Llanfair Talhaiarn - rheoli perygl llifogydd
Y diweddaraf (Awst 2021) ar y camau gweithredu yn dilyn llifogydd Chwefror 2020
Oherwydd y pandemig coronafirws, nid ydym wedi gallu cynnal sesiwn galw heibio yn Llanfair Talhaiarn i drafod materion llifogydd.
Yn y cyfamser, rydym mewn cysylltiad rheolaidd â chyngor cymunedol Llanfair Talhaiarn ac yn darparu diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith i helpu i leihau risg llifogydd yn y pentref.
Gobeithiwn y bydd y diweddariad diweddaraf hwn yn helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi cyn y gallwn ddychwelyd i drafod materion gyda chi wyneb yn wyneb unwaith eto.
Anfonwch eich sylwadau neu unrhyw gwestiynau trwy e-bost at: Risg.Llifogydd.Llanfairtalhaiarn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae'r gwaith yn parhau... a dyma'r sefyllfa ddiweddaraf
Mae rhan uchaf newydd cwlfert Nant Barrog yn Stryd y Dwr yn y pentref, a gwblhawyd ddiwedd 2018, yn perfformio'n dda, gan wneud yn siwr fod llawer mwy o ddŵr yn cael ei gludu’n ddiogel ar adegau o lif uchel.
Fodd bynnag, rhaid inni gofio bod gan hyd yn oed y cwlfert gwell yma derfyn i’r hyn gall ei gario a bydd posibilrwydd bob amser iddo gael ei lethu mewn digwyddiad llifogydd mawr - fel y digwyddodd yn ystod Storm Ciara yn 2020.
Mae rhwystrau yng ngheg y cwlfert hefyd yn risg yr ydym wedi mynd i'r afael â hi. Yn dilyn adolygiad, gwnaethom newidiadau i'r sgrîn bresennol y gaeaf diwethaf, sy'n lleihau'r posibilrwydd o flocio yn sylweddol. Rydym wedi bod yn monitro'r sgrîn sydd wedi'i haddasu ac yn falch o adrodd bod y newidiadau wedi cael effaith gadarnhaol.
Bydd gwaith Cam 2 y cynllun rheoli risg llifogydd yn cynnwys gwella mynediad i'r sgrîn a symleiddio gweithrediadau clirio ar gyfer staff CNC. Bydd waliau hefyd yn cael eu hadeiladu ger Capel Soar, i fyny'r afon o geg y cwlfert, i gadw mwy o ddŵr yn y sianel a gwneud defnydd llawn o gapasiti cynyddol y cwlfert newydd.
Oherwydd materion diogelwch a risgiau sy'n gysylltiedig â methu â chwblhau gwaith Cam 2 cyn misoedd y gaeaf, penderfynwyd y bydd yn fwy diogel ymgymryd â'r rhain yng Ngwanwyn 2022.
Rydym yn gwbl ymwybodol y bydd hyn yn destun sion a phryder i bobl leol. Fodd bynnag, rydym am sicrhau pawb ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y sgrîn sydd wedi'i haddasu, ac sy'n perfformio'n dda, yn cael ei harchwilio'n rheolaidd a'i monitro'n ofalus fel rhan o reoli risg llifogydd y pentref.
Ni allai gwaith Cam 2 gychwyn yn gynharach oherwydd newidiadau dylunio i sicrhau'r buddion mwyaf, gweithio i sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol ac ennill pob caniatâd ac, wrth gwrs, covid. Ond rydym nawr yn gallu sicrhau bod y gwaith yn cychwyn ym mis Ebrill 2022, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio ar agweddau pwysig eraill ar reoli risg llifogydd ar gyfer y pentref, a restrir isod:
- Rydym wedi gwneud gwelliannau i'r camera, sy'n cyfrannu at fonitro'r afon, i fyny'r afon o'r cylfat. Mae camera ychwanegol wedi'i osod yn ardal y trap graean. Rydym hefyd yn ystyried gosod camerâu ychwanegol ar y system.
- Mae data lefel afon Nant Barrog yn parhau i gael ei fonitro. Er ei fod yn ddefnyddiol i'n timau gweithrediadau, ni chaiff ei ychwanegu at River Levels Online nes ein bod yn hyderus bod yr orsaf fonitro yn darparu darlleniadau o safon dda a chyson. Gall hyn gymryd 12-24 mis yn unol â gorsafoedd monitro newydd eraill.
- Mae adolygiad o amddiffyn eiddo i berchnogion tai sydd mewn perygl o lifogydd (fel byrddau llifogydd) yn cael ei gwblhau a gallwn nawr adolygu'r canfyddiadau ac ystyried gwneud cais am gyllid i gyflawni gwaith ar lawr gwlad.
- Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu Gwasanaeth Rhybuddio Llifogydd llawn ar Nant Barrog ar gyfer Talhaiarn Llanfair. Fodd bynnag, mae hwn yn fater cymhleth oherwydd natur y dalgylch / argaeledd data.
- Rydym yn gweithio gyda’r Grŵp Wardeiniaid Llifogydd gwirfoddol i ddiweddaru Cynllun Llifogydd Cymunedol Llanfair Talhaiarn, gan gynnwys rhannu gwybodaeth i breswylwyr am y gwasanaeth rhybuddio cynnar. Byddwn yn darparu cefnogaeth i'r Grŵp gydag unrhyw ddigwyddiadau prawf / gwaith paratoi a wneir yn ddiweddarach eleni, cyn y Gaeaf.
- Mae adolygiad o amddiffyn eiddo i berchnogion tai sydd mewn perygl o lifogydd (fel byrddau llifogydd) yn cael ei gwblhau a gallwn nawr adolygu'r canfyddiadau ac ystyried gwneud cais am gyllid i gyflawni gwaith ar lawr gwlad.
- Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu Gwasanaeth Rhybuddio Llifogydd llawn ar Nant Barrog ar gyfer Talhaiarn Llanfair. Fodd bynnag, mae hwn yn fater cymhleth oherwydd natur y dalgylch / argaeledd data.
- Rydym yn gweithio gyda’r Grŵp Wardeiniaid Llifogydd gwirfoddol i ddiweddaru Cynllun Llifogydd Cymunedol Llanfair Talhaiarn, gan gynnwys rhannu gwybodaeth i breswylwyr am y gwasanaeth rhybuddio cynnar. Byddwn yn darparu cefnogaeth i'r Grŵp gydag unrhyw ddigwyddiadau prawf / gwaith paratoi a wneir yn ddiweddarach eleni, cyn y Gaeaf.
- Mae 54 eiddo mewn perygl o lifogydd, ond dim ond 23 sydd wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Rhybudd Cynnar. Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, cysylltwch â Gwenno Talfryn ar 07811023377.
- Rydym yn parhau i weithio ar y potensial ar gyfer gwaith rheoli llifogydd naturiol. Mae hyn yn golygu dod o hyd i fesurau naturiol, fel plannu coed neu greu argaeau sy'n gollwng, i helpu i leihau llif y dŵr i fyny'r afon. Mae Coed Cymru wedi cychwyn prosiect ffensio a phlannu coed mewn ardaloedd i fyny'r afon. Bydd CNC yn parhau i weithio gyda Coed Cymru wrth symud ymlaen â'n hymchwiliad ein hunain a pharhau i edrych a all storio dŵr i fyny'r afon chwarae rhan. Mae'n debygol y bydd gosod strwythurau yn yr afon uchaf, i arafu llif y dŵr, yn un o'r opsiynau allweddol i'w hystyried ac y bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn 2022.
- Cwblhawyd adolygiad o arglawdd llifogydd Elwy (llifogydd yn ardal Lôn yr Ysgol) ac rydym yn adolygu'r canfyddiadau.
- Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cyngor cymunedol i ddatblygu Grŵp Partneriaeth Llifogydd Dalgylch ar gyfer Nant Barrog, i edrych ar y materion llifogydd ehangach sy'n effeithio ar y gymuned ac i ganfod ffyrdd o reoli'r materion hyn yn y dyfodol.
- Rydym wedi adolygu effaith cored Elwy ar risg llifogydd ac mae'r canfyddiadau'n nodi'r effaith leiaf bosibl.
- Rydym yn adolygu perfformiad y sgrîn malurion bras (a elwir yn ddaliwr coed) ac wedi gofyn i'n dylunydd ystyried gwelliannau. Gobeithio y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno'r flwyddyn nesaf ochr yn ochr â'r gwaith Cam 2.
- Mae tir rhwng ceg y cwlfert a'r daliwr coed yn cael ei glirio i leihau'r risg o rwystro. Gobeithio y bydd hyn yn destun cynllun rheoli gyda thirfeddianwyr i leihau risg blocio yn y dyfodol.
Rhaid inni gofio, wrth i newid yn yr hinsawdd ddwysau, y byddwn yn profi digwyddiadau tywydd mwy eithafol, gan gynnwys cyfnodau gwlyb dwys fel y rhai a brofwyd y gaeaf diwethaf. Mae hyn yn gwneud rheoli risg llifogydd yn her gynyddol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae llawer o atebion i gwestiynau cyffredin i’w cael ar ein gwefan
Ymholiadau: Risg.Llifogydd.Llanfairtalhaiarn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gallwch hefyd drafod materion gyda:
Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Conwy, Ifor Lloyd cllr.ifor.glyn.lloyd@conwy.gov.uk
Uwch Warden Llifogydd, Julie Elliott
Ffôn: 01745 720 255 neu 07789 965. Ebost: j.crossan55@btinternet.com
Warden Llifogydd Cynorthwyol, Karen Minor
Ffôn: 01745 720 513 neu 07919 458 835 Ebost: karenminor3@yahoo.co.uk
Diweddariad yn dilyn Storm Christoph, 20 Ionawr 2021
Yn yr un modd â phob digwyddiad storm, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn adolygu'r hyn a ddigwyddodd cyn, yn ystod ac ar ôl Storm Christoph.
Mae'r wybodaeth gychwynnol yn dangos ei fod yn ddigwyddiad tywydd sylweddol gyda glawiad uchel iawn. Roedd risg llifogydd gwirioneddol i gymuned Llanfair Talhaiarn unwaith eto.
Roedd swyddogion CNC ar y safle yn ystod y digwyddiad, yn monitro'r sefyllfa ac wrth law i ddelio â materion yn ôl yr angen.
Cafodd yr addasiadau i sgrîn Capel Soar, a gwblhawyd yn 2019, effaith gadarnhaol ar lif y dŵr i lawr y cwlfert, gan ganiatáu i falurion bach basio trwodd, a lleihau'r risg o rwystrau.
Byddwn yn parhau i fonitro hyn cyn i ni benderfynu ar ddyluniad tymor hir strwythur y sgrîn.
Credwn hefyd fod y gwaith yn 2018, a gynyddodd gapasiti cwlfert Water Street, wedi chwarae ei ran wrth gario'r dŵr yn gyflymach trwy'r cwlfert.
Cafodd y sgrîn fras, i fyny'r afon, ei blocio'n rhannol â malurion coetir, yn ôl y disgwyl a'r dyluniad. Dyddodwyd graean i fyny'r afon hefyd. Rydym bellach wedi clirio'r ardal hon a byddwn yn parhau i fonitro perfformiad y sgrîn hon hefyd.
Roedd y llifoedd yn yr Elwy yn uchel iawn ac rydym yn ymwybodol bod pryder ynghylch Lôn yr Ysgol yn dod yn llwybr llifogydd wrth i'r afon ddod allan o'i sianel. Mae hyn yn cael ei ymchwilio.
Rydym yn ymwybodol o faterion yn ymwneud â llifogydd dŵr wyneb, a byddwn yn cynorthwyo ein cydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ymchwilio i hyn yn ôl yr angen.
Yn anffodus, mae effaith Storm Christoph yn dangos heriau newid hinsawdd a'r risg barhaus i'r gymuned.
Rhaid inni gofio, wrth i newid yn yr hinsawdd ddwysau, y byddwn yn profi digwyddiadau tywydd mwy eithafol, gan gynnwys cyfnodau gwlyb dwys fel yr ydym yn eu profi ar hyn o bryd. Mae hyn yn gwneud rheoli risg llifogydd yn her gynyddol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Yn dilyn Storm Christoph, mae dalgylchoedd ledled gogledd Cymru yn parhau i fod yn wlyb ac yn sensitif iawn i lawiad. Mae hyn yn golygu y gall llawer o afonydd ymateb yn gyflymach i ddigwyddiadau glaw.
Gobeithiwn y bydd y Grŵp Llifogydd Dalgylch Cymunedol, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn gymorth pellach i'r gymuned a chyrff cyhoeddus weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â materion llifogydd, lleihau effaith llifogydd a dod yn fwy gwydn i’r dyfodol.
Mae CNC yn awyddus i gael cymaint o wybodaeth â phosibl ynglŷn â digwyddiad Storm Christoph. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth / gwybodaeth / lluniau o lifogydd neu faterion yn ymwneud â llifogydd, anfonwch ymlaen at CNC trwy: Risg.Llifogydd.Llanfairtalhaiarn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cefndir (lle'r oeddem cyn Storm Ciara Mawrth 2020)
Ym mis Tachwedd 2012 cafwyd llifogydd ym mhentref Llanfair Talhaiarn (TH) pan fu i Nant Barrog, oedd wedi chwyddo yn sgîl glaw eithriadol, lethu cwlfert Water Street a gorlifo 19 o gartrefi a busnesau.
Roedd hyn yn dilyn llifogydd blaenorol yn y pentref, yn ystod Ebrill 2012 ynghyd â nifer o ddigwyddiadau eraill yr adroddwyd amdanynt yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf.
Yn seiliedig ar fodelu, amcangyfrifwyd bod gan lifogydd Tachwedd 2012 siawns o ddau y cant o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol. Ond, fel y gwelir yn amlder digwyddiadau llifogydd yn y pentref, yn 2012 credwyd bod Llanfair TH mewn perygl o lifogydd ar y Nant Barrog gyda siawns o bedwar y cant o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Caiff y risg o lifogydd ei waethygu yn sgîl rhwystro'r sgrîn sbwriel, ar draws cwlfert Water Street.
Llifa Afon Elwy ar hyd ymyl ogleddol y pentref. Adroddwyd fod gan lifogydd Tachwedd 2012 ar yr Elwy siawns o rhwng un y cant a dau y cant o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Bu i amddiffynfeydd llifogydd presennol amddiffyn Llanfair TH rhag llifogydd pellach o'r Elwy yn ystod mis Tachwedd 2012 – bryd hynny, effeithiwyd ar y pentref yn unig gan lifoedd ar Nant Barrog.
Datblygu cynllun rheoli risg llifogydd
Ers llifogydd 2012, rydym wedi bod yn gwneud gwaith yn y pentref i wella gwytnwch i risg llifogydd a lleihau'r risg.
Yn 2016, bu inni gwblhau asesiad o'r risg llifogydd, i astudio’r risg llifogydd a llunio cynigion i leihau'r risg ymhellach.
Mae'r cynllun rheoli risg llifogydd yn gwella capasiti cwlfert ( neu’r beipen) ar hyd Water Street.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun hefyd yn gwella perfformiad y sgrîn sbwriel ar geg y cwlfert, a byddwn yn ymchwilio i opsiynau i wneud gwelliannau i fyny'r afon i amddiffyn y pentref rhag llifogydd.
Bydd y cynllun llifogydd a gynigir ar hyn o bryd yn rhoi amddiffyniad i'r pentref o siawns y un cant o lifogydd o Nant Barrog ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol, ar ôl ei gwblhau. Bydd hefyd yn golygu y bydd y sgrîn malurion yn haws i'w rheoli ac na fydd mor sensitif i rwystr â'r sgrîn bresennol.
Mae'r gwaith o adeiladu'r cynllun rheoli risg llifogydd yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda Cham 1 wedi'i gwblhau ym mis Ionawr 2019, gan gynyddu gallu'r cwlfert i gario llifau sy'n cyfateb i siawns 1.33 y cant o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae Cam 2 wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni, 2020, yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ac adolygiad arall yn dilyn llifogydd 9 Chwefror 2020. Bydd Cam 2 yn cael ei wneud yn y Gwanwyn 2022 erbyn hyn.
Roedd gwaith Cam 1 yn cynnwys gwella rhan allweddol i fyny'r afon o Gwlfert Stryd Dŵr Nant Barrog ac adran Cwlfert Nant Barrog Black Lion. Rydym wedi cael gwared ar yr hen rannau cwlfert yn y lleoliadau hyn ac wedi rhoi rhannau mwy yn eu lle. Gwnaethom waith hefyd i selio'r cwlfert ar ei hyd.
Mae CNC yn ddiolchgar i'r preswylwyr am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth trwy gydol Cam 1.
Fe wnaeth y gwaith hwn wella capasiti y cwlfert ac mae bellach yn gallu darparu ar gyfer llifoedd uwch, gan roi risg llifogydd o 1.33 y cant i'r pentref mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae risg o hyd gan y sgrîn malurion bresennol. Mae swyddogion CNC yn mynychu'r safle yn ystod digwyddiadau llif uchel / glawiad trwm ond mae'n anodd cynnal a chadw'r sgrîn gyfredol a'i chadw'n glir o falurion.
Bydd gwaith Cam 2 yn cynnwys gwella'r sgrîn malurion presennol yn Capel Soar. Cynigir sgrîn malurion newydd, ychwanegol ac ehangach.
Bydd waliau hefyd yn cael eu hadeiladu i gadw mwy o ddŵr o fewn y sianel i'w yrru trwy'r cwlfert i wneud y gorau o'i gapasiti. Rydym wedi ystyried pob opsiwn i sicrhau ein bod yn cynnig yr ateb mwyaf addas a chynaliadwy. Bydd y gwaith yn digwydd yn Ebrill 2022.
Rydym yn gobeithio hefyd y bydd y cynllun llifogydd yn cael ei gefnogi gan waith i fyny'r afon i reoli llif dŵr trwy'r pentref, trwy ddefnyddio dulliau rheoli llifogydd naturiol.
Mae CNC yn gobeithio gweithio gyda Coed Cymru i edrych ar atebion naturiol gan gynnwys plannu gwrychoedd a chreu rhwystrau naturiol i lif y dŵr i fyny'r afon.
Byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori pellach yn y pentref cyn cam nesaf y gwaith.