Mawn dan Sylw yng Nghymru!
Mae Cymru yn dangos sut y gall adfer mawndiroedd ddarparu manteision mawr i'r hinsawdd, natur a chymunedau, wrth iddi gynnal cynhadledd tri diwrnod i gynrychiolwyr o’r DU yn Abertawe, gan ddechrau ar 9 Mehefin 2026.
Bydd cynhadledd ‘Mawndiroedd dan Bwysau’ Rhaglen Mawndiroedd y DU yr IUCN yn canolbwyntio ar yr heriau o ran cadw carbon yn ein mawndiroedd a'r llwyddiannau hyd yn hyn. Mae dull strategol effeithiol Cymru o adfer mawndiroedd yn cael ei arwain gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (RhWGF), a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a'i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, a fydd yn agor y digwyddiad:
Mae’n bleser croesawu cynhadledd yr IUCN i Gymru – gwlad sydd â thraddodiad cryf o ymchwilio i fawndiroedd a’u hadfer. O'n corsydd o bwys rhyngwladol i'r gwaith adfer sydd ar y gweill ledled Cymru, mae mawndiroedd yn dangos pam mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn bwysig. Mae ein mawndiroedd yn gorchuddio dim ond 4% o'n tir, ond maen nhw'n storio tua 30% o'n carbon tir ac maen nhw ymhlith ein hasedau naturiol pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth, gweithredu i wrthsefyll newid hinsawdd, a lliniaru risg llifogydd a thân.
Ychwanegodd Mannon Lewis, arweinydd Prosiectau Strategol CNC ar gyfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:
Mae brys yng Nghymru i fynd i’r afael â’r 90% o fawndir sydd wedi’i ddifrodi, oherwydd bod mawndiroedd sydd wedi’u difrodi yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol. Arweiniodd pum mlynedd llwyddiannus cyntaf y Rhaglen, a gyflawnwyd gyda phartneriaeth Adfer Mawndir Cymru, at adfer dros 3,600 hectar a threblu'r targedau fel yr amlinellwyd yn ein cynllun Gweithredu ar Fawndiroedd Cymru 2025-2030. Mae’r gynhadledd IUCN hon, sy’n edrych ar bwysau a allai herio’r nodau hyn, yn amserol i ni yng Nghymru ac ar draws y DU.
Mae pwysau ar fawndiroedd yn cynnwys datblygiadau, rheoli tir, a newid hinsawdd. Mae agweddau eraill a drafodir mewn gweithdai yn y gynhadledd yn cynnwys data a monitro, tanau gwyllt, ymgysylltu â chymunedau a rheolwyr tir, corsamaeth, cyllid preifat, a mawn garddwriaethol.
Dywedodd Emma Hinchliffe, Cyfarwyddwr Rhaglen Mawndiroedd y DU yr IUCN:
Mae ein cynadleddau wedi bod yn fan cyfarfod blynyddol i gymuned mawndiroedd y DU ers dros 15 mlynedd bellach. Mae'n hyfryd bod yn ôl yng Nghymru am y trydydd tro i ddathlu'r gwaith cadwraeth cadarnhaol sy'n digwydd yng Nghymru ac i edrych ar yr heriau sy’n wynebu mawndiroedd Cymru. Rwy'n hyderus y bydd trafodaethau dros y dyddiau nesaf yn tynnu sylw at y rhwystrau ac yn nodi atebion i adfer mawndiroedd y DU.
Bydd dros 400 o gynrychiolwyr yn ymgynnull ym Mhrifysgol Abertawe, ar ymweliadau safle rhanbarthol, yn ogystal ag arlein ar gyfer y diwrnod cyntaf. Bydd y mynychwyr yn ymweld â safleoedd adfer yng Nghors Crymlyn, Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ger y Tywi, Cors Caron, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Mynydd y Rhigos, Comin Dowrog yn Sir Benfro, a Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin.
Un o nodweddion arbennig y gynhadledd yw'r gefnogaeth gan Brosiect Corsydd Crynedig LIFE CNC, gyda safle adfer Cors Crymlyn gerllaw yn chwarae rhan ganolog yn ymweliadau'r gynhadledd.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Corsydd Crynedig LIFE, Gareth Thomas:
Bydd pobl Abertawe’n gyfarwydd â safle hynod ddiddorol Cors Crymlyn, sy’n gyfoethog o ran ei fioamrywiaeth, ac sydd wedi wynebu heriau adfer niferus, gan gynnwys bomiau sydd heb ffrwydro o’r Ail Ryfel Byd. Mae Cynhadledd yr IUCN yn gyfle gwych i gynrychiolwyr, o bob cwr o'r DU a thu hwnt, weld safleoedd Corsydd Crynedig LIFE yng Nghors Crymlyn a Chomin Dowrog. Ar ymweliad â safle Dowrog, rydym hefyd yn falch o gydweithio â Dr Beynon’s Bug Farm, sydd ar flaen y gad o ran gwarchod a hybu rhywogaethau prin y corsydd fel britheg y gors.
Gall y cyhoedd yng Nghymru adnabod mawndir lleol a dilyn cynnydd ei adferiad drwy Fap Data Mawndiroedd Cymru. Gellir dod o hyd i enghreifftiau o dros 100 o gamau adfer posibl yn rhestr termau adfer mawndiroedd y RhWGF. Mae cyflwyniad i fawndir a pham mae angen ei adfer i'w gael yn y fideos cyflwyniadol byr hyn, 'Stori Mawndir Cymru' a 'Mawndiroedd: y da, y drwg a'r tirfeddygon'. Gweler hefyd fideo o 'Iolo Williams yng Nghors Crymlyn'.