Troseddwr mynych yn euog o badellu am aur yn anghyfreithlon

Mae dyn wedi cael ei ganfod yn euog o badellu am aur yng Nghoedwig Coed y Brenin ac wedi cael gorchymyn i dalu dirwyon a chostau o fwy na £4,700.

Ar 4 Hydref 2024 a 16 Rhagfyr 2024, cafodd Mr Brian Wright sy’n droseddwr mynych, ei ddal gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn padellu am aur yn anghyfreithlon ym Mhont Wen ar Afon Wen ger Dolgellau.

Ni chaniateir padellu am aur ar dir a reolir gan CNC oherwydd y difrod y gallai hyn ei achosi i ecosystemau afonydd. Gall y gweithgaredd aflonyddu ar welyau afonydd wrth gloddio’r graean a thynnu mwynau oddi yno, gan effeithio ar gynefinoedd y mae bywyd gwyllt yn ddibynnol arnynt.

Roedd y gweithgaredd hefyd yn drosedd o dan Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975. Er nad oes llawer o bobl yn ymwybodol o hynny, gall padellu am aur arwain at erlyniad a dedfrydu pan fo perygl o aflonyddu ar bysgod sy’n silio ac o effeithio ar gynefinoedd afonydd.

Ar ddydd Llun, 14 Medi 2026, yn Llys Ynadon Llandudno, cafwyd Mr Wright yn euog a'i ddedfrydu i dalu dirwyon o £400 a £1,500, a chostau o £2,800.

Meddai Richard Berry, Arweinydd Tîm Rheolaeth Tir CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

"Mae Coed y Brenin yn amgylchedd naturiol gwarchodedig a gwerthfawr, a gall gweithgareddau fel padellu anghyfreithlon am aur achosi difrod sylweddol i gynefinoedd afonydd ac i fywyd gwyllt.
"Rydym yn gweithio'n galed i amddiffyn yr ardaloedd hyn a byddwn yn gweithredu pan fydd troseddau yn cael eu canfod. Dylai'r achos hwn fod yn rhybudd nad yw padellu am aur yn anghyfreithlon yn cael ei ganiatáu ar dir a reolir gan CNC a gallai’r rhai sy'n anwybyddu'r rheolau wynebu erlyniad."

Nid hon oedd trosedd gyntaf Mr Wright a oedd yn gysylltiedig â phadellu am aur yn anghyfreithlon. Cafodd ei ddedfrydu hefyd am droseddau tebyg ym mis Mai 2022.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru