Gwahoddiad i’r cyhoedd i ddweud eu dweud ar gynlluniau am ddyfodol Coedwig Afan

Pobl sy'n cerdded yng Nghoedwig Afan

Mae CNC yn gwahodd pobl i ddweud eu dweud am sut caiff Coedwig Afan ei rheoli yn y dyfodol.

Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig drafft yn amlinellu sut mae CNC yn bwriadu rheoli Coedwig Afan dros y 10 mlynedd nesaf, gan gydbwyso cynhyrchu pren cynaliadwy ag adferiad natur, gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd, a hamdden.

Mae’n cwmpasu dalgylchoedd Afan, Pelenna, Corrwg a Drysiog, ac yn amlinellu ystod o gynigion i helpu i greu tirwedd goedwig fwy gwydn ac amrywiol.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 1 a 30 Tachwedd a chynhelir sesiwn galw heibio i’r cyhoedd ar 11 Tachwedd er mwyn i bobl ddysgu mwy a rhannu eu barn.

Dywedodd Andrew Hood, Uwch Swyddog Cynllunio Coedwigoedd i CNC:

“Mae Coedwig Afan yn ased amgylcheddol a hamdden pwysig i dde Cymru ac mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gymunedau lleol, ymwelwyr a busnesau helpu i siapio ei dyfodol.
“Bydd eu gwybodaeth a’u hadborth yn helpu i sicrhau bod y cynllun terfynol yn adlewyrchu anghenion y rhai sy’n defnyddio, yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r goedwig, gan hefyd ein helpu i greu tirwedd goedwig fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r cynllun yn cynnwys cynigion ar gynyddu amrywiaeth o fewn y goedwig, gwella cysylltedd ecolegol, adfer ardaloedd o fawndir a choetir hynafol, rheoli rhywogaethau goresgynnol, gwella cynefinoedd yr afonydd a diogelu adnoddau dŵr a phridd.

Mae hefyd yn cydnabod rôl bwysig y goedwig yn cefnogi cymunedau a busnesau lleol, darparu pren cynaliadwy a chynnal arlwy hamdden Afan sydd o arwyddocâd cenedlaethol, gan gynnwys ei rhwydwaith helaeth o lwybrau beicio mynydd.

Gall pobl weld y dogfennau ymgynghori a chwblhau’r ymgynghoriad ar-lein.

Cynhelir y sesiwn galw heibio gyhoeddus ar 11 Tachwedd 2026, rhwng 1pm a 7pm, yn Ystafell y Bwrdd, Canolfan Ymwelwyr Afan, Cynonville, Port Talbot, SA13 3HG.

Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael dwy gydol y sesiwn i ateb cwestiynau a thrafod y cynigion.

Gallwch anfon unrhyw gwestiynau at frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru