Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman
Perygl o lifogydd yn Rhydaman
Yn dilyn ymchwiliadau i berygl llifogydd yn Rhydaman o afonydd Llwchwr, Marlas a Lash, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig llunio cynllun rheoli perygl llifogydd. Mae Rhydaman yn hanesyddol yn gyfarwydd â llifogydd. Digwyddodd y diweddaraf ohonynt ym mis Gorffennaf 2009 pan gafodd tai yn Heol Haydn a Thir-y-dail eu heffeithio gan lifogydd a chaewyd yr A483 ym Mhont-y-clerc a Phen-y-banc.
Mae modelu cyfrifiadurol yn rhagweld bod mwy na 200 eiddo yn Rhydaman mewn perygl o lifogydd mewn digwyddiad llifogydd eithafol (llifogydd gyda thebygolrwydd o 1% o ddigwydd bob blwyddyn). Mae hyn yn cynyddu i fwy na 380 eiddo yn y dyfodol o ganlyniad i newid hinsawdd.
Bydd ein cynllun arfaethedig yn lleihau’r perygl o lifogydd i tua 385 eiddo yn Rhydaman mewn digwyddiad llifogydd eithafol (llifogydd gyda thebygolrwydd o 1% o ddigwydd bob blwyddyn), gan ystyried effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.
Caniatâd Cynllunio wedi’i Roi
Yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd ym mis Ionawr ac Awst 2021, mae Cyngor Sir Gâr wedi rhoi caniatâd cynllunio llawn i’r cynllun fynd yn ei flaen.
Roeddem wedi bwriadu dechrau’r gwaith adeiladu yn ystod gwanwyn 2022, ond yn dilyn proses dendro gychwynnol, ni lwyddom i benodi contractiwr. Felly, byddwn yn tendro eto dros yr haf, gyda’r nod o benodi contractiwr yn ystod hydref 2022. Os byddwn yn llwyddo, dylai’r gwaith adeiladu gychwyn ym mis Ionawr 2023.
I baratoi ar gyfer y prif waith, gwnaed y mwyafrif o’r gwaith o glirio’r safle ym mis Chwefror 2022.
Beth mae CNC yn ei wneud am berygl llifogydd yn Rhydaman?
Rydym wedi edrych yn ofalus ar y problemau, yr achosion a'r datrysiadau posibl i atal llifogydd yn Rhydaman. Rydym wedi ymgymryd â chyfres o ymchwiliadau i nodi opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd.
Rydym wedi ymgymryd â gweithgareddau modelu llifogydd trwy'r dalgylch cyfan i bennu'r perygl presennol o lifogydd ac i asesu'r opsiynau i reoli hwn. Cwblhawyd amrywiaeth eang o arolygon amgylcheddol i ddeall effaith bosibl yr opsiynau ar yr amgylchedd a sut gellid osgoi neu leihau'r effeithiau hyn. Rydym wedi ymgynghori ag amrywiaeth o bartneriaid ar hyd y ffordd, ond gwerthfawrogwn mai ar drigolion a busnesau Rhydaman y bydd y cynigion yn effeithio fwyaf. Felly, rydym yn croesawu eich diddordeb a'ch adborth i helpu i lywio ein penderfyniadau.
Pa opsiynau ydyn ni wedi’u hystyried?
Rydym wedi ystyried nifer i opsiynau ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd i Rydaman.
Beth yw'r opsiwn a ffefrir?
Yn ôl ein hymchwiliadau, mae pennu achos llifogydd yn Rhydaman yn gymhleth, gan fod dŵr llifogydd yn llifo i'r dref mewn sawl lle. Mae angen cyfuniad o fesurau i leihau'r perygl o lifogydd. Credwn mai'r opsiwn gorau yw adeiladu cyfres o argloddiau a muriau amddiffyn rhag llifogydd mewn sawl ardal yn y dref i atal dŵr llifogydd yn Afon Llwchwr, a gosod mesurau gallu eiddo i wrthsefyll llifogydd (PFR) mewn tai ar Heol Aberlash.
Bydd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman yn ymestyn o dir ar Heol Parc Henri tua’r gogledd, ar hyd coridor yr Afon Llwchwr tuag at Goleg Sir Gâr, Heol Dyffryn yn y de. Bydd y cynllun yn cynnwys:
- Adeiladu 9 amddiffynfa llifogydd (muriau llifogydd concrit a byndiau) ar hyd glannau’r Afon Llwchwr
- Plannu’r dirwedd o fewn ardaloedd agored presennol, gan gynnwys Bonllwyn Green oddi ar yr Henffordd
- Gwaith i ostwng lefel y tir a gwelliannau i’r ysgolion pysgod a dulliau mesur ar Gored Tir-y-Dail
- Gwyriad llif o fewn sianel yr afon wrth ymyl pont heol A483 Bonllwyn.
Ymgynghoriad hyd yn hyn
Cynhaliwyd sesiynau galw heibio i’r cyhoedd yn Neuadd Ddinesig Aman ar ddydd Gwener 8 Mawrth 2019 i drafod ein hymchwiliadau a’n canfyddiadau hyd yma a’r opsiwn a ffefrir. Fe wnaethom ni ystyried y sylwadau a’r safbwyntiau a ddaeth i law yn sgil y sesiwn galw heibio a thrwy’r ffurflenni adborth.
Gellir gweld y byrddau gwybodaeth a ddangoswyd gennym yn y sesiynau galw heibio yma: Mawrth 2019 Byrddau Gwybodaeth Ymgynghori â'r Cyhoedd
O ganlyniad i gyfyngiadau Coronafeirws, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion rheoli perygl lligfogydd mwy manwl trwy gylchlythyr a holiadur ar-lein. Fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi datganiad i’r wasg a hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn ystod mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021. Fe wnaethom ni bostio cylchlythyr i oddeutu 800 o drigolion a rhanddeiliaid yn Rhydaman.
Roedd copi drafft o’r dogfennau a baratowyd cyn ymgeisio am ganiatâd cynllunio, gan gynnwys y Cofnod o Gyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol, ar gael ar wefan y prosiect hwn yn ystod mis Ionawr a Chwefror 2021. Gwnaethom nifer o addasiadau i’r cynllun yn seiliedig ar y sylwadau a dderbyniwyd. Mae’r rhain yn cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio a gafodd ei gynnwys yn y cais cynllunio.
Cafodd cais cynllunio ar gyfer y cynllun ei gyflwyno i Gyngor Sir Gâr ym mis Ebrill 2021 ac yn dilyn cyfnod o ymgynghori, rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y cynllun.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn rhoi’r gwaith i dendr yn ystod haf 2022 gyda’r nod o benodi contractiwr yn ystod hydref 2022. Os byddwn yn llwyddo, byddwn yn cychwyn y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2023.
Yn ystod haf 2022, byddwn yn ymgynghori â thrigolion sy’n lleol i Bonllwyn Green ynghylch ein cynlluniau ar gyfer yr ardal honno.
Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r gymuned leol ac i sicrhau buddion ychwanegol yn sgil y cynllun hwn. Byddwn yn sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd drwy gydol y gwaith.