Gwahodd y cyhoedd helpu i lunio dyfodol Coedwig De Gwydir
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd y cyhoedd i rannu eu barn ar y Cynllun Adnoddau Coedwig (CAC) drafft ar gyfer Coedwig De Gwydir.
Mae'r dogfennau drafft a baratowyd ar gael i'w gweld ar Ganolfan Ymgynghori CNC. Mae'r rhain yn cynnwys map y lleoliad, crynodeb o amcanion, map y weledigaeth hirdymor, y strategaeth rheoli a thorri coed, a gwybodaeth am fathau o goedwigoedd ac ailstocio. Oherwydd maint y deunydd, dim ond ar-lein y gellir cael mynediad at y dogfennau.
I gefnogi'r broses ymgysylltu, bydd CNC yn cynnal dwy sesiwn galw heibio cyhoeddus lle gall ymwelwyr siarad â swyddogion CNC, gofyn cwestiynau, a thrafod y cynigion drafft:
- Dydd Iau 19 Mawrth 2026, 2.00–7.00pm – Neuadd Goffa (Yr Hen Ysgol), Penmachno, Betws y Coed, Conwy, LL24 0UR
- Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 2.00–7.00pm – Pafiliwn Cymunedol Dolwyddelan, y tu ôl i Ysgol Dolwyddelan, Dolwyddelan, Conwy, LL25 0SZ
Dywedodd Mike Indeka, Uwch Swyddog ar gyfer Gweithrediadau Coedwig:
“Mae adolygu Cynllun Adnoddau Coedwig De Gwydir yn rhan bwysig o’n gwaith parhaus, ac rydym am sicrhau bod y cyhoedd yn cael y cyfle i edrych ar y cynigion drafft a rhannu eu barn gyda ni’n uniongyrchol. Rydym yn croesawu unrhyw adborth a chwestiynau.”
Gall pobl gyflwyno sylwadau neu ofyn am ragor o wybodaeth tan ddydd Iau 2 Ebrill 2026.
Gellir rhoi adborth mewn sawl ffordd:
- Ar-lein: drwy Hwb Ymgynghori CNC
- Yn bersonol: yn y sesiynau galw heibio
- Drwy e-bost:, mike.indeka@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, jake.burton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
- Drwy’r post: Jake Burton, Swyddfa CNC Gwydir Uchaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0PN.