Ein prosiectau arfordirol
Heriau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu
Mae newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr yn newidiadau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu. Gwasgfa arfordirol yw colli cynefinoedd arfordirol na allant ymateb i gynnydd yn lefel y môr trwy symud tua'r tir oherwydd datblygiad ar yr arfordir.
Mae tystiolaeth yn dangos y bydd newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar lifogydd yng Nghymru. Wrth i'r hinsawdd newid, bydd stormydd amlach, glaw trwm a digwyddiadau ymchwydd llanw yn cynyddu'r perygl o lifogydd llanw ac erydu arfordirol. Nid yw cymunedau a chynefinoedd arfordirol Cymru yn gallu gwrthsefyll y pwysau hyn. Rhagwelir newidiadau i'r arfordir.
Mae amrywiaeth o adeileddau o amgylch yr arfordir, megis waliau ac argloddiau, a ddyluniwyd i reoli perygl llifogydd a darparu amddiffyniad. Fodd bynnag, mae'r adeileddau hyn yn dirywio dros amser a gall fod angen gwaith cynnal a chadw drud. Wrth i lefel y môr godi ac erydiad arfordirol gyflymu, bydd safon yr amddiffyniad rhag llifogydd a geir gan yr adeileddau hyn yn dirywio, tra bydd costau cynnal a chadw yn codi'n sylweddol ac yn dod yn afresymol mewn rhai achosion.
Mae’r newidiadau a’r heriau a wynebwn yn ddigynsail. Mae rhagamcanion presennol ar gyfer Cymru yn rhagweld lefelau llanw yn codi rhwng hanner metr a dros fetr dros y ganrif nesaf. Mewn rhai mannau, ni fyddwn yn gallu cynnal y safonau presennol o amddiffyniad yn y tymor hir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni addasu.
Sut rydym yn defnyddio addasu
Mae addasu yn newid y ffordd y gwneir pethau mewn ymateb i heriau.Bydd hyn yn amrywio yn seiliedig ar y nodweddion, y peryglon a'r risgiau sy'n bresennol. Mewn rhai mannau ar yr arfordir, byddwn yn cynnal y safon bresennol o amddiffyn rhag llifogydd. Mewn mannau eraill, byddwn yn adlinio neu'n cilio. Efallai y bydd achosion lle bydd angen i ni roi’r gorau i ymyrryd a chaniatáu i brosesau naturiol gymryd rheolaeth.
Sut rydym yn penderfynu pa ddewisiadau addasu i'w gwneud
Mae strategaethau ar waith i helpu i arwain y broses o wneud penderfyniadau addasu. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldebau dros reoli perygl llifogydd o brif afonydd a’r môr a rhaid inni gyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
Ymatebion polisi i newidiadau amgylcheddol, a ddatblygwyd gan grwpiau arfordirol, yw Cynlluniau Rheoli Traethlin. Mae’r cynlluniau’n darparu’r fframwaith ar gyfer rheoli effaith hirdymor llifogydd arfordirol ledled Cymru. Maent yn rhannu’r arfordir yn adrannau llai a elwir yn ‘unedau polisi’ ac yn egluro sut y dylid rheoli pob uned yn y tymor byr, canolig a hir. Maent yn ystyried cynaliadwyedd gweithgareddau ac asedau rheoli perygl llifogydd a blaenoriaethau ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd.
Dyma ragor o wybodaeth am ein Cynlluniau Rheoli Traethlin.
Rydym yn cynnal prosiectau sy’n archwilio opsiynau addasu ar gyfer cyflawni rheolaeth gynaliadwy ar berygl llifogydd, o fewn fframwaith y Cynlluniau Rheoli Traethlin.Caiff y prosiectau hyn eu harwain gan egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a’u nod yw cyflawni nodau iechyd a llesiant yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r gwaith hwn yn unol â'n cynllun corfforaethol.
Rhaid inni hefyd wneud iawn am wasgfa arfordirol pan fydd prosiectau arfordirol yn achosi effeithiau andwyol ar gynefinoedd morol gwarchodedig. Rydym yn rheoli’r cynefinoedd cydbwyso hyn ar ran Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd.
I gael gwybodaeth am y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd, gweler y Nodyn gan Lywodraeth Cymru i egluro’r polisi ar ddefnyddio’r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd wrth gynnal prosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Sut rydym yn rhedeg ein prosiectau arfordirol
Yn dilyn dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae ein prosiectau’n datblygu ac yn arfarnu opsiynau ac yn anelu at ddatblygu cynlluniau ar gyfer rheoli perygl llifogydd a chynefinoedd yn gynaliadwy.
Gwneir hyn i gyd trwy roi ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid wrth wraidd popeth a wnawn.
Trwy gyfres o gamau, mae'r prosiectau yn:
- ymchwilio i'r dystiolaeth ar gyfer y problemau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol lleol
- disgrifio'r goblygiadau a'r cyfleoedd
- cynnig opsiynau posibl
- llunio rhestr fer o opsiynau ymarferol ac adrodd yn fanwl ar eu manteision a’u costau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol
- penderfynu ar y cydbwysedd gorau o ran rheoli perygl llifogydd, diogelu a gwella’r amgylchedd, canlyniadau llesiant, a gwerth am arian
- datblygu a chyflwyno achosion busnes i gefnogi'r camau gweithredu a argymhellir
Gall y prosiectau hyn naill ai arwain yn uniongyrchol at newidiadau mewn rheoli llifogydd neu ddarparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweithredu yn y dyfodol mewn ymateb i ddigwyddiadau llifogydd eithafol neu safonau amddiffyn rhag llifogydd sy’n lleihau.
Sut rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae ymgysylltu’n effeithiol ar gamau prosiect allweddol wrth wraidd ein gwaith prosiect arfordirol. Rydym yn meithrin perthnasoedd ac yn gweithio gyda’r gymuned leol a rhanddeiliaid i wneud y canlynol:
- deall amgylchiadau, pryderon, blaenoriaethau a dyheadau lleol
- trafod syniadau a darparu cyfleoedd i ddylanwadu ar gynlluniau a chanlyniadau
- darparu cyfleoedd i randdeiliaid helpu i lunio rhaglen y dyfodol
Gyda’n gilydd, rydym yn archwilio datrysiadau sy’n darparu cyfleoedd datblygu amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ac yn gweithio tuag at gynhyrchu cynlluniau addasu arfordirol a rheoli perygl llifogydd cynaliadwy.
Rhagor o fanylion
Dysgwch fwy am atebion ar sail natur ac addasu ar yr arfordir ac archwiliwch gyd-destun addasu arfordirol ymhellach. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wahanol atebion rheoli arfordirol ar sail natur.
Mae gan rai o’n prosiectau arfordirol parhaus eu tudalennau gwe eu hunain lle gallwch ddarganfod mwy am y problemau, cynlluniau a gweithgareddau ymgysylltu a chysylltu â thimau’r prosiectau: