Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau pellach i adfer afon Kenson ar ôl cael gwared â chored

Afon fach, cul a syth â gordyfiant ar y glannau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd y cyhoedd i gyfrannu i drafodaethau ar gynigion i adfer rhan o afon Kenson ar Ystad Ffwl-y-mwn ger Llancarfan ym Mro Morgannwg.

Mae’r ymgynghoriad cyn ymgeisio yn agor ar 19 Chwefror 2026 a bydd yn parhau tan 19 Mawrth 2026, gan roi cyfle i drigolion lleol, cymunedau, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid ddysgu mwy am y prosiect a rhoi adborth cyn cyflwyno’r cais cynllunio.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, bydd CNC yn cynnal digwyddiad i’r cyhoedd alw heibio yn Neuadd Gymunedol Llancarfan ar 2 Mawrth, rhwng 1pm a 6pm, lle bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i ateb cwestiynau a thrafod y cynlluniau arfaethedig.

Mae afon Kenson wedi cael ei haddasu’n sylweddol dros y ganrif ddiwethaf, gan gynnwys gwaith sythu a cholli ystumiau naturiol.

Mae’r newidiadau hyn wedi lleihau amrywiaeth cynefinoedd, wedi datgysylltu’r afon oddi wrth ei gorlifdir, ac wedi cyfrannu at fethiant y corff dŵr i gyrraedd Statws Ecolegol Da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Nod y cynigion i wneud gwaith adfer ar hyd 2.5 km o’r afon yw:

  • Adfer llwybr dolennu naturiol yr afon
  • Adfer prosesau geomorffolegol naturiol
  • Ychwanegu cynefin newydd i’r afon am tua 450 metr
  • Gwella ansawdd dŵr a chludiant gwaddodion
  • Cynyddu cysylltedd gorlifdiroedd ar draws 20 hectar
  • Gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau, gan gynnwys llysywod, dyfrgwn, llygod y dŵr, infertebratau a phlanhigion dyfrol
  • Cynorthwyo ymdrechion i adfer natur a dad-ddofi tir yn ehangach ar Ystad Ffwl-y-mwn

Mae’r prosiect yn cynrychioli’r cam nesaf o welliannau yn dilyn cael gwared â Chored Kenson yn llwyddiannus yn haf 2025, a alluogodd pysgod i symud yn haws ar hyd yr afon ar unwaith ac adferodd gysylltedd i fyny’r afon.

Dywedodd Nathalie Nicolaus, Cynghorydd Rhaglen Adfer Afonydd CNC:

“Mae Prosiect Adfer Afon Kenson yn gyfle arwyddocaol i adfer prosesau naturiol yr afon, gwella bioamrywiaeth leol, ac ailgysylltu’r gymuned ag afon iachach a mwy gwydn.
“Mae cael gwared ar y gored eisoes yn gam mawr tuag at wella cysylltedd ecolegol o aber afon Hafren i fyny’r afon, gan gefnogi rhywogaethau allweddol fel brithyllod môr, llyswennod a llysywod pendoll yr afon yn uniongyrchol.
“Rydym yn annog trigolion a rhanddeiliaid i edrych ar ba welliannau pellach rydym yn eu cynnig ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Dewch i’r sesiwn galw heibio, a rhannwch eich barn cyn i ni gwblhau’r cais cynllunio.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ymatebion yn cael eu hadolygu a’u hystyried wrth i’r cais cynllunio terfynol gael ei baratoi i’w gyflwyno yn ddiweddarach yn 2026. Yn amodol ar gymeradwyo’r cais cynllunio, disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn haf 2026.

Bydd manylion llawn y cynlluniau a sut i ymateb ar gael o 19 Chwefror ar dudalen we Adfer Afon Kenson CNC.

Mae CNC yn gweithio’n agos gydag Ystad Ffwl-y-mwn ac amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys tirfeddianwyr lleol, ffermwyr tenant, Tarmac, y Grid Cenedlaethol, Cyngor Bro Morgannwg ac arbenigwyr treftadaeth Heneb, i ddatblygu a chyflawni’r prosiect.

Lluniwyd y cynllun gan JBA Consulting ac mae’n cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol, gan gynnwys gwaith adfer afonydd, adferiad mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.