Eogiaid Cymru yn parhau mewn argyfwng wrth i asesiad newydd ddangos fod pob afon sy'n cael ei monitro mewn perygl

Eog yn cael ei ryddhau

Mae poblogaethau eogiaid yng Nghymru yn dal i fod ar lefelau sy'n peri pryder difrifol, gyda phob prif afon lle ceir eogiaid ac a aseswyd yng Nghymru wedi'i dosbarthu fel "mewn perygl" yn yr asesiad stoc blynyddol diweddaraf.

Mae asesiad 2025 yn dangos bod eogiaid yn parhau i wynebu heriau sylweddol ledled Cymru a Lloegr. O'r 64 o brif afonydd lle ceir eogiaid a gafodd eu hasesu, amcangyfrifwyd mai dim ond dwy oedd uwchlaw eu Terfyn Cadwraethol, tra bod y mwyafrif helaeth wedi'u dosbarthu fel rhai mewn perygl.

Yng Nghymru, dosbarthwyd pob prif afon lle ceir eogiaid a aseswyd fel rhai "mewn perygl", sy'n golygu bod poblogaethau eogiaid yn parhau i fod islaw'r lefelau angenrheidiol i roi hyder yn eu cynaliadwyedd hirdymor heb ymyrraeth barhaus a mesurau adfer.

Mae'r asesiad hefyd yn cofnodi'r dalfeydd â gwialen isaf ers dechrau cofnodi ym 1956, ac yn tynnu sylw at ddirywiad parhaus un o rywogaethau mwyaf eiconig Cymru a maint yr her sy'n wynebu ymdrechion i adfer poblogaethau.

Mae eogiaid dan bwysau oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys newid hinsawdd, dirywiad cynefinoedd, rhwystrau i fudo a phroblemau ansawdd dŵr. Mae'r pwysau hyn yn effeithio ar boblogaethau drwy gydol eu cylch bywyd a chânt eu cydnabod fel rhai o'r bygythiadau mwyaf arwyddocaol i adferiad eogiaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae gwaith i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn parhau ledled Cymru trwy ystod o raglenni adfer a physgodfeydd. Drwy raglen Eogiaid ar gyfer yfory, mae tri chynllun llwybr pysgod pwysig wedi gwella mynediad at fwy na 50km o gynefin afon ar gyfer pysgod mudol. Mae prosiectau adfer cynefinoedd eraill wedi cyflawni mwy na 33km o welliannau i fynediad i bysgod ac wedi gwella mwy na 42km o gynefinoedd glannau afon.

Mae gwaith adfer pellach yn cael ei gyflawni trwy brosiectau gan gynnwys Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy a Phedair Afon LIFE. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn wedi gwella cynefinoedd afonydd, wedi cael gwared ar rwystrau i fudo, wedi plannu miloedd o goed i helpu i wella gwydnwch afonydd ac wedi agor cynefinoedd gwerthfawr i bysgod ar draws rhai o ddalgylchoedd afonydd pwysicaf Cymru.

Daw'r canfyddiadau yn fuan ar ôl cyhoeddi Strategaeth Pysgodfeydd sy’n gwrthsefyll yr Hinsawdd 2026-2031, sy'n nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer ecosystemau dŵr croyw, aberol a morol iach ac sy’n gwrthsefyll yr hinsawdd sy'n cynnal poblogaethau pysgod sy’n ffynnu a physgodfeydd a reolir yn gynaliadwy yng Nghymru.

Meddai Dr Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC:

"Mae'r darlun ar gyfer eogiaid yng Nghymru yn parhau i achosi cryn bryder. Mae pob un o'n hafonydd lle ceir eogiaid ac a gafodd eu hasesu bellach wedi'u dosbarthu fel rhai 'mewn perygl', ac mae niferoedd rhy fychan o eogiaid yn dychwelyd o'r môr i gynnal poblogaethau iach ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa honno, ac yn ei thrin gyda'r lefel haeddiannol o frys. Er nad oes ateb cyflym i rywogaeth sy'n wynebu pwysau yn y môr ac yn ein hafonydd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i adfer cynefinoedd, gwella llwybrau pysgod, cryfhau gallu afonydd i wrthsefyll a rhoi'r cyfle gorau posibl ar gyfer adferiad eogiaid.
"Mae ein Strategaeth Pysgodfeydd sy’n gwrthsefyll yr Hinsawdd newydd yn darparu fframwaith clir ar gyfer y gwaith hwn. Bydd yn ein helpu i ganolbwyntio ein hymdrechion lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf i boblogaethau pysgod, ecosystemau afonydd a'r cymunedau sy'n gofalu amdanynt."

Mae’r asesiad stoc eogiaid blynyddol yn cael ei gynhyrchu ar y cyd gan Cefas, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae ar gael ar GOV.UK. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth bwysig i lywio penderfyniadau rheoli pysgodfeydd a chadwraeth ledled Cymru a Lloegr.

Mae canlyniadau llawn yr asesiad stoc i'w gweld yma. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru