Dweud 'Shwmae' wrth weithle dwyieithog cryfach
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymuno â nifer cynyddol o sefydliadau i lofnodi Siarter y Gymraeg yn y Gwaith Twf.
Mae Siarter TWF a ddatblygwyd gan TUC Cymru yn cynnig fframwaith i helpu cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr i weithio gyda'i gilydd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Mae’n seiliedig ar bedair egwyddor graidd, a’i nod yw cefnogi sefydliadau i greu amgylcheddau dwyieithog croesawgar a chynhwysol.
Llofnodwyd y Siarter ar 15 Hydref, i gyd-daro â Diwrnod Shwmae Su'mae, sy'n annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg wrth gyfathrebu o ddydd i ddydd.
Wrth lofnodi'r Siarter, mae CNC yn dangos ymrwymiad cyffredin i greu gweithle dwyieithog cynhwysol lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu eu sgiliau iaith.
Meddai Ceri Davies, Prif Swyddog Gweithredol CNC:
Mae'r Gymraeg yn fwy na dim ond iaith. Mae'n rhan greiddiol o bwy ydyn ni fel cenedl ac fel sefydliad.
Mae ein pwrpas wedi'i wreiddio yn nhirweddau, cynefinoedd a chymunedau Cymru. Mae'r Gymraeg yn ein helpu i ddyfnhau ein cysylltiadau â'r bobl rydyn ni'n gweithio â nhw ac ar eu cyfer, i feithrin perthnasoedd a phartneriaethau cryfach a chryfhau ein dealltwriaeth o'r lleoedd rydym yn gofalu amdanynt gyda'n gilydd.
Rydym yn falch iawn o lofnodi Siarter Twf, a pharhau â'n hymrwymiad i greu gweithle lle gall y Gymraeg ffynnu.
Wrth siarad ar ran yr Undebau Llafur, ychwanegodd Kevin Aitken:
Fel cynrychiolwyr undebau llafur, rydym yn falch o gefnogi Siarter Twf TUC Cymru a'i hegwyddorion. Gwyddom pa mor bwysig yw hyn i'n haelodau ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â CNC i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gweithle, creu mwy o gyfleoedd i staff ddysgu a defnyddio'r iaith, a gweld y Gymraeg yn ffynnu mewn cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru.
Mae gweithleoedd yn cael eu cydnabod fel amgylcheddau allweddol ar gyfer hyrwyddo a normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg.
Meddai Daniel Goodbourn, a ymunodd â CNC ar leoliad gwaith i raddedigion y llynedd:
Un o'r pethau gorau am weithio yn CNC yw'r cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael. Rydw i wedi cofrestru mewn dosbarthiadau Cymraeg, sy'n rhoi cyfle i mi drochi fy hun yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg a magu fy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Fel sefydliad dwyieithog, rydyn ni'n cael ein hamgylchynu gan yr iaith bob dydd, ac rwy'n dysgu geirfa newydd sy'n berthnasol i'm rôl yn gyson.
Meddai Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru
Llongyfarchiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru, Unison Cymru, Prospect Wales Cymru, PCS Cymru Wales, Unite the Union Cymru, GMB Wales a'r De Orllewin ar wneud yr ymrwymiad i Siarter Twf a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu gweithle dwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
Mae gan undebau llafur rôl hanfodol wrth gyflawni cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru, gan ddiogelu a hyrwyddo hawliau Cymraeg gweithwyr fel mater o gydraddoldeb a thegwch a sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel ac yn rhydd rhag rhagfarn a beirniadaeth. Mae defnyddio'r Gymraeg yn sgil werthfawr ac ymarferol ac yn drysor y gallwn ni i gyd ei ddathlu ac ymfalchïo ynddo – yn y gwaith ac yn ein bywydau. Gall Twf helpu gyda chynllunio a sicrhau bod gweithleoedd dwyieithog cynhwysol y dyfodol yn fannau lle gall pob gweithiwr ddefnyddio eu sgiliau dwyieithog.
Mae CNC yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg ar draws ei wasanaethau a'i chymunedau.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Siarter Twf, ewch i: Twf - Siarter y Gymraeg yn y Gwaith | TUC
Darllenwch Adroddiad Iaith Gymraeg CNC yma Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2025-2026