Darganfod gwyfyn prin yng Ngogledd Cymru

Gwyfyn y gors

Mae rhywogaeth brin o wyfyn wedi’i darganfod ar Benrhyn Llŷn am y tro cyntaf erioed, arwydd o’r cynefin ffyniannus sy’n cael ei gynnal yno.

Cafwyd hyd i Crambus silvella yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Geirch, Gwynedd tra roedd gweithwyr cadwraeth yn arddangos infertebratau rhyfeddol y gors galchog hon.

Mae’r gors, sy’n gartref i bob math o rywogaethau amrywiol, yn un o nifer o safleoedd sy’n cael eu monitro gan brosiect Natur am Byth! Llŷn ac Ynys Môn, menter sydd â’r nod o warchod rhai o’r rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf yng Ngogledd Cymru.

Fel rhan o Natur am Byth!, rhaglen flaenllaw yng Nghymru er cadwraeth rhywogaethau, daeth swyddogion prosiect, gweithwyr cadwraeth a selogion ynghyd yng Nghors Geirch i arolygu’r infertebratau yno.

Gosodwyd tri thrap gwyfynod, a thros un noson casglwyd 446 o wyfynod, yn cynnwys 91 rhywogaeth wahanol. Roedd 19 o’r rhain yn wyfynod Crambus silvella, y tro cyntaf erioed i’r rhywogaeth gael ei chofnodi yn yr ardal.

Mae sawl rhywogaeth brin ar y safle yn dibynnu ar ddŵr glaw alcalïaidd y gors i oroesi, gan gynnwys y pryf cannwyll Idiocera sexguttata a’r chwilen Chlaenius tristis. Mae’r math hwn o gynefin hefyd yn caniatáu i hesg gwlyb dyfu, sef unig ffynhonnell fwyd larfa’r gwyfyn Crambus silvella.

Meddai Steve Palin a Charles Aron, arbenigwyr gwyfynod lleol a ganfu’r gwyfyn:

“Y peth gwych am ddal gwyfynod yw eich bod chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i droi i fyny! Ond roedd dod o hyd i’r gwyfyn yma, sy’n un arbennig o brin, yn syrpreis arbennig.
“Mae’n ychwanegiad sylweddol at ein gwybodaeth am bryfed asgellog yr ardal ac yn dangos gwerth targedu gwaith cofnodi gwyfynod yn y mathau arbenigol hyn o gynefin cors galchog, lle mae’n amlwg bod llawer i’w ddarganfod o hyd.”

Meddai Clare Sampson, rheolwr prosiect ar gyfer RSPB Cymru: 

“Ynghyd â staff Cyfoeth Naturiol Cymru, contractwyr lleol a gwirfoddolwyr, mae Natur am Byth! wedi bod yn gweithio ar y llifolchdiroedd gwlyb calchog sy’n gartref i’r infertebratau prin hyn er mwyn eu gwneud yn fwy agored.
“Er bod llawer o gorsydd calchog wedi dioddef dros yr haf poeth a sych, fe ddaethom o hyd i niferoedd iach o’r chwilen Chlaenius tristis a’r pryf cannwyll Idiocera sexguttata yng Nghors Geirch eleni, ond at hynny, fe wnaethon ni ddarganfod y rhywogaeth ryfeddol a phrin hon o wyfyn.
“Mae o leiaf 80 y cant o fawndiroedd y DU wedi’u colli neu eu difrodi, sy’n golygu bod rhywogaethau prin sy’n dibynnu ar gynefinoedd penodol fel hyn yn ei chael hi’n anodd goroesi. Ond o’u rheoli’n ofalus, gall y corsydd calchog pwysig hyn gael eu cynnal fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ddal ati i wneud darganfyddiadau newydd”.

Mae’r gwaith monitro a wneir yng Nghors Geirch yn un o nifer o weithgareddau a drefnir o dan Natur am Byth! sydd â’r nod o gysylltu pobl â byd natur. Gall y rhai sydd â diddordeb gysylltu â’r rhaglen drwy naturambyth@cyfoethnaturiol.cymru a dod o hyd i wybodaeth am brosiectau, proffiliau rhywogaethau a chyfleoedd i wirfoddoli.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru