Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar amrywio trwydded tirlenwi Withyhedge bellach ar agor

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ôl i Resources Management UK Ltd gyflwyno cais i amrywio’r drwydded ar gyfer Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Mae'r cais (cyfeirnod PAN-025929) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer sawl newid arfaethedig i'r drwydded bresennol (EPR/MP3330WP) o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Lloegr a Chymru) 2016.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:
- Lefelau adfer terfynol diwygiedig
- Rhaglen rheoli a monitro wedi'i haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch
- Ychwanegu 50,000 tunnell o bridd gwastraff y flwyddyn ar gyfer gwaith adfer o dan weithgaredd Adfer Gwastraff newydd
- Cydgrynhoi a moderneiddio'r drwydded, gan gynnwys adolygiad o'r Amodau Gwella a'r Amodau Cyn-weithredol presennol
Mae CNC yn cydnabod y lefel uchel o ddiddordeb yn y safle hwn ac wedi ymrwymo i sicrhau proses ymgynghori dryloyw a chynhwysol. Yn ogystal â sianeli ymgynghori safonol CNC, mae ein tîm trwyddedu wedi lansio ymgynghoriad ar-lein ar dudalen ymgynghori'r sefydliad a bydd yn cynnal gweithgaredd hyrwyddo ehangach i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r ymgynghoriad a sut y gallant roi adborth.
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin, CNC:
“Rydym yn deall sensitifrwydd Safle Tirlenwi Withyhedge i’r gymuned leol ac wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb y cyfle i gael eu clywed. Mae'r ymgynghoriad hwn yn caniatáu inni gasglu barn a fydd yn helpu i lywio ein proses gwneud penderfyniadau, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan.”
Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, bydd CNC yn ystyried materion amgylcheddol a thechnegol perthnasol a godwyd gan y cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys materion fel sut y bydd allyriadau'n cael eu rheoli, effeithiau posibl ar iechyd a'r amgylchedd, a sut y bydd gwastraff a deunyddiau'n cael eu rheoli ar y safle.
Fodd bynnag, nid yw CNC yn gallu ystyried materion sy'n dod o dan gyfrifoldeb adran gynllunio'r Awdurdod Lleol. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliad y safle, traffig, effaith weledol, defnydd tir, mynediad i'r safle, ac oriau gweithredu.
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn cynnal ymgynghoriadau a'r hyn y gallwn ei ystyried a'r hyn na allwn ei ystyried, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau
Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn rhedeg am bedair wythnos, gan ddod i ben ar Ddydd Gwener, 20 Mehefin 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, gall aelodau'r cyhoedd weld dogfennau'r cais a chyflwyno eu sylwadau drwy ein hwb ymgynghori ar-lein https://bit.ly/AmrywioTrwyddedWithyhedge.
Fel arall, mae'r cais ar gael drwy gofrestr gyhoeddus ar-lein CNC. Mae copïau caled o ddogfennau'r cais ar gael ar gais ond gallant gymryd peth amser i'w prosesu a gallai fod tâl. I ofyn am gopi, cysylltwch â'n Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Ar ôl i’r broses ymgynghori a’r asesiad technegol ddod i ben, bydd CNC yn cyhoeddi p’un a fydd yr amrywiad i’r drwydded yn cael ei ganiatáu ai peidio ac yn egluro sut y mae unrhyw bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad wedi cael eu datrys.