Hwb i blanhigyn prin y gaeaf ar ôl canfod is-safle newydd

Mae un o blanhigion prinnaf y gaeaf yng Nghymru, y grafanc-y-frân dridarn, wedi cael tymor rhagorol yn un o'i safleoedd allweddol ar Benrhyn Gŵyr, Abertawe sydd hefyd yn is-safle newydd sbon i'r rhywogaeth.

Darganfuwyd y safle newydd gan Emma Douglas, ffermwraig leol a chadwraethwraig tra roedd hi allan yn marchogaeth a chadarnhawyd presenoldeb y rhywogaeth brin yn ddiweddarach gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r grafanc-y-frân dridarn yn rhywogaeth darged Natur am Byth, rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddiogelu ac adfer 67 o fflora a ffawna Cymru sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf.

Mae Bae Abertawe – Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, sef prosiect o fewn y rhaglen, wedi bod yn monitro'r rhywogaeth ac yn rheoli ei chynefinoedd ar Benrhyn Gŵyr gyda Plantlife Cymru a Buglife Cymru ers i'r rhaglenni ddechrau yn haf 2023.

Mae’r rhywogaeth hon, sy’n perthyn i’r blodyn ymenyn, yn byw ar ymylon pyllau a phantiau yn y gaeaf, ac yn cynhyrchu blodau mân gwyn rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth. Dim ond mewn dyrnaid o safleoedd y mae i'w weld yng Nghymru, gan gynnwys Gŵyr, Sir Benfro a Sir Gaernarfon.

Mae'r planhigyn anghyffredin hwn yn dibynnu ar ffynonellau dŵr glân iawn i ffynnu ac mae ei hadau’n cael eu gwasgaru drwy gael eu cario ar garnau da byw sy'n pori. Ond o ganlyniad i newidiadau modern i borfeydd da byw a lefelau ansawdd dŵr is, mae'r rhywogaeth wedi gweld dirywiad mawr dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai Steve Dixon, Swyddog Cyflawni Prosiectau yn Buglife Cymru:

“Mae darganfod is-safle newydd fel hwn nid yn unig yn ganfyddiad cyffrous o ran bioamrywiaeth yr ardal, ond hefyd yn enghraifft fyw o sut mae ein gwaith o reoli cynefin yn helpu’r rhywogaeth i adfer.

“Mae prosiect Bae Abertawe yn cwmpasu 13 o rywogaethau targed a phob un ohonynt mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru ac mae angen rhywbeth gwahanol ar bob un i sicrhau ei fod yn goroesi.

“Ond diolch i ymdrechion diflino ac arbenigedd ein swyddogion a’n partneriaid, rydym yn gallu diogelu’r trysorau prin Cymreig hyn a sicrhau eu bod nhw yma nawr ac i’r dyfodol.”

Meddai Robbie Blackhall-Miles, Swyddog Cyflawni Prosiectau, Plantlife Cymru:

“Mae’r grafanc-y-frân dridarn ar y rhestr goch, sef ‘Mewn perygl o ddifodiant’ yn y diweddariad olaf o Restr Goch y DU o blanhigion sydd dan fygythiad. Mae pob poblogaeth unigol o'r rhywogaeth hon yn werthfawr felly mae dod o hyd i un newydd yn rhywbeth cwbl arbennig.

“Er hynny, i mi, yr hyn sy’n gwneud y rhywogaeth hon yn unigryw yw, er mwyn gofalu amdani’n iawn, mae’n bwysig bod y gymuned ffermio a’r sector cadwraeth yn cydweithio i ddarparu’r cynefin cywir a dyna’n union sy’n digwydd ar Benrhyn Gŵyr yn achos y rhywogaeth hon.”

Meddai Ali Probert, Rheolwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sy'n gofalu am ddau o'r safleoedd sy'n weddill ar Benrhyn Gŵyr sydd eisoes yn cynnal poblogaethau o'r rhywogaeth brin:

"Rydym wrth ein bodd yn gwneud ein rhan i ddiogelu dyfodol y grafanc-y-frân dridarn ar Benrhyn Gŵyr.

“Mae darganfod is-safle newydd yn dangos yn union pa mor werthfawr yw’r gwaith arolygu cydweithredol hwn, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gynnal gwaith monitro’n flynyddol yn y safleoedd yr ydym yn eu rheoli.

“Mae gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r rhywogaeth brin hon adfer a ffynnu”

Bydd monitro a rheoli'r safleoedd presennol, yn ogystal â'r is-safle newydd, yn parhau gyda chymorth partneriaid y prosiect, Plantlife Cymru, Buglife Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.