Llysoedd yn dirwyo dau ddyn am bysgota’n anghyfreithlon ar Afon Wysg
Cymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gamau ar ôl i ddau ddyn gael eu dal yn pysgota'n anghyfreithlon ar Afon Wysg - un o afonydd mwyaf gwarchodedig ac ecolegol werthfawr Cymru.
Cafodd y ddau eu stopio ar 7 Gorffennaf 2025 wrth bysgota ar afon Wysg; roedd ganddynt gyfarpar anghyfreithlon a brithyll marw aeddfed yn eu meddiant. Roedd yn amlwg bod y dynion yn anwybyddu rheolau trwyddedu a mesurau cadwraeth lleol.
Ymddangosodd Nathan Hughes, o Aberpennar, a Bobby Corps, o Aberdâr, gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher, 21 Ionawr 2026, i wynebu cyfres o gyhuddiadau yn ymwneud â'r digwyddiad.
Plediodd y ddau yn euog a chawsant eu dedfrydu gan yr Ynadon i dalu cyfanswm o £830 yr un, a oedd yn cynnwys iawndal i Gymdeithas Pysgota Aberhonddu am golli ffioedd aelodaeth.
Aeth swyddogion at y dynion ar ôl i CNC dderbyn adroddiadau am bysgota anghyfreithlon ger Pont Llanfaes yn Aberhonddu. Roedd swyddogion heddlu eisoes ar lan yr afon pan gyrhaeddodd Swyddog Gorfodi o CNC, ar ôl dod o hyd i'r ddau ddyn gyda gwialenni pysgota, offer pysgota a brithyll brown 11 modfedd o hyd a gymerwyd o'r afon.
Cyfaddefodd y ddau nad oedd ganddyn nhw drwyddedau pysgota â gwialen na chaniatâd i bysgota yn y darn o ddŵr sy'n eiddo i Gymdeithas Pysgota Aberhonddu.
Gweithiodd CNC a Heddlu Dyfed-Powys gyda'i gilydd i ddiogelu'r safle ac ymafael yn yr offer fel tystiolaeth.
Cadarnhaodd Cymdeithas Pysgota Aberhonddu hefyd nad oedd y dynion yn aelodau ac nad oeddent wedi cael caniatâd i bysgota ar y rhan honno o afon Wysg.
Fe wnaeth y clwb, sy'n gweithredu polisi dal a rhyddhau llym i amddiffyn stociau pysgod, dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu bywyd gwyllt yr afon er lles hirdymor y ddyfrffordd.
Dywedodd Rhodri Thomas, Swyddog Gorfodi CNC:
“Mae Afon Wysg yn Ardal Gadwraeth Arbennig, ac mae pob brithyll sy'n cael ei gymryd yn anghyfreithlon yn tanseilio'r gwaith sy'n cael ei wneud i adfer a gwarchod yr afon eiconig hon.
“Mae pysgota am frithyllod ar Afon Wysg wedi’i wahardd ers blynyddoedd lawer, oherwydd gall bachau triphlyg ac abwyd artiffisial achosi anaf dwfn i bysgod ifanc a physgod llawn dwf sy’n magu. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn stociau eogiaid bregus.
“Drwy anwybyddu’r is-ddeddfau (rheolau) hyn, nid yn unig y lladdodd y diffynyddion frithyll aeddfed ond fe wnaethant hefyd danseilio’r fframwaith rheoleiddio a gynlluniwyd i ddiogelu ein stociau pysgod.”
Mae rheolau trwyddedu ac is-ddeddfau lleol yn bodoli i amddiffyn rhywogaethau bregus fel brithyllod brown, sydd dan bwysau cynyddol oherwydd newid amgylcheddol a dirywiad yn eu poblogaethau.
Mae CNC yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn afonydd a bywyd gwyllt Cymru. Mae'r achos hwn yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth gref gyda swyddogion CNC, Heddlu Dyfed-Powys, a Chymdeithas Pysgota Aberhonddu yn gweithredu'n gyflym i atal gweithgaredd anghyfreithlon a sicrhau bod y rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd.
Anogir aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw achos a amheuir o bysgota anghyfreithlon drwy ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein. Neu cysylltwch â CNC 24/7 ar 0300 065 3000.