Rhaglen Grant Cymunedau Cryf CNC yn cefnogi iechyd a llesiant gydag atebion lleol

Mae gwella iechyd, llesiant a gwytnwch ar draws Cymru gyfan trwy gyfranogiad cynyddol yn adferiad byd natur yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

I gefnogi’r uchelgais hwn, yn gynharach eleni lansiodd CNC ei Raglen Grantiau Cymunedau Cryf gwerth £2 filiwn gyda’r nod o roi cyfleoedd i gymunedau adfer a gwella byd natur yn eu hardaloedd lleol, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, a’r rhai sydd â fawr ddim mynediad i natur.

Denodd y rhaglen 220 o geisiadau am gyllid - gwerth cyfanswm o fwy nag £20 miliwn.

Gwerthuswyd pob cais a dewiswyd 21 o ymgeiswyr llwyddiannus.

Dywedodd Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau CNC:

“Cawsom ein plesio gan ansawdd y ceisiadau ac rydym yn gyffrous iawn i gael gweithio ochr yn ochr â phobl fedrus a phrosiectau gwych.
“Rydym am i’r cyllid grant hwn helpu partneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu cymunedau cryf sydd â chyswllt â natur a harddwch naturiol ac sydd â’r gallu i ymateb ac addasu i’r argyfwng hinsawdd ynghyd â heriau a chyfleoedd amgylcheddol.
“Mae rhai o’r prosiectau hyn yn ganlyniad i gydweithio llwyddiannus ar Ddatganiadau Ardal CNC, tra bod eraill yn bartneriaethau newydd.
Bydd yr holl brosiectau yn cyflawni ein blaenoriaethau Datganiad Ardal.” (I gael mwy o wybodaeth am Ddatganiadau Ardal CNC, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Datganiadau Ardal)

Caiff sefydliadau o bob rhan o'r wlad eu cefnogi gan y cyllid hwn.  Ymhlith rhai o'r prosiectau arloesol ac amrywiol eu hystod i elwa mae:

  • Cysylltu Coetiroedd a Phobl er Lles - Mae hwn yn brosiect Cymru gyfan sy’n cael ei arwain gan Coed Lleol (Cymdeithas Coedwigoedd Bychain Cymru) sy'n arwain ar arloesedd a chyfranogiad mewn gweithgareddau iechyd a lles yn yr awyr agored. Mae’n cefnogi rhwydwaith o arweinwyr, gan fapio mynediad i goetiroedd lles a natur, codi ymwybyddiaeth o weithgareddau iechyd awyr agored trwy ddarparu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol wrth ehangu a gwella’r ddarpariaeth hyfforddi.
  • Ma’s â Chi/Get Outdoors - Treulio amser yn yr awyr agored a defnyddio byd natur i oresgyn y cynnwrf corfforol, emosiynol a chymdeithasol a brofir gan blant a phobl ifanc yw nod Get Outdoors, sef prosiect menter gymdeithasol a sefydlwyd gan Academi NatureQuest, sydd wedi’i leoli yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Ma’s â Chi / Get Outdoors yn darparu gweithgareddau awyr agored i blant rhwng 9 a 13 oed y mae eu pryderon yn eu hatal rhag cael mynediad i addysg amser llawn, gan ganiatáu iddynt feithrin perthnasoedd ac ailgysylltu â'u hamgylchedd lleol.
  • Ein Dŵr - Mae prosiect Ein Dŵr sy’n gweithio gyda rhwydweithiau gweithgareddau awyr agored a sefydliadau sector iechyd ar draws Sir Benfro, yn darparu cyfleoedd i bobl ailgysylltu â natur a gwella eu hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol a hyrwyddo ymddygiadau gwyrdd trwy raglen o iechyd a lles awyr agored a gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion ynghyd â chymorth wedi'i dargedu ar gyfer rhwydweithiau gweithgaredd a sefydliadau'r sector iechyd.
  • Prosiect Afon Iach, Cymuned Iach, Groundwork Gogledd Cymru - Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae Prosiect Afon Iach, Cymuned Iach Groundwork Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar ardaloedd gwyrdd Afon Clywedog a Melin y Brenin, Wrecsam. Bydd y prosiect yn cyflwyno gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i wella cynefinoedd ac iechyd afonydd, addysgu’r gymuned sut i warchod afonydd, a darparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio a mwynhau’r amgylchedd naturiol o amgylch yr afon, gan gynnwys sesiynau gwirfoddolwyr er mwyn gwella amgylchedd yr afon, mentrau gwyddoniaeth dinasyddion, gweithgareddau teuluol a chyfleoedd addysgol.
  • Prosiect Undergrowth / Isdyfiant Oriel Mostyn – Bydd y prosiect hwn yn datblygu cysylltiadau dyfnach cyfranogwyr â’r amgylchedd naturiol ac yn cefnogi eu hiechyd a’u lles, er mwyn helpu i feithrin a thyfu cymunedau cryf. Ymhlith y mentrau mae cyfnod preswyl i artist gwledig, gweithio gyda chymunedau gwledig i ddatblygu gwaith celf cydweithredol ym Mlaenau Ffestiniog a Bro Ffestiniog; comisiwn iechyd a lles dan arweiniad artist, gan gynnwys cyfres o sesiynau tywys oddi mewn i’n gwarchodfeydd natur rhanbarthol ynghyd â rhaglen gyhoeddus rad ac am ddim o weithdai a sgyrsiau wedi’u hysbrydoli gan y comisiynau hyn ac sy’n canolbwyntio ar themâu ecoleg a’r dirwedd.
  • Agor Drysau i'r Awyr Agored / Opening Doors to the Outdoors a arweinir gan Y Bartneriaeth Awyr Agored / The Outdoor Partnership Bydd y prosiect hwn yn cynnig pum rhaglen ymyrraeth antur dros 10 wythnos ar draws Canolbarth Cymru, gan dargedu grwpiau sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, sydd â lefelau isel o weithgarwch corfforol, cyflyrau iechyd cronig ac anghenion dysgu ychwanegol. Bydd yn rhoi’r sgiliau i weithwyr proffesiynol awyr agored, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn iddyn nhw fynd â grwpiau’n ddiogel i leoliad awyr agored gan arwain at well iechyd a lles corfforol a meddyliol i gyfranogwyr yn ogystal â lleihau eu dibyniaeth ar wasanaethau iechyd, gwella eu cyswllt â natur, a lleihau eu hynysu cymdeithasol.
    .

Ychwanegodd Gareth O’Shea:

“Mae pobl ac amgylchedd Cymru yn wynebu heriau niferus sy’n cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywyd a llesiant. Mae ein blaenoriaethau grantiau newydd yn ategu blaenoriaethau ein Datganiad Ardal ac yn ein galluogi i annog dulliau cydweithredol newydd er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn sy’n wynebu gwahanol ardaloedd o Gymru, a hynny ar lefel leol.
“Mae’r gwaith hwn yn rhan o ddarlun ehangach, sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15), sy’n cydnabod sut mae popeth byw yn gyd-ddibynnol a sut mae natur yn cefnogi pob agwedd ar ein bywydau ac yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur parhaus.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r prosiectau er mwyn deall sut mae’r rhaglen grant yn cyflymu’r newid rydym yn awyddus i’w weld yn digwydd, er mwyn cynyddu gwytnwch hinsawdd a natur.
“Drwy weithio gydag eraill, gallwn beri bod newid yn digwydd.”

I gael mwy o wybodaeth am y Rhaglen Grantiau Cymunedau Cryf a grantiau eraill a ddyfarnwyd, ewch i wefan CNC yma Cyfoeth Naturiol Cymru / Grantiau a ddyfarnwyd (naturalresources.wales)