Cyfle’n Cnocio: Gwersyll Coedwigaeth Ceinws ar gael am brydles hirdymor

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd datblygwyr i gyflwyno cynigion arloesol ar gyfer prydles hirdymor ar Wersyll Coedwig Ceinws ym Mhowys. Mae'r safle unigryw a hanesyddol hwn yn cynnig cyfle gwych i ddatblygwr greu prosiectau arloesol all gyfrannu at welliannau i'r amgylchedd a'r economi leol yn ogystal a’r ddarpariaeth gymunedol.

Mae lleoliad unigryw'r gwersyll a'i hanes cyfoethog yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer ailddatblygu. Gyda phrydles hirdymor, mae'r safle’n gynfas gwag i ddatblygwyr i ddod â'u gweledigaeth yn fyw.

Rhannodd Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach CNC, ei chyffro am y safle: “Mae’r prosiect hwn yn gam sylweddol yn y gwaith o ailddatblygu’r hen wersyll coedwigaeth. Y tu hwnt i incwm rhent, mae’n rhaid i gynigion llwyddiannus ddangos manteision clir i’r gymuned leol, yr amgylchedd a’r economi.”
“Mae’r safle’n aeddfed ar gyfer ailddatblygu ac mae’n fan delfrydol i syniad da flaguro a ffynnu.
“Mae’r fenter hon yn amlygu ymrwymiad CNC i ddatblygu cynaliadwy o’i safleoedd gyda’r nod o fod o fudd i’r gymuned leol a’r amgylchedd tra’n meithrin ffyniant economaidd.”

Dull ‘Planed, Pobl, a Ffyniant’ - fel yr amlinellir yn Strategaeth Fasnachol CNC - sy’n tywys y strategaeth farchnata ac mae cynigion ar gyfer prydles y safle yn cael eu derbyn am y pedwar mis nesaf. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd CNC yn asesu pob cyflwyniad yn seiliedig ar ymlyniad at feini prawf y dull ‘Planed, Pobl, a Ffyniant’.

Ymgynghorir â phanel cynghori, yn cynnwys cynrychiolwyr o Hwb Ceinws – grŵp cymunedol sydd yn gweithredu o’r safle - i sicrhau bod buddiannau cymunedol yn cael eu cynrychioli yn y broses benderfynu derfynol.

Mae CNC yn ei gwneud yn ofynnol i’r safle barhau i gefnogi gweithgareddau cymunedol cyfredol, gan gynnwys y man chwarae, fel amod mewn unrhyw gytundeb prydles.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GwerthwchiGymru neu cysylltwch â Thîm Masnachol CNC yn commercialdevelopmentteam@cyfoethnaturiol.cymru.