Trwydded cludo gwastraff yn cael ei ddirymu yn dilyn euogfarn am dipio anghyfreithlon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dirymu trwydded cludo gwastraff yn dilyn euogfarn am dipio anghyfreithlon ac ymchwiliad rheoleiddiol dilynol i weithgarwch sy'n gysylltiedig â gwastraff.

Arron Dixon oedd yn berchen ar y drwydded, ac fe’i gafwyd yn euog yn Llys Ynadon Abertawe ar 2 Ebrill 2026 am drosedd tipio anghyfreithlon o dan Adran 33 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ar ôl i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddwyn achos yn ei erbyn.

Yn dilyn yr euogfarn, cynhaliodd CNC ei ymchwiliad ei hun i benderfynu a oedd Mr Dixon yn dal i fod yn addas i ddal trwydded cludo gwastraff.

Cafodd Mr Dixon ei wahodd i gyfweliad dan rybuddiad. Rhoddwyd cyfle iddo esbonio ei weithredoedd a gofynnwyd iddo roi tystiolaeth i ddangos ei fod yn addas i ddal trwydded o hyd.

Canfu ymchwiliad CNC fod Mr Dixon wedi parhau i hysbysebu ac ymgymryd â gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwastraff ar ôl i'w gofrestriad fel cludwr gwastraff ddod i ben ym mis Hydref 2024. Nododd ymchwilwyr hefyd ei fod wedi bod yn gweithredu heb drwydded cludo gwastraff ddilys ac nad oedd yn gallu darparu nodiadau trosglwyddo gwastraff i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion Dyletswydd Gofal cyfreithiol.

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, daeth CNC i'r casgliad nad yw Mr Dixon yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded cludo gwastraff, a chafodd y drwydded ei dirymu ar unwaith.

Ni all Mr Dixon gasglu, cludo na gwaredu gwastraff rheoledig yn gyfreithlon mwyach. Rhaid iddo roi’r gorau i bob gweithgarwch busnes sy’n gysylltiedig â gwastraff ar unwaith, ac ni chaiff wneud cais am drwydded cludo gwastraff newydd am 12 mis o leiaf ar ôl dyddiad ei euogfarn.

Dywedodd Ed Davies, Arweinydd Tîm Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae trwyddedau cludo gwastraff yn cael eu cyhoeddi i amddiffyn yr amgylchedd, cymunedau a busnesau cyfreithlon drwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei gasglu, ei gludo a'i waredu'n gyfrifol ac yn unol â'r gyfraith."
"Nododd ein hymchwiliad nifer o fethiannau cydymffurfio difrifol, gan gynnwys gweithredu heb gofrestriad dilys fel cludwr gwastraff, a pheidio â gallu darparu'r ddogfennaeth sydd ei hangen i ddangos bod gwastraff wedi'i reoli'n gywir.
"Ni fyddwn yn goddef unigolion sy'n ceisio elwa drwy dorri'r gyfraith. Lle bydd gweithredwyr yn methu cyrraedd y safonau sy'n ofynnol ohonyn nhw ac yn tanseilio busnesau cyfrifol sy'n gweithredu yn y diwydiant gwastraff, byddwn yn cymryd camau gorfodi cadarn."

Drwy gymryd camau yn erbyn gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon, mae CNC a'i bartneriaid yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, cefnogi busnesau cyfrifol a chynnal lleoedd glân a diogel sy’n cael gofal priodol, y gall cymunedau fod yn falch ohonyn nhw.

Mae CNC am atgoffa perchenogion tai a busnesau fod ganddynt hwythau hefyd gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei drin yn gywir. Dylai unrhyw un sy'n talu am gael gwared ar wastraff wneud yn siŵr bod yr unigolyn neu'r cwmni sy'n ei gasglu yn gludwr gwastraff cofrestredig.

Rhaid i bob gweithredwr gwastraff yng Nghymru fod wedi’i gofrestru neu ddal trwydded briodol gan CNC, i sicrhau bod gwastraff yn cael ei storio, ei gludo, ei drin a'i waredu'n ddiogel, ac i helpu i amddiffyn yr amgylchedd, cymunedau lleol a busnesau cyfreithlon.

Gall pobl wirio a yw’r sawl sy’n cludo eu gwastraff wedi'i gofrestru drwy chwilio cofrestr gyhoeddus CNC.

Gall unrhyw un sy'n amau ​​​​gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod i CNC amdano drwy ddefnyddio’r ffurflen reportio ar-lein neu drwy ffonio'r llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru