Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd a Gwydnwch Cymru
Dywedodd Dominic Driver, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cenedlaethol CNC:
“Mae effeithiau’r tanau gwyllt sylweddol a welwyd yr haf hwn yn dal i’w teimlo ledled y wlad, gan fynd ymhell y tu hwnt i'r creithiau gweladwy sydd ar ôl ar y dirwedd. Mae’r effeithiau i’w gweld yn y cynefinoedd sydd wedi'u dinistrio, yn y storfeydd carbon sydd wedi lleihau, ac yn y priddoedd wedi'u difrodi a fydd yn cymryd blynyddoedd lawer i adfywio ac adfer.
"Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi adferiad byd natur a meithrin gwydnwch i'r her gynyddol hon sy’n cael ei hachosi gan y newid yn yr hinsawdd. Mae creu tirwedd sy'n gallu gwrthsefyll tanau gwyllt yn gofyn am bartneriaeth gryf rhwng y Llywodraeth, gwasanaethau tân ac achub, tirfeddianwyr, rheolwyr tir a chymunedau eu hunain.
"Mae'r heriau sy’n ymwneud â thanau gwyllt yn gymhleth, ac mae angen gweithredu cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiadau. Dim ond drwy fabwysiadu dull cydgysylltiedig o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd, atal, rheoli tir, ymateb mewn argyfwng ac adfer amgylcheddol y byddwn yn llwyddo.
"Mae'r uwchgynhadledd hon yn gyfle hollbwysig i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu, i gryfhau cysylltiadau, ac i ystyried sut gall Cymru baratoi ar gyfer y risgiau cynyddol a gaiff eu hachosi gan y newid yn yr hinsawdd, a lleihau’r risgiau hynny. A ninnau’n un o’r prif reolwyr tir ac yn gorff cadwraeth o bwys yng Nghymru, rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae'n rhaid i ni ei wneud, a byddwn yn blaenoriaethu'r gwaith pwysig hwn i helpu i wneud Cymru'n genedl sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well.”