Mae CNC yn cefnogi estyniad dros dro i'r cyfnod taenu slyri yn dilyn tywydd sych
Cefnoga Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr hyblygrwydd dros dro hyn i ffermwyr, a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw o ganlyniad i’r tywydd sych eithriadol rydyn ni wedi’i gael eleni.
Mae'r cyfnod hir o ddiffyg glaw a thymheredd uchel wedi creu heriau sylweddol i fusnesau ffermio, ac wedi effeithio ar afonydd, cynefinoedd a bywyd gwyllt ledled Cymru hefyd.
Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu mwy o slyri ar adeg pan fo cyfleoedd i daenu ar y tir wedi'u cyfyngu gan amodau pridd sych, diffyg cnydau’n tyfu, a galw is o ran maetholion.
Mae'r estyniad dros dro i'r cyfnod taenu slyri yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i ffermwyr wrth helpu i leihau'r risg y bydd storfeydd slyri yn cyrraedd eu capasiti yn nes ymlaen yn y flwyddyn, a allai beri risg o fethiannau yn ymwneud â storio a digwyddiadau llygredd.
Rheolwr Rheoleiddio Polisi a Dull Gweithredu CNC, Eirian Macdonald:
"Dyma flwyddyn eithriadol i ffermwyr ledled Cymru, ac rydyn ni’n cydnabod bod llawer wedi gorfod darparu porthiant ychwanegol i dda byw ac anifeiliaid dan do mewn tymereddau uchel, er mwyn galluogi mynediad at ddigon o borthiant a dŵr.
"Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu mwy o slyri ar adeg pan fo llai o daenu slyri yn digwydd oherwydd pridd sych, diffyg twf cnydau ac llai o angen maetholion.
"Rydyn ni’n cefnogi'r mesur dros dro hwn sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, gan ei fod yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol, gan helpu i leihau'r risg o broblemau’n ymwneud â chapasiti storio slyri yn nes ymlaen yn y flwyddyn."
Bydd CNC yn parhau i ddisgwyl cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, a bydd yn gweithio gyda ffermwyr a phartneriaid ar draws y sector amaethyddol i gefnogi cydymffurfiaeth wrth amddiffyn dŵr, tir ac aer Cymru.