Datganiad: mwy o gamau gorfodi i fynd i'r afael â phryfed yn Llanelli

Llanelli pryfed pla

Yn dilyn archwiliad pellach ddydd Iau 23 Gorffennaf yn AMG Resources Limited, rydym wedi cymryd camau gorfodi ychwanegol i fynd i'r afael â'r pla pryfed sy'n effeithio ar drigolion a busnesau yn Llanelli.

Mae hysbysiad atal dros dro rhannol wedi'i gyhoeddi ar y safle gwastraff, a ganiateir ac a reoleiddir gan CNC, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r safle roi'r gorau i dderbyn rhai mathau o wastraff o 6pm ddydd Gwener 24 Gorffennaf.

Mae'r gweithredwr yn cydweithredu, ac mae hefyd yn ofynnol iddo gwblhau nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys clirio a glanhau ardaloedd ar y safle, mynd i'r afael â materion a nodwyd gan swyddogion CNC a lleihau'r risg o effeithiau parhaus.

Rydym yn deall pa mor ofidus a rhwystredig mae'r cynnydd mewn pryfed wedi bod i drigolion a busnesau yn ardal Glanymor yn Llanelli.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i ymchwilio i ffynhonnell y broblem. O'r cychwyn cyntaf, mae swyddogion wedi cynnal archwiliadau safle, monitro a gweithgareddau casglu tystiolaeth eraill i asesu nifer o ffynonellau posibl, a meithrin dealltwriaeth glir o'r achos.

Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo a chasglu rhagor o dystiolaeth, nodwyd AMG Resources fel ffynhonnell y cynnydd mewn pryfed. Mewn ymateb, gwnaethom gyhoeddi hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr wella rheolaeth gwastraff ar y safle a sicrhau bod gweithrediadau yn dychwelyd i gydymffurfio ag amodau’r drwydded.

Ni chafodd y gweithredwr hwn ei ddiystyru fel ffynhonnell bosibl ar unrhyw adeg yn ystod ein hymchwiliad. Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth ac esblygol, ac mae CNC wedi gwneud penderfyniadau rheoleiddio yn seiliedig ar y dystiolaeth a oedd ar gael ym mhob cam.

Byddwn yn parhau i fonitro'r safle'n agos, gan weithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin, ac yn asesu cydymffurfiaeth â'r hysbysiad gorfodi a'r hysbysiad atal dros dro rhannol. Byddwn yn ystyried unrhyw gamau rheoleiddio pellach sy'n angenrheidiol i amddiffyn pobl a'r amgylchedd.

Wrth edrych ymhellach ymlaen, byddwn yn parhau i fonitro'r safle hwn yn well a bydd gofyn i'r gweithredwr adolygu a gwella ei fesurau amddiffyn presennol ar y safle, i leihau'r risg y bydd hyn yn digwydd eto.

Llun o ymweliad diweddar â'r safle

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru