North west Wales mountain scenery, looking over stone wall

Rhagair y cadeirydd

Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno'r diweddariad hwn i strategaeth grantiau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r awydd i wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Mae diweddariad y strategaeth grantiau hon yn cyd-fynd â'r brys cynyddol i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur ac rydym yn cydnabod nad yw gweithredu yn wyneb yr argyfyngau hyn yn ymwneud ag un sector neu sefydliad yn unig.

Mae angen gweithredu ar y cyd, gan ddod â chymunedau, sefydliadau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector ynghyd er mwyn cydweithio. Mae ein strategaeth grantiau newydd wedi’i llunio er mwyn hwyluso hyn.

Defnyddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru a'i gyrff rhagflaenol gyllid grant mewn ffyrdd gwahanol ac at ddibenion gwahanol. Ond fel cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gwn nad ydym wedi cwrdd â dyheadau ein partneriaid, na rheini ein hunain, ar gyfer cyllid grant. Nod y strategaeth hon yw unioni'r cam hwnnw.

Rydym wedi gwrando ar bryderon y staff a rhanddeiliaid a bellach mae gennym strategaeth cyllid grant ar waith ar draws y sefydliad sy’n cael ei chefnogi gan weithdrefnau a phrosesau newydd sy’n cael eu diweddaru.

Mae ein hymrwymiad i ddarparu gwell sicrwydd ac eglurdeb o ran ein blaenoriaethau ariannu yn ganolog i'n strategaeth grantiau. Rydym yn ymrwymedig i symud tuag at ddull ariannu tymor hwy gan ddefnyddio rhaglenni diffiniedig ac i fod yn fwy hyblyg ac ymatebol o ran dosbarthu'r arian.

Byddwn yn nodi datganiad clir o fewn ein cynllun busnes ynglŷn â'n bwriadau ar gyfer rhaglenni cyllid grant yn y flwyddyn honno. Fel rhan o hyn, byddwn yn siarad â chi er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eich gallu chi, ein partneriaid, i gyflawni.

Rydw i'n ymrwymedig i roi'r strategaeth hon ar waith a gyrru gwelliannau ar gyfer ein cwsmeriaid a'n partneriaid. Gobeithiaf y bydd gosod ein cyfarwyddyd clir ar gyfer rhaglenni grantiau sydd wedi’u diffinio’n eglur yn eich helpu i gynllunio'ch gwaith a chanolbwyntio ar y cyfleoedd gorau ar gyfer sicrhau buddsoddiad ac adnoddau ar gyfer adnoddau naturiol Cymru.

Sir David Henshaw

Syr David Henshaw
Cadeirydd

Pam fod angen strategaeth cyllid grant

Rydym am annog sefydliadau cyhoeddus, sefydliadau preifat a'r trydydd sector i gydweithio er mwyn mwyafu buddsoddiad mewn adnoddau naturiol ledled Cymru.

Mae ein pwerau ac adnoddau o ran cyllid grant yn rhoi'r cyfle inni yrru buddsoddiad yn effeithiol i'r cymunedau, sectorau a sefydliadau sy'n gallu cyflawni orau i amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru.

Rydym wedi gwrando ar adborth gan staff a phartneriaid ac wedi symleiddio ein prosesau a gofynion ymgeisio. Rydym wedi cyflwyno’r dull rhaglenni grantiau i gyfleu ein blaenoriaethau’n well a chyfeirio’r cyllid sydd ar gael i ni.

Rydym wedi paratoi polisi a gweithdrefn cyllid grant newydd sy'n nodi pedair egwyddor sydd wrth galon penderfyniadau o ran cyllid grant:

  • Cymesur
  • Cyson, tryloyw a theg
  • Asesu a rheoli risg
  • Diwydrwydd dyladwy yn unol â dogfen Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

Mae'r strategaeth hon yn nodi’r cyfeiriad a’r uchelgais ar gyfer ein cyllid grant, gan ganiatáu i CNC ddatblygu rhaglenni grant ar wahân sydd wedi’u diffinio’n glir ac sy’n alinio ag amcanion strategol allweddol a nodir yn ein cynllun corfforaethol a'r blaenoriaethau a’r cyfleoedd a nodir yn y Datganiadau Ardal.

Ein gweledigaeth ac uchelgais ar gyfer cyllid grant

Rydym yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio.

Rydym yn sefydliad seiliedig ar le sy'n gweithio'n weithredol gyda chymunedau lleol, sectorau, partneriaid, elusennau a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gydweithio'n fwy effeithiol a deall cyfleoedd cydweithio yn well.

Mae ecosystemau sy’n iach ac yn wydn yn tanategu llesiant ein cymunedau. Gweithredu ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yw'r allwedd i sefydlu gwydnwch ecosystemau.

Ein gweledigaeth ar gyfer cyllid grant yw galluogi a hwyluso camau gweithredu gan eraill. Rydym yn cydnabod y gallwn, drwy gydweithio â’n partneriaid, ehangu ein dylanwad ymhellach, cynyddu arbenigedd, a chreu gwell dealltwriaeth o'r materion a'r bobl sy'n gweithio mewn lle. Mae eraill yn dod â chryfderau ychwanegol ac yn aml maent yn gallu gwneud cysylltiadau a meithrin ffyrdd o gydweithio yn well.

Fel corff cyllido yng Nghymru, rydym am ddefnyddio ein cyllid grant i brofi dulliau arloesol a chyfleoedd. Rydym yn cydnabod y bydd hyn, dros amser, yn cyfrannu at greu marchnadoedd newydd.

Mae Datganiadau Ardal yn ein hysgogi i ymgysylltu a chydweithio â sefydliadau cyhoeddus, sefydliadau preifat a sefydliadau yn y trydydd sector. Erbyn mis Mawrth 2020, byddwn yn cyhoeddi saith Datganiad Ardal ledled Cymru sy’n nodi'r blaenoriaethau a chyfleoedd ar gyfer gweithredu.

Ein huchelgais yw defnyddio portffolio o raglenni grantiau clir ddiffiniedig i ariannu camau gweithredu â blaenoriaeth sy'n deillio o’r Datganiadau Ardal yn ogystal â'r rheini a nodir mewn cynlluniau a rhaglenni swyddogaethol. Bydd Rheolwyr Rhaglenni ac Uwch Swyddogion Cyfrifol yn atebol am gyflawni’r gwaith hwn.

Ffocws ar ganlyniadau

Yn wyneb yr argyfwng yn yr hinsawdd, rhaid inni i gyd ddarganfod a gyrru dulliau arloesol a chreadigol.

Bydd ein cyllid grant yn cefnogi canlyniadau yn benodol.

Rydym am i ymgeiswyr feddwl y tu hwnt i amcanion penodol eu prosiectau er mwyn gwneud cysylltiadau sy'n eu galluogi i gyflawni ystod ehangach o fuddion i bobl a natur.

Rydym am i'n holl raglenni cyllid grant ddangos ffyrdd o weithio sy'n gwneud y canlynol:

  • Cefnogi cymunedau ledled Cymru i greu’r newid sylweddol wrth ddefnyddio a rheoli adnoddau naturiol
  • Dangos tystiolaeth o gydweithio rhwng sefydliadau a buddiannau gwahanol
  • Archwilio a phrofi ffyrdd newydd o wneud pethau, gan gyflwyno sgiliau a thechnolegau newydd ac arloesol a rhannu'r hyn a ddysgir
  • Defnyddio tystiolaeth feintiol ac ansoddol er mwyn cefnogi canlyniadau dros y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor

Dylai'r prosiectau o fewn rhaglen ddangos y ffyrdd hyn o weithio pan fyddant yn cael eu hystyried gyda’i gilydd.

Rydym yn disgwyl i bob prosiect sy'n cael ein cyllid grant gyfrannu at y canlyniadau cyffredinol hyn:

  • Mae stociau adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a'u gwella
  • Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newidiadau disgwyliedig a’r rhai nas rhagwelwyd
  • Mae gan Gymru leoedd iach i bobl, sydd wedi'u gwarchod rhag peryglon amgylcheddol
  • Cyfrannu at economi gylchol sy’n defnyddio adnoddau naturiol yn fwy effeithlon

Gall gynigion bach o lai na £10,000 gyfrannu at un neu ddau o'r canlyniadau hyn. Bydd disgwyl i gynigion mwy o faint ac sy'n fwy cymhleth sy'n chwilio am symiau mwy o gyllid gyfrannu at fwy canlyniadau.

Rydym am i'n rhaglenni cyllid grant yrru newid yn y defnydd a rheolaeth o adnoddau naturiol. Bydd gan rai prosiectau ganlyniadau anfwriadol; bydd eraill yn methu.

Gweithio gyda chyrff cyllido eraill

Gydag ansicrwydd parhaus ynglŷn â chyfeiriad y DU ar ôl iddi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o feithrin perthnasau strategol cryfach â rhannau eraill y sector cyhoeddus a phreifat er mwyn mwyafu cyfleoedd buddsoddi yn adnoddau naturiol Cymru.

Sicrhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru a'i sefydliadau rhagflaenol dros €24 miliwn drwy gynigion uniongyrchol llwyddiannus i’r rhaglen LIFE a gwnaethant gymryd rhan mewn prosiectau LIFE gwerth dros €15 miliwn fel partner. Ar hyn o bryd, mae gan y sefydliad brosiect gwerth oddeutu €5 miliwn ar gam nodyn cysyniad.

Mae'r prosiectau hyn wedi sicrhau gwelliannau mewn ardaloedd gwarchodedig ledled Cymru, yn enwedig mawnogydd, twyni tywod a ffeniau, ac ar gyfer rhywogaethau a warchodir fel y fisglen berlog. Mae’r prosiectau hefyd wedi datblygu rhaglenni cydweithredol ar gyfer adfer safleoedd Natura 2000 yng Nghymru ac wedi cynnwys gweithio gyda phartneriaid ledled Ewrop i fynd i’r afael â throseddau gwastraff trwy brofi technolegau arloesol a rhannu cudd-wybodaeth.

Mae arian gan gronfeydd buddsoddi rhanbarthol strategol hefyd yn chwarae rôl bwysig. Mae sicrhau bod gweithgareddau adfywio yn cefnogi rheoli adnoddau naturiol trwy unrhyw raglen ariannu newydd hefyd yn hanfodol. Mae datblygu opsiynau eraill yn lle’r ffynonellau cyllid hyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer pob un ohonom yng Nghymru. Byddwn yn gweithio ar draws sectorau er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r canlyniadau a rennir rydym i gyd yn eu ceisio i atgyfnerthu'r rhaglenni cyllid ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru.

Ar yr un pryd, rydym yn cynyddu ein gwaith o ymgysylltu strategol â chyrff cyllido eraill yng Nghymru, gan hyrwyddo cyfleoedd i gyfuno adnoddau i gyd-ariannu rhaglenni grantiau. Mae cyrff cyllido a leolir yn y DU yn cydnabod y cyd-destun deddfwriaethol a pholisi gwahanol yng Nghymru sy’n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Byddwn yn ymateb i’r cyfle hwn i archwilio'r mecanweithiau ar gyfer cyd-ariannu rhaglenni grantiau sy'n cefnogi'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Byddwn yn archwilio'r cyfleoedd i gyd-ariannu rhaglenni grantiau i gefnogi canlyniadau penodol a rennir gyda sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat eraill yng Nghymru.

Mae gan fecanweithiau cyllido amgen fel Cod Carbon Coetiroedd y DU a'r Cod Mawndiroedd hefyd rôl bwysig i’w chwarae a byddwn yn archwilio sut y gellir eu defnyddio i gael arian ychwanegol ar gyfer deiliaid grantiau, er mwyn darparu model busnes sy'n fwy hirdymor ar ôl i’r cyllid grant ddod i ben.

Symleiddio ein dull gweithredu

Rydym wedi gweithio gyda staff a phartneriaid i symleiddio prosesau grant er mwyn optimeiddio effaith cyllid grant. Rydym yn ymrwymedig i wneud y broses o wneud cais mor syml ac effeithiol ag sy'n bosib, gan ofyn dim ond am yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud penderfyniad. Mae gwelliant parhaus yn ganolig i'n dull o weithio yn Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd ein prosesau cyllid grant yn parhau i wella wrth inni dderbyn adborth gan bawb.

Mae ein Polisi a Gweithdrefn Arian Grant yn nodi’r egwyddorion arweiniol sy'n llywio ein holl benderfyniadau o ran grantiau. Mae proses grantiau 6 cham yn darparu’r fframwaith sylfaenol sy’n tanategu ein holl ddarpariaeth grantiau, gyda cham 6 yn werthusiad sy’n hanfodol ar gyfer dysgu gwersi a dylanwadu ar raglenni’r dyfodol.

  • Prosesau sy'n gymesur o ran y raddfa, y gwerth a’r risg
  • Prosesau cyson, tryloyw a theg, gyda gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer staff ac ymgeiswyr. Rhaid cael hyblygrwydd digonol i alluogi newidiadau wrth ymateb i risgiau, problemau neu berfformiad gwael a nodir
  • Asesu a rheoli risgiau drwy gydol oes cynllun grant, yn enwedig ar y camau arfarnu a monitro lle bo'n briodol
  • Diwydrwydd dyladwy cymesur er mwyn sicrhau bod grantiau yn cael eu dyfarnu i gyrff ariannol hyfyw sy'n gallu cyflawni gweithgareddau yn unol â'r pwrpas a ddiffinnir yng nghynllun y grant

Ein mecanweithiau cyllid grant

Byddwn yn rhedeg tri mecanwaith cyllid grant:

  • Cyllid grant cystadleuol
  • Cyllid strategol a ddyrannwyd
  • Cyllid cais am ganlyniad a rennir

Mae'r 3 opsiwn ar gael i Reolwyr Rhaglen pan fyddant yn datblygu rhaglenni grant penodol. Mae'r rhaglenni grant yn dadlau'r achos dros weithredu ar gamau blaenoriaethu sy'n dod i'r amlwg o Ddatganiadau Ardal yn ogystal â'r rhai a nodwyd mewn cynlluniau a rhaglenni swyddogaethol. Mae Rheolwyr Rhaglen ac Uwch Swyddogion Cyfrifol yn ystyried y mecanwaith grant gorau, neu gyfuniad o fecanweithiau, i gyflawni'r camau gweithredu sydd eu hangen i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu a byddant yn atebol am y ddarpariaeth hon.

Wrth ddatblygu'r mecanweithiau cyllido hyn, rydym wedi defnyddio safonau gofynnol perthnasol Canolfan Rhagoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru a Gofynion Swyddfa’r Cabinet. Rydym hefyd wedi ymgorffori gofynion Llywodraeth Cymru a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector. Mae'r egwyddorion a amlinellir yn adran 5 wedi'u cymhwyso i gynllun pob mecanwaith cyllido.

Gall unigolion, elusennau, prifysgolion, busnesau bach a chanolig, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat wneud cais i ni am gyllid grant. Mae gennym bortffolio o raglenni grant diffiniedig sy’n cael eu rheoli gan Reolwyr Rhaglenni ac rydym yn symud tuag at gyllid mwy hirdymor ac at fod yn fwy hyblyg ac ymatebol.

Cyllid grant cystadleuol

Grant cystadleuol yw grant pan dderbynnir ceisiadau yn ystod cyfnod diffiniedig sydd â dyddiadau agor a chau penodol. Cynhelir y grant ar sail gystadleuol gan fod y gyllideb wedi’i diffinio ymlaen llaw.

Unwaith i'r cyfnod ymgeisio ddod i ben, caiff pob cais ei feirniadu yn erbyn meini prawf agored y cynllun a bennwyd cyn y cyfnod a rhoddir sgôr iddo a safle.

Nid ystyrir unrhyw geisiadau a ddaw i law y tu hwnt i'r cyfnod ymgeisio.

Caiff y ceisiadau eu beirniadu ar yr wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod ymgeisio yn unig. Nid yw'n briodol gofyn am wybodaeth bellach gan ymgeiswyr naill ai yn ystod neu ar ôl y cyfnod ymgeisio. Yr un achos pan fydd darparu gwybodaeth bellach neu wneud cais amdani yn dderbyniol yw pan roddir yr un wybodaeth ychwanegol i bob ymgeisydd, neu y gofynnir amdani, a rhoddir yr un dyddiad cau i bawb i'w chyflwyno. Mae hyn er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb ar gyfer pob ymgeisydd.

Cyllid strategol a ddyrannwyd

Mae'r mecanwaith hwn yn tanategu ein gwaith gyda phartneriaid strategol a nodir sy'n hollbwysig wrth gyflawni blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a nodir yn y cynllun corfforaethol, y Datganiadau Ardal, a strategaethau a chynlluniau swyddogaethol.

Caiff y gwaith o nodi partneriaid strategol addas ei benderfynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Caiff cyllid ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla a ragnodir, a ddefnyddir yn gyson ar gyfer y sefydliadau perthnasol.

Wrth gadarnhau dyraniad cyllid i bartner strategol, byddai'r llythyr dyfarnu'n manylu'r canlyniadau blaenoriaethol y dylid defnyddio'r arian i'w cynorthwyo.

Pan fo'n briodol, bydd grantiau Ariannu a Ddyrannwyd yn Strategol yn cael eu dyrannu ar sail tymor hwy i ddangos ymrwymiad i gyflawni canlyniadau blaenoriaethol.

Cyllid cais am ganlyniad a rennir

Ceisiadau ad hoc, allanol i Cyfoeth Naturiol Cymru am gyllid i gynnal prosiectau neu fentrau y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru fod â diddordeb ynddynt yw ceisiadau am ganlyniadau a rennir. Gall rhaglenni grantiau ddyrannu arian i’r dull hwn fel rhan o’u hachos busnes. Mae’r unigolyn neu’r sefydliad yn cychwyn y gwaith o baratoi cynnig y mae’n ‘berchen arno’.

Mae'r sefydliad ac unigolyn yn cychwyn y gwaith o baratoi cynnig ei fod yn "berchen arno". Gall benderfynu ar fformat y cyflwyniad.

Nid oes templed Cyfoeth Naturiol Cymru, ond caiff rhestr wirio ei darparu sy'n gosod y meini prawf a ddylai gael eu cynnwys mewn unrhyw gais am gyllid.

Gall staff Cyfoeth Naturiol Cymru drafod yr amcanion a chanlyniadau strategol y bydd y cynnig yn mynd i'r afael â nhw gyda’r ymgeisydd cyn anfon y cynnig i mewn. Bydd y staff dan sylw yn ei gwneud yn glir mewn unrhyw drafodaeth nad yw'r sgyrsiau hyn yn rhagfarnu'r asesiad na'r penderfyniad i ddyfarnu cyllid, ac ni ddylent roi argraff o’r fath. Ar ôl cyflwyno'r cais yn ffurfiol, ni all y rheiny a oedd yn rhan o'r trafodaethau blaenorol chwarae rôl bellach yn yr asesiad neu yn y penderfyniad terfynol i ddyfarnu cyllid.

Ein hymrwymiad i bartneriaid

Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, byddwn yn cadarnhau yn ein cynllun busnes:

  • Maint y gyllideb a ddyrennir i gyllid grant.
  • Nifer y rhaglenni sydd gennym yn y portffolio grant a gwerth pob rhaglen.
  • Nodau diffiniedig pob rhaglen ar wahân a manylion dyrannu’r arian rhwng y tri mecanwaith cyllido o fewn pob rhaglen.
  • Byddwn yn darparu calendr o'r cyfleoedd grant cystadleuol ar gyfer y flwyddyn, gan ddarparu gwerth pob rownd gystadleuol a chysylltu â phwrpas un o'n rhaglenni grant.

Cyn y penderfyniadau hyn byddwn yn siarad â sefydliadau ac elusennau ar draws y sector cyhoeddus a phreifat i ofyn am eu mewnbwn ac i fesur eu hawydd am raglenni ariannu cystadleuol ac anghystadleuol.

Diweddariadau

Diweddarwyd ar 11 Tachwedd 2022:

  • pwysleisio bod rhaglenni grant ar wahân yn cyd-fynd ag amcanion ein cynllun corfforaethol a blaenoriaethau datganiad ardal
  • nodi pwy sy’n atebol am gyflwyno rhaglenni grant
  • ychwanegu cyfeiriadau at y broses grant chwe cham sy'n tanategu'r ddarpariaeth
  • egluro beth fyddwn yn ei gadarnhau yn ein cynllun busnes ar ddechrau pob blwyddyn ariannol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf