru, ond mae'n aml yn dibynnu ar ddefnyddio ffyrdd heb eu cynllunio ar gyfer traffig trwm.

Bydd CNC yn cefnogi arferion gorau cludo pren a bydd yn anelu at leihau'r effaith amgylcheddol a chymdeithasol drwy:

  • Gefnogi Cod Ymarfer Cludo Pren Crwn ar y Ffyrdd 2020
  • Galluogi Fforwm Cludo Pren Coedwig Tywi i barhau mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr diwydiant y sector coedwigaeth preifat.
  • Gweithredu'r gwaith o fonitro gorlwytho ar YGLlC a rhannu data gyda'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Comisiynydd Traffig Cymru a Rhwydwaith Gwybodaeth Asiantaethau’r Llywodraeth (GAIN).

Ymdrin â digwyddiadau annisgwyl

Mae CNC yn cydnabod yr effaith y gall digwyddiadau annisgwyl fel tanau coedwig, achosion o glefydau a digwyddiadau tywydd eithafol ei chael ar ein cwsmeriaid, ar y sector prosesu pren a choedwigoedd ehangach ac ar weithgareddau twristiaeth a hamdden.

Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd CNC:

  • Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, ein cwsmeriaid a'r diwydiant drwy gyfathrebu rheolaidd drwy swyddogion, cynrychiolwyr ein diwydiant, drwy Confor a – lle bo'n bosibl – â chwsmeriaid yn uniongyrchol. Byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda chynulleidfaoedd drwy ein tîm cyfathrebu, ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gynulleidfaoedd wedi'u targedu.
  • Lle bynnag y bo modd, byddwn yn ceisio lleihau'r effaith ar ein cwsmeriaid drwy ddelio â'r digwyddiadau'n gyflym.
  • Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn penderfynu cyd-drafod gwerthu pren yn uniongyrchol gyda chwsmeriaid sy'n gallu ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau annisgwyl.

Rheoli achosion o glefyd

Mae coed a phlanhigion yn y DU yn agored i amrywiaeth o blâu a chlefydau newydd fel clefyd coed ynn Chalara a chlefyd y llarwydd Phytophthora ramorum. Gall achosion fygwth rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd yn ddifrifol, arwain at golledion economaidd ac effaith ar dwristiaeth a gweithgarwch hamdden.

Bydd iechyd planhigion a rheoli clefydau yn parhau’n ffocws cryf drwy gydol y cynllun hwn.

Maint y coed llarwydd sy’n weddill y nodwyd eu bod ar gael i’w cwympo a'u symud yn y cyfnod pum mlynedd yw 331,340m3, a byddant yn dod i'r farchnad i liniaru neu arafu lledaeniad clefyd Phytophthora ramorum.

Lle bynnag y bo modd, byddwn yn osgoi chwistrellu coesynnau clystyrau llarwydd i gydymffurfio â Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol. Byddwn yn addasu cynlluniau gwerthu uniongyrchol yn ôl yr angen i ddarparu ar gyfer cwympo a gwaredu clystyrau llarwydd heintiedig yn syth o YGLlC.

Byddwn yn parhau i reoli coed sydd wedi'u heintio â chlefyd coed ynn Chalara ar YGLlC a, lle mae cyfleoedd yn codi i farchnata cynnyrch o'r gweithrediadau hyn, byddwn yn gwneud hynny. Mae llawer o’r clystyrau ynn yn fychan ac maent yn debygol o gael eu cynnal fel contract gwasanaeth gyda’r pren a geir yn cael ei werthu ar ochr y ffordd.

Bydd CNC yn parhau i flaenoriaethu cwympo coed yn iechydol yn ôl yr angen a bydd yn cadw'r hawl i addasu rhaglenni i ddarparu ar gyfer gweithrediadau uniongyrchol o'r fath yn ôl yr angen. 

Digwyddiadau tywydd garw

Wrth i wyddonwyr hinsawdd ragweld cyfnodau amlach o dywydd eithafol yn y dyfodol, byddwn yn anelu at leihau'r effeithiau posibl ar ein gwerthiannau pren, ein cwsmeriaid a'n gweithrediadau lle bynnag y bo modd.

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Sicrhau bod ein cynlluniau parhad busnes yn cyfrif am unrhyw effeithiau posibl tywydd eithafol ar ein gweithrediadau gyda'r nod o sicrhau parhad y cyflenwad pren o YGLlC i'r sector prosesu pren.
  • Cadw'r hawl i atal dros dro’r gweithrediadau a’r cyflenwad pren ar YGLlC mewn ymateb i dywydd eithafol er mwyn sicrhau diogelwch ein cydweithwyr, ein contractwyr a'r amgylchedd.
  • Peidio ag amnewid contractau gwerthu pren lle mae tywydd garw wedi cyfyngu ar fynediad.

Atodiad A – Crynodeb rhagolwg cynhyrchu

Ffigur 1. Meintiau llwyrgwympo a theneuo mwyaf o Gynlluniau Adnoddau Coedwig sy'n cwmpasu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Maint cyfartalog blynyddol mewn m3 ar gyfer pob cyfnod o 5 mlynedd, ym mis Mawrth 2021.

Cyfnod o bum mlynedd Cyfaint cwympo Cyfaint teneuo

2022-2026

780,561

201,926

2027-2031

636,682

170,434

2032-2036

710,282

112,703

2037-2041

708,332

112,766

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf