Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Pontarddulais

Y cynllun 

Ar gyfer y cynllun £6.1 miliwn hwn, adeiladwyd cronfa i storio dŵr llifogydd i fyny'r afon o dref Pontarddulais sy’n darparu safon amddiffyn o 1 mewn 100 mlynedd (siawns o 1% y bydd llifogydd o fewn unrhyw flwyddyn) ar gyfer 224 eiddo preswyl a 22 eiddo amhreswyl ym Mhontarddulais. 

Agorwyd y cynllun ar 14 Mawrth 2019 gan Brif Weinidog Cymru a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. 

Er mai lleihau'r perygl o lifogydd i Bontarddulais oedd prif amcan y cynllun, mae ein prosiectau rheoli perygl llifogydd hefyd yn ceisio cyflenwi buddion cymdeithasol ac amgylcheddol lluosog.

Prif Weinidog Cymru a'r Gweinidog yr Amgylchedd yn sefyll wrth ymyl plac llechen ar ddarn mawr o garreg o chwarel leol, gyda'r arglawdd llifogydd a chwm Dulais y tu ôl iddynt 

Cefndir 

Mae tref Pontarddulais, i’r gogledd-orllewin o Abertawe, wedi'i lleoli ar lannau Afon Dulais lle mae’n ymuno ag Afon Llwchwr. Mae Afon Dulais wedi'i cham-lasu drwy Bontarddulais, ac mae'r cwrs dŵr, sydd wedi'i addasu’n sylweddol, yn llifo drwy ganol y dref. 

Yn hanesyddol, bu bygythiad sylweddol o lifogydd afonol o fewn y dref oherwydd capasiti llif cyfyngedig y sianel. Mae nifer o bontydd isel sy'n cyfyngu ar y llif yn ogystal. 

Digwyddodd y llifogydd mwyaf y gellir eu cofio yn 1947, a bu dau ddigwyddiad arall yn 1963 a 1979. Digwyddodd llifogydd mwy diweddar yn 2003, 2005 a 2008. 

Ystyriwyd bod amddiffynfeydd y dref yn darparu amddiffyniad ar lefel o 1 mewn 20 mlynedd, a olygai fod siawns o 5% y byddai'r amddiffynfeydd yn cael eu gorlifo o fewn unrhyw flwyddyn. 

Roedd 224 eiddo preswyl a 22 eiddo amrheswyl mewn perygl o lifogydd yn ystod digwyddiad siawns flynyddol o 1% (1 mewn 100), a fyddai'n arwain at ganol y dref yn ei chyfanrwydd yn cael ei boddi.

Llun o ganol tref Pontarddulais yn 1979 wedi ei effeithio gan lifogydd

Yr opsiynau 

Gwnaethom edrych ar yr holl ddalgylch i sefydlu'r perygl llifogydd presennol, yr achosion, a'r datrysiadau posibl i'r broblem o lifogydd. Gwnaethom asesu pob opsiwn o ran ei fuddion a'i beryglon, gan ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost pob un. 

Gwnaethom ystyried opsiynau megis amddiffynfeydd mewn llinell (muriau llifogydd) drwy'r dref, ond gwnaethom ddiystyru'r opsiwn hwn oherwydd y byddai'r gwaith adeiladu wedi bod yn anodd iawn i'w wneud mewn lle cyfyngedig, a byddai wedi amharu'n fawr ar yr ardal leol gan fod angen gwneud addasiadau mawr i groesfannau ffyrdd a phontydd. 

Roedd opsiynau eraill y gwnaethom ystyried, ond diystyru, yn cynnwys:

  • ystyried a oedd modd gwneud newidiadau i’r defnydd o dir o fewn Cwm Dulais er mwyn lleihau dŵr ffo wyneb
  • amddiffyn eiddo unigol – byddai perchnogion eiddo unigol yn gyfrifol am weithredu mesurau amddiffyn rhag llifogydd sy'n addas ar gyfer safleoedd penodol
  • amddiffynfeydd uchel symudol – byddai adeileddau dros dro yn cael eu codi mewn ymateb i rybuddion llifogydd

Ardal storio dŵr llifogydd i fyny'r afon 

Daethom i'r casgliad mai'r opsiwn a ffefrir ar gyfer Pontarddulais oedd storio dŵr llifogydd i fyny'r afon gan y byddai'n amharu llai â phobl, byddai'n cael llai o effaith weledol, ac roedd cyfle i gynllunio buddion ecolegol yn rhan o'r cynllun. 

Mae'r ardal storio dŵr llifogydd yn cynnwys arglawdd pridd â chwlfer yn llifo trwyddo er mwyn atal faint o ddŵr sy'n llifo i lawr yr afon yn ystod storm, gan leihau'r perygl o lifogydd. Bydd y dŵr yn crynhoi tu ôl i'r arglawdd, gan foddi Cwm Dulais,  sef cwm heb lawer o ddatblygiadau, gyda ffermydd a bythynnod gwasgaredig yma ac acw ar hyd ochrau ac ucheldir y cwm. 

Gall yr ardal storio dŵr llifogydd storio 170,000m3 o ddŵr llifogydd, sydd bron cymaint â 70 o byllau nofio maint Olympaidd.

Llun o'r arglawdd y storfa ddwr llifogydd wedi'i gwblhau sy’n pontio ar draws llawr y dyffryn, gyda channoedd o goed ifanc newydd wedi’u plannu yn y blaendir

Gwaith adeiladu

Fe hedfanon ni drôn dros y cynllun yn ystod y gwaith adeiladu ac ar ôl ei gwblhau er mwyn rhoi golygfa arbennig i chi. Cymerwch olwg ar y fideo yma.

Budd cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach 

Mae'r cynllun hefyd wedi cyflawni buddion ehangach i bobl leol a bywyd gwyllt.

  • Rydym wedi creu ardal gwlyptir i'r de o'r arglawdd er mwyn gwneud iawn am golli glaswelltir corsiog lle adeiladwyd yr arglawdd. Gwnaethom hefyd symud llystyfiant o'r ardal amgylchynol er mwyn cytrefu'r ardal gwlyptir newydd
  • Defnyddiwyd rwbel/gwastraff mwynau a oedd yn bresennol ar y safle i adeiladu rhan o'r arglawdd newydd, gan waredu’r angen i ddefnyddio a mewnforio priddoedd newydd
  • Rydym wedi gwneud gwelliannau amgylcheddol i'r pwll benthyg, lle y cymerwyd deunydd gwastraff o'r hen bwll glo er mwyn adeiladu'r arglawdd, trwy greu pwll bas gwlyptir newydd (pwll bas sydd fel arfer yn ffurfio mewn man isel naturiol ar y gorlifdir)
  • Rydym hefyd wedi plannu 56 o goed brodorol a bron i 3,000 o lasbrennau a llwyni. Unwaith y byddant wedi sefydlu, bydd y coed a'r llwyni'n meddalu effaith weledol yr arglawdd yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth trwy wella amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd o fewn y cwm
  • Rydym wedi gwella'r llwybr i lyswennod i fyny’r afon trwy gael gwared â rhan uchaf argae concrid Glofa Graig Merthyr, a leolir yn union i'r de o'r arglawdd storio dŵr llifogydd newydd
  • Rydym wedi capio ardal o dir halogedig ar safle hen Lofa Graig Merthyr gan ddefnyddio deunydd a gafodd ei gloddio o ardal yr arglawdd. Mae'r ardal sydd wedi'i chapio, a oedd yn dir diffrwyth yn flaenorol, wedi ei throi erbyn hyn yn laswelltir asid, sy'n gyson â glaswelltir y comin ehangach
  • Rydym hefyd wedi adeiladu ffosydd, byndiau a rhwystrau cerrig bloc o amgylch yr ardal i geisio atal tipio anghyfreithlon a chyfyngu mynediad i feiciau modur oddi ar y ffordd ar y comin cyfagos
  • Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Common Vision i ymchwilio ymhellach i ddull arloesol (gan ddefnyddio bio-olosg a chompost) ar gyfer adfer pridd mewn hen safleoedd mwyngloddio

Hanes Glofa Graig Merthyr

Mae'r ardal storio dŵr llifogydd wedi'i hadeiladu ger safle Glofa Graig Merthyr. 

Cafodd y wythïen lo fasnachol gyntaf ei gweithio yng Nghwm Dulais yn 1849 a, rhwng 1906 a 1919, byddai rhwng 1,000 a 1,500 o dunelli o lo yn cael eu cloddio bob dydd fel arfer ac mae cofnodion yn dangos bod 495 o ddynion yn cael eu cyflogi yng Nglofa Graig Merthyr yn 1908. 

Cludwyd y glo o Lofa Graig Merthyr i Bontarddulais. Gwnaed hyn gyda cheffyl a chart i ddechrau nes prynwyd locomotif stêm yn 1890. 

Caewyd Glofa Graig Merthyr ym mis Mehefin 1978.