Sut y gallwch chi ddiogelu a mwynhau dyfroedd mewndirol

Wrth i'r tywydd gynhesu ac wrth i bobl ymweld ag afonydd, llynnoedd ac aberoedd, mae'n amser da i siarad am y pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i gadw'r dyfroedd mewndirol hyn yn iach.

Efallai eich bod wedi clywed am y Cod Cefn Gwlad, ond oeddech chi’n gwybod bod pedwar cod ar gyfer gweithgareddau dŵr hefyd?

  • Cod y Glannau
  • Y Cod Pysgota
  • Y Cod Canŵio
  • Y Cod Nofio yn y Gwyllt

Mae'r codau hyn yn rhoi'r wybodaeth berthnasol i chi i'ch helpu i ofalu am yr amgylchedd, parchu eraill a chadw'n ddiogel pan fyddwch mewn dŵr neu’n agos at ddŵr.

Diogelu’r amgylchedd

Bydd dilyn y cyngor yn y codau yn helpu i ofalu am fywyd gwyllt a chadw dyfroedd mewndirol yn iach i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud i ddiogelu dyfroedd mewndirol rhag difrod, aflonyddwch a llygredd pan fyddwch ar ymyl y dŵr neu'n mynd i mewn i'r dŵr:

  • Cadwch at lwybrau a chreigiau moel i atal erydiad ar y lan
  • Gofalwch beidio â difrodi planhigion yn y dŵr ac o'i amgylch
  • Peidiwch â gadael unrhyw olion o'ch ymweliad – ewch â sbwriel a baw cŵn gyda chi
  • Cymerwch ofal i beidio â dychryn pysgod, adar ac anifeiliaid eraill
  • Ceisiwch osgoi ardaloedd o ddŵr lle mae pysgod yn dodwy eu hwyau
  • Gwiriwch, glanhewch a sychwch eich cyfarpar i atal ymlediad rhywogaethau goresgynnol

Os ydych chi'n mynd i nofio yn y gwyllt, canŵio neu bysgota, mae gan bob cod gyngor ychwanegol sy'n benodol i'ch gweithgaredd a fydd yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd a diogelu dyfodol eich gweithgaredd.

Gwybod i ble y gallwch fynd

Mae dyfroedd mewndirol yn eiddo preifat sy'n golygu bod angen i chi gael caniatâd y tirfeddiannwr i fynd i mewn i'r dŵr.

Os ydych chi'n newydd i weithgaredd, gall y sefydliadau hyn eich helpu i ddarganfod i ble gallwch fynd:

Canŵio, caiacio a phadlfyrddio ar eich traed

Nofio yn y gwyllt

Pysgota

Bod yn ddiogel yn y dŵr ac o’i amgylch

Gall gwybod sut i ddelio â dŵr agored oer sy'n symud yn gyflym achub eich bywyd, p'un a ydych yn bwriadu mynd i mewn i'r dŵr neu’n disgyn i ddŵr ar ddamwain. Mae gan y codau ar gyfer gweithgareddau dŵr gyngor i’ch cadw chi a'r rhai sydd gyda chi'n ddiogel.

Gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau diogelwch dŵr ar wefan y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau.

Mae Mentro’n Gall yn eich annog i baratoi'n dda gyda'r offer, yr wybodaeth a'r sgiliau cywir ar gyfer eich gweithgaredd ac yn darparu rhestrau o gyfarpar a chyngor diogelwch ar gyfer:

Mae'n bwysig gwybod beth i'w wneud os byddwch yn gweld rhywun mewn trafferth yn y dŵr. Yn hytrach na rhoi eich hun mewn perygl, mae'n well ffonio 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer dŵr mewndirol neu Wylwyr y Glannau os ydych ar yr arfordir.

Rhannu’r safle

Sut bynnag yr ydych am fwynhau'r dŵr, cofiwch barchu eraill a rhannu'r safle. Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas a rhowch ddigon o le i bobl eraill. Peidiwch ag achosi gormod o sŵn ac os oes angen i chi newid eich dillad, dewch o hyd i rywle lle gallwch wneud hynny allan o’r golwg.

Darllen y codau

Gallwch ddod o hyd i'r codau gweithgareddau dŵr yn adran Teulu'r Cod Cefn Gwlad ar ein gwefan:

Ffynonellau eraill o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am fwynhau dyfroedd mewndirol mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy, gwyliwch fideo ar fwynhau afonydd a llynnoedd Cymru neu ar archwilio ceunentydd mewn grwpiau ar dudalen Vimeo Eryri Bywiol.

I ddod o hyd i daith gerdded ar hyd afon neu o amgylch cronfa ddŵr yn un o'r lleoedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofalu amdanynt, ewch i adran Ar Grwydr ein gwefan.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru