Mae afonydd a llynnoedd Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl o bob gallu ganŵio. Helpwch i ddiogelu’r adnodd hwn ar gyfer y dyfodol:

  • parchwch bobl eraill
  • diogelwch yr amgylchedd naturiol
  • mwynhewch a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

Parchwch bobl eraill

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys cyngor pwysig ynglŷn â’r modd y dylid defnyddio cefn gwlad yn gyfrifol. Cofiwch ymgyfarwyddo ag ef cyn mentro allan, a chofiwch gadw ato bob amser. 

Peidiwch â thresmasu. Mae yna ardaloedd lle mae gan y cyhoedd hawl i fynd arnynt, yn cynnwys llwybrau cyhoeddus, tir mynediad a rhai dyfroedd sydd â hawliau mordwyo. Fodd bynnag, y tu hwnt i’r ardaloedd hyn peidiwch â chymryd yn ganiataol fod gennych hawl i fynd ar unrhyw dir neu ddŵr heb ganiatâd y perchennog. 

Ystyriwch yr effaith a gaiff parcio eich cerbydau. Trefnwch gerbyd gwennol fel bo angen. Gwnewch drefniadau gydag eraill fel na chaiff ffyrdd cefn gwlad eu llenwi â cherbydau, a chofiwch ddadbacio a newid gan gadw pobl eraill mewn cof.

Peidiwch â difrodi ffensys na waliau, yn enwedig os byddwch yn codi cychod drostynt.

Cofiwch y bydd pobl eraill, o bosibl, yn gwneud gweithgareddau eraill yn y dŵr neu yn y cyffiniau (fel pysgota, cerdded ceunentydd neu nofio). Pan fo angen, stopiwch, siaradwch â nhw a newidiwch eich trefniadau’n unol â hynny.

Byddwch yn ofalus o’r cychod eraill sydd yn y dŵr – dilynwch ganllawiau mordwyo lleol wrth fynd heibio iddynt.

Diogelwch yr amgylchedd naturiol

Er eich mwynhad eich hun ac i ddiogelu’r amgylchedd, gwnewch yn siŵr fod digon o ddŵr yn yr afon cyn ichi ddechrau padlo ynddi.

Rhwng yr hydref a’r gwanwyn mae llawer o wahanol bysgod yn dodwy eu hwyau mewn graean yn rhannau bas yr afon. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r wyau mewn sefyllfa fregus, ac mae’n drosedd eu niweidio. Os oes modd, peidiwch â chyffwrdd y graean ar wely’r afon – ni waeth pa adeg o’r flwyddyn yw hi.

Peidiwch â niweidio planhigion yn/o amgylch y dŵr. Os byddwch yn archwilio dyfroedd gwyllt neu’n cludo offer, cadwch at lwybrau cydnabyddedig neu greigiau noeth, oherwydd mae’r glannau’n erydu’n hawdd a gallant fod yn gartref i rywogaethau bregus.

Yn ddelfrydol, camwch allan o’ch cwch mewn dŵr dwfn ar graig noeth neu ar lecyn solet o’r lan – dyma’r dull lleiaf niweidiol o ddod allan o’r dŵr.

Peidiwch â dychryn adar, da byw nac anifeiliaid eraill – efallai y byddant yn dychryn yn hawdd. Os bydd eich presenoldeb yn cynhyrfu’r anifeiliaid, symudwch oddi wrthynt yn dawel.

Cofiwch y gall adar nythu ar ynysoedd, glannau a graean yn ystod y gwanwyn a’r haf. Byddwch yn ofalus iawn – peidiwch â tharfu arnynt yn ystod y cyfnod hwn.

Gwirio – Glanhau – Sychu. Gall cyflwyno mathau goresgynnol o blanhigion ac anifeiliaid i gyrsiau dŵr gael effaith ddifrifol ar y cynefinoedd sydd i’w cael yno. Er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd, ewch ati i wirio, glanhau a sychu eich dillad a’ch offer yn drylwyr cyn mynd i le newydd. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalennau’r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron, neu i gael canllawiau penodol yn ymwneud â chanŵio ewch i www.canoewales.com.

Mwynhewch yr awyr agored a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

Cofiwch gadarnhau rhagolygon y tywydd ac amodau’r dŵr cyn ichi adael eich cartref ac ar ôl ichi gyrraedd. Gall amgylchedd y môr newid yn gyflym iawn oherwydd y glaw a’r llanw. Peidiwch â disgwyl iddo fod yr un fath drwy’r amser.

Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun. Ystyriwch beth yw terfynau holl aelodau eich grŵp. Byddwch yn realistig ynglŷn â’r hyn rydych yn ceisio’i wneud, dewiswch leoliadau addas a chynlluniwch fel y bo’n briodol – dylech ofyn y canlynol i chi eich hun:

  • beth yw rhagolygon y tywydd ac amodau’r dŵr?
  • a ydych yn meddu ar yr offer a’r profiad addas ar gyfer gwneud yr hyn sydd gennych dan sylw?
  • a oes gennych gynllun rhag ofn i rywbeth fynd o’i le?

Peidiwch byth â theimlo dan bwysau i badlo rhywbeth nad ydych yn barod amdano. Os nad ydych yn hollol siŵr o’ch gallu, mae’n hollbwysig ichi gael hyfforddiant priodol.

Heb yr offer priodol, gall bod mewn dŵr oer ac yn nannedd y gwynt fod yn beryglus. Gwisgwch yn addas a gwnewch yn siŵr eich bod yn abl i ymdopi â thywydd o bob math.

Os collwch offer wrth badlo, rhowch wybod i’r heddlu trwy ffonio 101, rhag ofn iddynt ddechrau chwilio am rywun.

Efallai y bydd bacteria, firysau neu algâu gwenwynig i’w cael mewn ambell le. Os bydd golwg annifyr ar y dŵr, neu os bydd yn drewi, peidiwch â mynd i mewn iddo. Ond os byddwch yn mynd i mewn i ddŵr amheus yr olwg:

  • gorchuddiwch friwiau a chrafiadau â phlasteri sy’n dal dŵr
  • gwisgwch esgidiau i’ch rhwystro rhag cael briwiau ar eich traed
  • peidiwch â llyncu’r dŵr
  • ar ôl mynd allan o’r dŵr, ymolchwch cyn gynted â phosibl, yn enwedig cyn bwyta
  • pe baech yn arddangos unrhyw symptomau, cysylltwch â’ch meddyg a dywedwch wrtho/wrthi ble yn union y buoch

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf