Cynllun storio i fyny'r afon yn atal llifogydd ym Mhontarddulais
Mae bron yn sicr y gwnaeth cynllun storio dŵr i fyny'r afon ym Mhontarddulais atal llifogydd yn y dref yn ystod tywydd stormus nos Fawrth (19/10), meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Cyhoeddwyd pedwar rhybudd llifogydd yn ne-orllewin Cymru yn gynnar fore Mercher, a dangosodd mesuryddion monitro dŵr CNC yn y Cynllun Lliniaru Llifogydd fod dyfnder o 3.5m o ddŵr wedi ei storio yn y gronfa ddŵr - y swm uchaf a gofnodwyd ers i'r cynllun gael ei roi ar waith.
Agorwyd y cynllun gwerth £6.1m yn swyddogol ym mis Mawrth 2019 gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Roedd yn cynnwys adeiladu cronfa storio llifogydd i fyny'r afon o'r dref a allai storio 170,000m3 o lifddwr, sydd bron yr un swm â 70 o byllau nofio maint Olympaidd.
Meddai Gareth Richards, Arweinydd Tîm Perfformiad Asedau CNC:
"Roedd hyn yn arwydd clir bod y system - sydd wedi'i chynllunio i atal llifogydd posibl mewn 224 eiddo preswyl a 22 eiddo dibreswyl - yn gweithio'n dda ac yn golygu bod y gronfa ddŵr wedi cyfyngu llif y dŵr i'r hyn a allai fynd drwy'r dref yn ddiogel."
Darllenwch fwy am y cynllun ar ein gwefan: https://naturalresources.wales/about-us/our-projects/flood-scheme-projects/pontarddulais-flood-risk-management-scheme/?lang=cy