Mae CNC yn annog y rhai sy’n ymweld ag awyr agored ardderchog Cymru i ymddwyn yn gyfrifol yr haf hwn
Ar ôl i ni gael tri chyfnod o dywydd hynod o boeth yn barod yng Nghymru, a chyfnodau pellach o dywydd poeth a heulog yn cael eu disgwyl yma dros yr haf, disgwylir i warchodfeydd natur, coedwigoedd a pharciau cenedlaethol Cymru fod yn atynfa boblogaidd iawn i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o'r lleoedd arbennig hyn wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod amgylcheddol fel sbwriel, tanau a gwersylla anghyfreithlon, yn ogystal â chynnydd mewn digwyddiadau diogelwch ar y mynyddoedd ac mewn dŵr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bryderus am yr effeithiau posibl ar fywyd gwyllt, cymunedau, a'r gwasanaethau brys, yn annog ymwelwyr i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ym mhob man awyr agored, gan atgoffa ymwelwyr o'r angen i gymryd camau i gynllunio eu hantur, atal tanau gwyllt a bod yn ddiogel ger dŵr yn ystod misoedd yr haf.
Dilynwch y Cod Cefn Gwlad
Y Cod Cefn Gwlad yw eich canllaw i fwynhau pob ardal awyr agored yn gyfrifol, gan gynnwys cefn gwlad, arfordir, parciau a dyfrffyrdd.
Dywedodd Joseph Conran, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Mynediad Awyr Agored a Hamdden yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae Cymru yn cynnig cefndir mor anhygoel i’ch anturiaethau ac rydym wrth ein bodd yn estyn croeso cynnes i ymwelwyr cyfrifol.
“I lawer, mae misoedd yr haf yn amser i ymlacio a chael hwyl. Fodd bynnag, dyma hefyd yr amser prysuraf o'r flwyddyn yn yr awyr agored, ac yn anffodus gall arwain at fwy o achosion o anafiadau, difrod i'n hamgylchedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae’r Cod Cefn Gwlad wedi bod gyda ni ers 75 mlynedd fel rhywbeth bach i’n hatgoffa o sut y gallwn barchu’r lleoedd yr ymwelwn â nhw. Drwy ddilyn ei negeseuon syml, gallwch deimlo’n hyderus eich bod yn gwneud y peth iawn i chi’ch hun, i bobl eraill a’r amgylchedd.”
Atal tanau gwyllt
Yn dilyn gwanwyn a dechrau’r haf eithriadol o gynnes a sych, mae angen i bobl gymryd gofal ychwanegol yng nghefn gwlad, gan mai dim ond un wreichionen grwydr sydd ei hangen i achosi tân a allai ddinistrio bywyd gwyllt a chymunedau, yn ogystal â rhoi ein gwasanaethau brys dan bwysau ychwanegol.
Yn ddiweddar, cafodd argyfwng ei ddatgan yng ngogledd Cymru wrth i danau gwyllt difrifol ymddangos mewn sawl lleoliad, gan achosi niwed sylweddol ac arwain at orfod gwacáu rhai cartrefi. Yn ogystal, roedd y mwg wedi effeithio ar ansawdd yr aer mewn cymunedau dros ardal eang.
Er mwyn atal tanau gwyllt rhag tanio, peidiwch â chynnau tanau gwersyll, taflu sigaréts na gadael sbwriel yng nghefn gwlad, yn enwedig poteli gwydr. Yn ystod cyfnodau o dywydd sych, gadewch y barbeciw gartref ac yn lle hynny paratowch bicnic. Ar adegau eraill, dim ond mewn mannau dynodedig y dylid defnyddio barbeciws lle mae arwyddion yn dweud eu bod yn cael eu caniatáu, yna dylid eu diffodd a'u gwaredu'n gyfrifol unwaith y bydd y lludw wedi oeri.
Mae gwersylla anghyfreithlon (heb ganiatâd perchennog y tir) yn cynyddu'r risg o danau gwyllt trwy adael sbwriel a chynnau tanau gwersyll, felly dylai'r rhai sy'n bwriadu gwersylla archebu ymlaen llaw mewn meysydd gwersylla swyddogol.
Cadwch yn ddiogel ger dŵr
Wrth i'r tymheredd godi, bydd y demtasiwn i oeri mewn dŵr agored hefyd yn cynyddu.
Cyn mynd i mewn i'r dŵr, dylech ystyried a ydych mewn lle diogel i nofio drwy gael golwg am beryglon cudd, ceryntau neu ddŵr sy'n llifo'n gyflym, ac asesu a allwch chi ddod allan yn hawdd. Peidiwch â mynd ar eich pen eich hun, ac os byddwch chi'n cael trafferthion yn y dŵr ceisiwch arnofio a pheidio â chynhyrfu tra bydd rhywun yn ffonio 999 am gymorth.
Yn dilyn marwolaethau eithriadol drist mewn rhaeadrau, mae'n bwysig deall bod rhaeadrau yn lleoedd peryglus i nofio. Gall y dŵr gwyllt byrlymus yng ngwaelod rhaeadrau eich atal rhag arnofio, tra gall cerhyntau cryf, sy’n cylchdroi eich dal o dan yr arwyneb.
Y lle mwyaf diogel ar gyfer nofio yn yr awyr agored yw ar draeth lle ceir achubwyr bywyd, rhwng y baneri coch a melyn. Mae gwefan AdventureSmartUk yn ffynhonnell dda o wybodaeth i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau nofio agored.
Mae gan Gymru 114 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig y mae CNC yn eu monitro o ran llygredd drwy gydol yr haf, sy’n caniatáu i bobl wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â mynd i nofio. Gallwch chi leihau’r risg o ddal afiechyd yn sgil bacteria neu firws drwy osgoi llyncu dŵr ac ymolchi yn fuan ar ôl nofio, a chyn bwyta. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ragor o gyngor ar gadw’n ddiogel ac yn iach mewn dŵr yn yr awyr agored.
Cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys y negeseuon canlynol:
Parchwch bawb:
- byddwch yn ystyriol o'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau
- gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent
- peidiwch â rhwystro mynediad i giatiau neu dramwyfeydd wrth barcio
- byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y lle
- dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau sydd wedi'u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael
Diogelwch yr amgylchedd:
- ewch â’ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad
- peidiwch â chynnau tanau a pheidiwch â chael barbeciws oni bai fod arwyddion yn dweud y cewch wneud hynny
- cadwch gŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser
- baw ci – bagiwch a biniwch mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref
- gofalwch am natur - peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch
Mwynhewch yr awyr agored:
- cadarnhewch eich llwybr a'r amodau lleol
- cynlluniwch eich antur – dylech wybod beth i'w ddisgwyl a beth allwch chi ei wneud
- mwynhewch eich ymweliad, gan gael hwyl a chreu atogofion