Adfer mawndir yn talu ar ei ganfed i natur
Wrth i ran gyntaf Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) gael ei chynnal yn Kunming, China, mae prosiect partneriaeth i adfer Corsydd Môn yn dangos arwyddion gwych o lwyddiant gyda bywyd gwyllt prin yn dychwelyd i ymgartrefu ar y corsydd, yn ôl arsylwadau a wnaed gan arbenigwyr ym meysydd planhigion a mawndiroedd.
Mae gan Ynys Môn dair Gwarchodfa Natur Genedlaethol - Cors Erddreiniog (y fwyaf), Cors Bodeilio a Chors Goch. Gyda'i gilydd maent yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Corsydd Môn a nhw yw’r ehangder mwyaf ond un o ffeniau yn y Deyrnas Unedig ar ôl East Anglia.
Prosiect LIFE+ Corsydd Môn a Llŷn oedd y prosiect adfer gwlyptir mwyaf ei ddydd yng Nghymru. Enillodd y wobr Prosiect Natur Gorau allan o 600 o brosiectau LIFE ledled Ewrop - cyflawniad enfawr i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac i Gymru.
Y prif nod oedd adfer neu wella 750 hectar o gynefinoedd ffen prin iawn, sy'n dibynnu ar gydbwysedd dŵr prin a ffynhonnau calchfaen sy'n llifo i'r mawn.
Mae'r gwaith adfer mawndir a wnaed yn Nghorsydd Môn yn mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd sydd ar frig y trafodaethau yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP 15) a Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) eleni.
Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a lansiwyd yn 2020, yn dysgu o’r gwaith adfer yn y gorffennol i sicrhau bod Cymru'n gweithredu er budd natur a’r hinsawdd.
Mae rhywogaethau prin sydd mewn perygl fel rhawn-yr-ebol bach (dwarf stonewort), chwysigenddail mawr (greater bladderwort), gele feddyginiaethol (medicinal leech) a’r fursen ddeheuol (southern damselfly) wedi'u canfod eleni mewn niferoedd da a'r mwyafrif mewn lleoedd newydd ar ardaloedd adfer a rheoli Corsydd Môn.
Er iddynt gael eu hadnabod fel Corsydd Môn, ffeniau ydynt mewn gwirionedd. Mae ffeniau yn fath arbennig a phrin o fawndir. Mae corsydd (bogs) yn cael eu bwydo o ddŵr glaw yn unig, tra bod ffeniau (fens) hefyd yn cael eu bwydo gan nentydd a dŵr o’r ddaear.
Mae dŵr llawn mwynau o'r creigiau calchfaen sy'n amgylchynu Corsydd Môn yn draenio iddynt, a'r cymysgedd hwn o fwynau alcalïaidd ac asidig sy'n eu gwneud mor arbennig, ac mor brin.
Maent yn creu'r amodau perffaith ar gyfer llu o blanhigion ac anifeiliaid prin, llawer ohonynt yn blanhigion corsydd sy'n tyfu'n agos gyda'i gilydd fel brwyn, hesg neu flancedi o flodau gwyllt.
Dywedodd Peter Jones, o Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC:
“Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd rheoli ffeniau. Mewn cyflwr da, mae ffeniau'n cloi carbon a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i'r atmosffer gan gyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae adfer mawndir a rheoli ffeniau yn gynaliadwy yn un o chwe cham gweithredu sydd o flaenoriaeth o fewn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a'r pump arall yw erydiad mawn, draenio mawn, rheoli mawndiroedd yr ucheldir, mawndiroedd wedi’u coedwigo a mawndiroedd wedi'u haddasu’n sylweddol. Trwy fynd i’r afael â’r chwe maes yma bydd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.”
Yn 2008, cyflymodd y gwaith i adfer Corsydd Môn trwy brosiect LIFE + Corsydd Môn a Llŷn. Ariannwyd y prosiect gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd ynghyd ag arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Derbyniwyd grant pellach gan yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn 2017, a chan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn 2020. Mae'r cyllid hwn yn ogystal â'r rheolaeth barhaus wedi ei gwneud hi'n bosibl i'r safleoedd hyn barhau i gefnogi'r bywyd gwyllt gwych a welwn heddiw.
Gwnaethpwyd nifer o weithgareddau i adfer y ffeniau gan gynnwys cael gwared â thyfiant ffen trwchus a oedd wedi tyfu'n wyllt, agor tir ar gyfer pori, cael gwared â phrysgwydd, creu ‘crafiadau’ neu byllau dŵr artiffisial, gwella'r lefelau trwythiad, ac adfer ffynhonnau a nentydd. Mae dŵr calchog bellach yn llifo yn ôl ar draws cynefin ffen cyfoethog yn hytrach na chael ei golli o fewn draeniau.
Gwelwyd bod y ‘crafiadau’ neu’r pyllau dŵr bach sy'n dynwared hen doriadau mawn traddodiadol yn dda iawn i blanhigion ffen. Mae pyllau syml yn darparu ardaloedd newydd o gynefin agored i rywogaethau prin ymsefydlu.
Er enghraifft, cyn pen 12 mis roedd rhawn-yr-ebol wedi ymsefydlu yn y gwlyptiroedd a deng mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn gweld ystod o rywogaethau prin ac anghyffredin.
Dywedodd Nigel Brown o Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon:
“Yn ystod ymweliad diweddar â Chors Bodeilio, fe wnaeth rheolaeth, ansawdd ac amrywiaeth y cynefinoedd o fewn y ffen gymaint o argraff arnaf, gan gynnwys gweld hesg anghyffredin, chwysigenddail mawr a rhawn-yr-ebol bach prin yn ymsefydlu’n helaeth yn y pyllau bach.”
Dywedodd Emyr Humphreys, Rheolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog a Chors Bodeilio ar gyfer CNC:
“Mae pori merlod a gwartheg yn hanfodol ar gyfer rheoli’r ffeniau yn y tymor hir ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y berthynas sydd gennym â’n ffermwyr cyfagos yn eu cymorth i gyflawni hyn. Mae pori yn helpu i gadw'r llystyfiant yn agored gan ganiatáu lle i'r rhywogaethau prin hyn ffynnu."
Dywedodd Chris Wynne, Uwch Reolwr Gwarchodfa i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
“Mae Cors Goch yn lle mor arbennig - mae wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Natur, hwn oedd ein gwarchodfa natur gyntaf a’r rheswm y daeth yr Ymddiriedolaeth i fodolaeth ym 1963.
"Mae edau sy’n cysylltu’r naturiaethwyr hynny a archwiliodd y gwlyptir yn niwedd y 1950au, hyd at y deng mlynedd diwethaf a'r gwaith mawr sydd wedi’i wneud ar y safle.
"Mae hyn yn parhau heddiw, diolch i arian gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC.
"Mae tegeirianau’r gors a oedd mor annwyl gan y naturiaethwyr Cymreig hynny yn dal i fod yn bresennol, yn cael eu mwynhau gan ymwelwyr ac yn cael cyfleoedd newydd i ffynnu diolch i raddau helaeth i ymdrechion llawer o wirfoddolwyr… a chriw o wartheg llwglyd!”
Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a chaiff ei harwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi ystod o weithgareddau adfer ledled Cymru i sicrhau bod gwaith adfer mawndir pellach yn cael ei wneud y gaeaf hwn er mwyn lleihau allyriadau carbon a dod â bywyd gwyllt yn ôl i'r lleoedd arbennig hyn.